Blwyddyn Newydd Dda!
Mae Côr Meibion Taf yn ymarfer bob nos Sul am 7:30yh
YNG NGHLWB RYGBI LLANDAF,
RHODFA’R GORLLEWIN
Rydym wedi ymgartrefu bellach yng Nghlwb Rygbi Llandaf ar Rodfa’r Gorllewin. Rydym yn cwrdd am 7:30 bob nos Sul. Mae’r ymarfer yn gorffen am 9:00 ond mae’r cymdeithasu yn parhau mewn awyrgylch cartrefol braf wedi hynny!
CALENDR 2022/23
Rydym wastad yn brysur yn ystod gemau rygbi rhyngwladol yr hydref a thymor y ‘Chwe Gwlad’. Yn amlach na pheidio rydym yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob mis Awst. Mae croeso i aelodau hen a newydd ymuno â ni yn ein hymarferion pan gawn gyfle i atgoffa’n hunain o’r hen ffefrynnau a chael blas ar ddysgu darnau newydd.
Cysylltwch â Rhodri Jones 07770 559961 (Cadeirydd) neu Colin Williams 07768 900738 (Ysgrifennydd)

Mae’r côr yn mynd i’r Aban ym mis Chwefror 2023.
Darllenwch am fanylion y daith i Ynys Bute a Chaeredin

Repertoire 2022/23 (detholiad)
Perfformiadau diweddara:
Dathlu’r Nadolig yn y Vicky Park
Seiniau swynol Nadolig – yn y Vic
Rydd falm i bandemig;
Hudol noson nodedig
Wrth grwydro bro dod i’r brig.
Colin Williams

Côr Meibion Taf yng nghwmni Côr y Brythoniaid a Merched Plastaf
Dyma’r gyngerdd gynhaliwyd (o’r diwedd) ddwy flynedd a hanner wedi’r dyddiad gwreiddiol ym mis Mawrth 2020. Dilynwch y ddolen hon i weld rhagor o berfformiadau a lluniau o’r noson gofiadwy hon.

CMT yn denu sylw’r papurau bro
Eisteddfod Ceredigion, Tregaron, Awst 2022
Geraint Thomas (G) yn dymuno’n dda i CMT!
Dim safle ar y podiwm ond y côr wedi elwa’n fawr ar y gwaith paratoi caled ac yn ymfalchïo yn ein perfformiadau hyderus ar lwyfan y Genedlaethol. Ymlaen i Lyn ac Eifionydd yn 2023!

Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, Mehefin 2022
Cofio Gary Sam

Gary Sam
Ei rawg, bu’n un llawn rygbi – yn Gymro,
ei gamre’n ddireidi;
A Rhiwfawr fydd nawr i ni
Yn gaer i goffáu Gary.
Colin Williams
Fore Llun y 18fed o Orffennaf y daeth y newyddion ysgytwol ein bod wedi colli Gary Samuel, un o hoelion wyth Côr Meibion Taf. Roedd Gary wedi brwydro’n ddewr yn erbyn salwch enbyd. Gwelir ei golli gan gymaint o bobl mewn cynifer o gymunedau. Estynnwn fel côr ein cydymdeimlad i Beth, Rhodri, Hari, Emily, Natalie a Grace. Cynhaliwyd angladd Gary yng Nghapel y Wenallt, Y Ddraenen, Caerdydd ar y 9fed o Awst a daeth torf enfawr ynghyd i ddweud ffarwel am y tro olaf wrth gyfaill arbennig.
Gary oedd un o’r aelodau cyntaf i ateb holiadur Adnabod ein haelodau. Darllenwch am y cymeriad arbennig hwn yn ei eiriau ei hunan.

MAE CÔR MEIBION TAF YN UNIAETHU Â PHOBL WCRÁIN
‘GWYN EU BYD Y TANGNEFEDDWYR’
Y DARLUN
Adnabod ein haelodau
Er bod y côr wedi parhau i gyfarfod yn rhithiol dros y ddwy flynedd ddiwethaf, fe welodd y bois eisiau’r ymarferion wythnosol. Hwn yw’r cyfle i sgwrsio a chymdeithasu yn ogystal ag ymarfer y repertoire wrth gwrs. Fe benderfynon ni fynd ati felly, yn ystod y cyfnod ‘cofid’ i geisio dod i adnabod ein gilydd hyd yn oed yn well nag oedden ni eisoes a hynny trwy holi ac ateb cyfres o gwestiynau amrywiol.