1. Beth yw dy gefndir a’th hanes?

Ces i ngeni a’m magu yn mhentref bach Crwbin.  Saif y pentref rhwng y ddwy afon Gwendraeth – y Fach a’r Fawr. Pan oeddwn yn ifanc roedd dau chwarel (cwar) galch yno, un swyddfa bost/siop, capel annibynwyr Ebenezer, tafarn y Tri Chwmpas, ffynnon, ac with gwrs seindorf adran Crwbin, lle o’n i’n chwarae’r tenor horn (cyntaf ac ail) a’r ail baritone. 

    Es i Ysgol Gynradd Bancffosfelen a llwyddais i yn yr arholiad 11+.  Tra yn yr ysgol ymunais â changen yr Urdd yn y Banc.  Es i i wersyll yr Urdd yn Llangrannog a fi oedd y bachgen cyntaf i gael pythefnos o wyliau yn y gwersyll.

    Wedyn es i i Ysgol Ramadeg y Gwendraeth.  Tra yn y Gwendraeth, es i ar fordaith yr SS Nevassa o amgylch Spaen, Portiwgal a Madeira.  Ro’n ni fod mynd i’r Aifft, ond ar yr adeg honno roedd hi’n rhyfel rhwng Israel a’r Aifft a ffaelon ni fynd. Ro’n i’n rhy hen i fynd i Langrannog, felly lan â fi i wersyll Glanllyn ar lan llyn Tegid.  Dysgais i sut i fynydda, canẅio, hwylio, nofio, arwain nosweithie llawen a llawer mwy. Fi eto oedd y bachgen cyntaf i gael pythefnos o wyliau  yno.  Yn ystod fy ngyrfa yn yr ysgol bûm ar y llwyfan yn actio mewn dwy ddrama. Ni hefyd oedd y tîm rygbi cyntaf i groesi’r llen haearn yn 1970 pan aethon ni I Tsecoslofacia.  Antur fyth gofiadwy.

    Ar ôl gwneud fy lefel A, fe es i i Goleg Hyfforddi Athrawon Cyncoed.  Ro’n i yn fy elfen yno.  Tra yn y coleg,  ymunais i â’r clwb rygbi a bûm yn aelod anrhydeddus am tua deng mlynedd. Bûm ar dair taith gyda HTV i ORTF yn Paris a sgoriais i ddau gais mewn un gêm a ddarlledwyd dros Ffrainc i gyd!

    Yn 1981 ymunais i â CHSOB (cyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Caerdydd) ac aethon ni ar daith i Denver, Colorado am dair wythnos (adeg priodas Charles a Diana).  Ces i amser anhygoel yno.

    Yn 1991 esgynnodd Cwins Caerdydd i adran 4 cynghrair Undeb Rygbi Cymru. Fi oedd y rheolwr ar y bechgyn pan esgynnon ni eto o’r bedwaredd adran i’r ail adran dan hyfforddiant John a Vernon Pugh. Yn 1995 fe es i’n rheolwr ar UWIC Caerdydd (Met Caerdydd erbyn hyn). Y prif hyfforddwr eto oedd John Pugh.  Er i ni ddechrau yn y bedwaredd adran, enillon ni ddyrchafiad i’r ail a chafodd 5 o’r chwaraewyr gap i Cymru. 

    Ymaelodais i â Chlwb Golff Dinas Powys yn 1995, ond chwaraeais i ddim yn gyson tan 1999. Yn 2007 etholwyd fi yn gapten y clwb a nawr fi yw llywydd y clwb. 

    O’r coleg, es i yn athro Cymraeg ail iaith i Ysgol Ramadeg Bechgyn y Barri.  Pan ddechreuais i yn 1974 roedd 1750 o fechgyn yno. Des i’n bennaeth Cymraeg yn 1990 ac wedyn ar ôl tair blynedd symudais i i Ysgol Gymunedol Saint Cyres ym Mhenarth.  Bûm yn bennaeth Cymraeg yno tan 2008.  Yn ystod fy ngyrfa, dechreuais i drefnu bod disgyblion blwyddyn 7, 8 a 9 o ysgolion uwchradd Caerdydd a’r Fro yn mynd i wersyll Llangrannog ar gyrsiau Cymraeg ar wahanol adegau o’r flwyddyn.

    Roeddwn i’n ddirpwy bennaeth Canolfan yr Urdd yn Heol y Crwys dan Alan Gwynant a bues i mewn ambell Eisteddfod yr Urdd fel gweithiwr maes.  Bues i’n swog yn Llangrannog o 1972 tan 1979, a hefyd yn swog yng Nglanllyn yn yr 80au. 

    1. Beth yw dy atgof cynharaf?

    Mynd i’r ardd i nôl tato, erfinen, panasen, carotsen a bresychen i Alun, fy mrawd blwydd oed yn ei  bram a dweud “dyna  dy ginio”.

    1. Disgrifia dy hun mewn 3 gair

    Diamynedd, hyderus, trefnus

    1. Beth yw dy hoff le yng Nghymru/yn y byd?

    Arfordir Sir Benfro o Draeth Mawr i Borthgain

    Llyn Annecy yn Ffrainc

    1. Unrhyw arferion drwg?

    Swrth (grympi) ym marn fy ngwraig!

    1. Beth sy’n dy wylltio?

    Fy  ngwraig yn rhoi cyllyll ar fagned y wal yn y drefn anghywir!

    1. Rhanna rywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod

    Fi oedd pencampwr chess SS Nevassa pan yn  14 mlwydd oed.

    Chwaraeais i i’r Welsh Classicals  yn erbyn Clwb Rygbi Dinbych pan agorwyd y clwb yn swyddogol. (Gol: onid oedd Eifion yn chwarae i Ddinbych yn yr un gêm?)

    1. Pwy yw’r person mwya nodedig i ti gwrdd erioed?

    Gwenlyn Parry.  Pan oedd dad yn gosod trydan yn ei dŷ yn y Banc, ro’n i fod yn swoto ar gyfer fy lefel A. Ond gofynnodd Gwenlyn i fi ddod  gyda fe o gwmpas tafarndai lleol Crwbin a’r cylch, a dyna sut dechreuodd Pobol y Cwm.

    9. Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwnnw?

      Cinio twrci gyda’r “trimmings” i gyd ac i orffen os oes lle, pwdin reis Mam.

      Dewi Pws, Vernon a John Pugh a’u gwragedd, fy ngwraig Liz a Ryan Davies.

      10. Sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden? 

        Chwarae golff, gweithio yn yr ardd, cerdded yn y bore, a chanu yn y côr.

        11. Beth yw dy hoff raglenni teledu?

          Heartbeat, Mash a ffilmiau cowbois John Wayne a Clint Eastwood.

          12. Beth yw hoff lyfrau a phwy yw dy hoff awduron?

            Unrhyw lyfr gan James Patterson, Clive Cussler, Wilber Smith a David Balldaci.

            13. Pa ddarnau o gerddoriaeth byddet ti’n dewis gwrando arnynt ar ynys bellennig?

              Nia Ben Aur gan Clive Prendelyn 

              Lleucu Llwyd gan Tebot Piws 

              14. Pe baet yn Brif Weinidog beth fyddai dy freuddwyd di?

                Annibyniaeth i Gymru: mae digon o ddŵr gyda ni sef olew y dyfodol

                15. Pwy wyt ti’n enwebu nesa?

                  Alun Tudur Jenkins: fy nghyn gefnwr yn y Clwb Rygbi a thenor 1 yn y côr.