Mae tadcu ein harweinydd, Steffan Jones, yn cofio cyflafan Chwefror 1940 yn glir. Crwt wyth oed oedd Milton Jenkins ar y pryd yn byw gyda’i frawd a’i rieni ar fferm Tyr Mynydd ar Fynydd Sylen ger Llanelli. Dyma’i atgofion am ymosodiad y Luftwaffe yn ei eiriau ei hun.

Y Parch Milton Jenkins yn dal darn o’r bom a laniodd ar dir y fferm

‘Roedd fy nheulu yn ffermio tua 70 erw i gyd. Roedd Tyr Mynydd tua 30 erw ac roedd Gorstoncyn tua 40 erw. Glöwr oedd fy nhad a gweithiai mewn pyllau cyfagos ym Mhontyberem a’r Tymbl. Fy mam, felly, oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o’r ffermio – tyfu llysiau, cadw gwartheg ac ieir ac ati. Byddai Mam yn mynd i farchnad Llanelli bob dydd Iau i werthu cynnyrch y fferm i’w chwsmeriaid rheolaidd.


Yn ystod y rhyfel, caniataodd fy rhieni i’r ffermdy yn Gorstoncyn gael ei ddefnyddio gan faciwîs o Loegr. Gallaf gofio dau deulu yn dod yno, un o Lundain a’r llall o Swydd Hertford. Y teulu o Lundain oedd y Spencers. Un o aelodau’r teulu oedd merch o’r enw Eunice a oedd flwyddyn neu ddwy yn hŷn na fi. Arferai alw yn ein fferm ar ddydd Gwener pan fyddai fy mam yn pobi bara a byns. Byddai fy mam yn rhoi byns iddi fynd adref â nhw ac rwy’n cofio sut y byddai hi bob amser yn mynd i’r das wair ac yna’n gorchuddio’r byns â gwair. Pan ofynnais iddi pam y gwnai hyn, dywedodd fod y gwair yn cadw’r byns yn gynnes!


Roedd y Gwarchodlu Cartref (Home Guard) wedi gosod golau archwilio mawr ar ben Mynydd Sylen. Weithiau, byddai aelodau’r gwarchodlu yn dod draw i’r fferm yn y bore a byddai fy mam yn rhoi llaeth a bara cartref iddynt. Fel rheol roedd tua chwech ohonyn nhw’n gweithredu’r golau archwilio. Roeddem yn byw mewn ffermdy bach gyda dwy ystafell wely lan llofft. Roeddwn i’n rhannu ystafell wely gyda fy mrawd hÿn ac roedd y ddau ohonom yn cysgu yn yr un gwely. Lawr llawr, roedd gennym loches Morrison, sef bwrdd dur y byddem yn cysgu oddi tano pan fyddai cyrchoedd yn digwydd.


Rwy’n dal i gofio’n glir y noson es i gyda Mam lan i ffordd y mynydd a gweld Abertawe’n llosgi’n goch yn dilyn y cyrchoedd bomio cyntaf. Crwt ifanc oeddwn i ac, wrth edrych yn ôl, rwy’n ymwybodol iawn nad oeddwn i’n sylweddoli pa mor beryglus oedd y sefyllfa.

Y noson ganlynol, aethon ni i gyd i’r gwely fel arfer. Y peth nesaf dwi’n ei gofio yw fy mam yn gweiddi’n uchel, “Cwata dan y dillad gwely!” Rhoies I fy mhen o dan y cynfasau a phan fentres i edrych mas y cyfan gallwn ei weld oedd awyr y nos. Roedd to’r tÿ wedi’i chwythu i ffwrdd!
Cafodd tri chrater eu creu gan y bomiau laniodd ar dir y fferm ond, diolch i’r drefn, nid anafwyd neb. Roeddem yn gymuned ffermio agos a phawb wastad yn barod i helpu’n gilydd. Atgyweiriwyd y to gyda chymorth cymdogion. Yr unig ddifrod parhaol oedd i lygad un o’r gwartheg!
Fore trannoeth daeth rhywrai i edrych ar y craterau ac mae’n debyg mai un o awyrennau’r Almaenwyr oedd wedi gollwng y bomiau wrth iddi geisio dianc rhag yr awyrennau oedd yn ei herlid. Er bod bomio Abertawe wedi digwydd 80 mlynedd yn ôl rwy’n ei gofio fel petai ddoe.’