Union flwyddyn yn ôl fe dderbyniodd y côr wahoddiad i ganu yng Nghlwb Rygbi Pentyrch ar y nos Wener cyn gêm yr Alban yn y 6 Gwlad. Mae aelodau Clwb Rygbi Ynys Bute wedi bod yn ymweld â Phentyrch ar yr achlysur hwn yn ddiffael ers deugain mlynedd a chafwyd dathliad arbennig i nodi’r garreg filltir nodedig hon llynedd. Yn ogystal â hynny, fodd bynnag, y noson honno plannwyd y syniad, efallai, y gallai Côr Meibion Taf ddychwelyd i’r ynys ryw ddydd. Ddeuddeg mis yn ddiweddarach gwireddwyd y freuddwyd ac yn gynnar un bore o Chwefror ymadawodd deugain o gantorion, eu harweinydd a’u cyfeilydd ynghyd ag ambell gyfaill ar y daith i’r Hen Ogledd …
Dilynwch y dolenni ar y dudalen hon er mwyn dilyn hynt a helynt aelodau Côr Meibion Taf ar eu taith i’r Alban eleni.