Eglwys St David’s Caerau Trelai, Caerdydd

28 Mehefin 2024

Cyngerdd i gefnogi aelodau’r eglwys yn eu hymdrechion i godi arian i adfer yr adeilad. Roedd CMT wrth eu bodd i rannu’r llwyfan gyda thri o ddisgyblion dawnus Ysgol Gyfyn Plasmawr – Reuben Gray, Hannah Edwards a Lefi Jô Hughes.

Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd

26 Ionawr 2024

Dechrau’r flwyddyn newydd trwy gystadlu yn Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd yn Ysgol Glantaf. Saith côr ar y llwyfan ac CMT yn cipio’r ail wobr.

Cyngerdd Nadolig CMT – Lansio’r albwm ‘Gwahoddiad’

Mae cyngerdd Nadolig Côr Meibion Taf wastad yn achlysur i’w fwynhau ond roedd arwyddocâd arbennig i’r cyngerdd eleni wrth i’r côr lansio albwm newydd, Gwahoddiad, ar 7 Rhagfyr. Cynhaliwyd y cyngerdd yn Eglwys St John’s, Treganna gyda chôr Ysgol Treganna a’r mezzo-soprano ifanc o Benarth, Llinos Haf Jones yn westeion arbennig.

CMT yn y Theatr Newydd fel rhan o bodlediad byw Geraint Thomas

Cafwyd noson i’w chofio pan wahoddwyd Côr Meibion Taf i berfformio yn y Theatr Newydd yng Nghaerdydd fel rhan o bodlediad Geraint, The Geraint Thomas Cycling Club. Cynhaliwyd y podlediad byw nos Fawrth, 7 Tachwedd. Bu’r côr yn ymarfer yn galed at y noson ac fe wahoddwyd Geraint i fwrw ei linyn mesur dros y canu nos Sul 29 Hydref yn Nghlwb Rygbi Llandaf. Roedd y bois wrth eu bodd i gwrdd ag un o’n harwyr cyfoes a Geraint ei hun yn hapus i rannu llwyfan â ni!

CMT yn cipio’r ail wobr yn Steddfod y Cymoedd Caerffili 2023

Côr Meibion Taf yng nghwmni Côr Y Brythoniaid a Merched Plastaf, 4 Tachwedd 2022

American Trilogy

Y gyngerdd a drefnwyd yn wreiddiol ar gyfer mis Mawrth 2020. Ond fe ddaeth y pandemig! Gohiriwyd y gêm ryngwladol rhwng Cymru a’r Alban, gohiriwyd y gyngerdd a throdd y Brythoniaid yn ôl am adref wedi cyrraedd Llanidloes. Dros ddwy flynedd a hanner yn ddiweddarach cynhaliwyd y gyngerdd yn Eglwys St John’s Treganna, Caerdydd. Ac am noson gofiadwy …

Eisteddfod Ceredigion, Tregaron, Awst 2022

Coleg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, 23 Mehefin 2022

Noson gofiadwy yn darparu adloniant i aelodau’r QAAHE (Quality Assurance Agency for Higher Education).

Gwesty Marriott, Caerdydd 11 Mawrth 2022

Noson hwyliog yng nghwesty Marriott yn diddanu rhai o gefnogwyr Ffrainc cyn y gêm ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad

Clwb Rygbi Pentyrch (eto!) 11 Chwefror 2022

Mae perthynas agos wedi datblygu rhwng y côr a Chlwb Rygbi Pentyrch yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Hwn yw’n ‘hail gartref’ erbyn hyn ac roeddem wrth ein boddau i dderbyn gwahoddiad i ganu yno ar y nos Wener cyn gêm yr Alban yn y 6 Gwlad. Mae aelodau Clwb Rygbi Ynys Bute wedi bod yn ymweld â Phentyrch ar yr achlysur hwn yn ddiffael ers deugain mlynedd a chafwyd dathliad arbennig i nodi’r garreg filltir hon eleni. Tybed a wêl Ynys Bute Gôr Meibion Taf ryw ddydd?

Neuadd y Memo, Y Barri 4 Rhagfyr 2021

Buom yn canu yn nathliad 40fed penblwydd y Barry Beavers. Cymdeithas yw Barry Beavers sy’n dysgu plant a phobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol i nofio. Mae tua 60 o aelodau yn cwrdd bob pnawn Sadwrn yng Nghanolfan Hamdden y Barri i ddysgu nofio dan ofal hyfforddwyr gwirfoddol ymroddgar. Y siaradwraig wadd ar y noson oedd Y Fonesig Tanni Grey.

Clwb Rygbi Pentyrch 27 Tachwedd 2021

Noddwyd y gêm rhwng Pentyrch a Chlwb Rygbi Cymru Caerdydd gan y côr i ddiolch i Glwb Rygbi Pentyrch am gael defnyddio’u hadeilad i ymarfer ym misoedd Hydref a Thachwedd. Fel arwydd o’n gwerthfawrogiad fe ganon ni i ddiddanu’r dorf hanner amser ac yn y clwb ar ôl y gêm (yn ogystal â rhannu bwffe bendigedig).

Lluniau IRFON BENNETT

Dydd Sadwrn 9 Hydref 2021

Ar ddechrau mis Hydref canodd y côr ar achlysur hapus priodas ein harweinydd Steffan Jones ag Elin yng Nghapel Tonyfelin, Caerffili. Cymerodd Iwan Guy, ein his-arweinydd yr awenau. Roedd canu yn oriel y capel yn dipyn o her gan fod gofynion covid yn gofyn am ymbellhau cymdeithasol rhwng pob unigolyn, a nifer y bechgyn yn llai na’r arfer oherwydd hunan-ynysu. Ond fe lwyddon ni diolch i Iwan ac i Lowri Guy am ei chyfeilio diffael, fel arfer.

Llun IRFON BENNETT

Dydd Gŵyl Dewi 2020

Braint fawr oedd cael perfformio ar lwyfan Lefel 3 Neuadd Dewi Sant yn ystod cyngerdd Gŵyl Dewi Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Eisteddfod Caerdydd – Ionawr 2020

Cymdeithas Gymraeg Dinas Powys: 29 Tachwedd 2019

Cyngerdd Acapela: 26 Medi 2019

Nos Iau, 26 Medi, cynhaliwyd cyngerdd yn Acapela gan Gôr Meibion Taf er mwyn dathlu cychwyn Cwpan Rygbi’r Byd. Wedi i nifer fwynhau’r pizzas blasus cyn i’r cyngerdd ddechre cafwyd gwledd arall o ganu dan arweiniad Steffan Jones a’r cyfeilydd Lowri Guy. Ymhlith yr unawdau a ganwyd gan Steffan, yr arweinydd, oedd ei ddehongliad o ‘Ar Lan y Môr ‘ a greodd y fath argraff ar y gwrandawyr yn y Pantheon yn Rhufain ym mis Chwefror pan oedd Cymru yn chware Rygbi yn erbyn yr Eidal. Yn ogystal diddanwyd y gynulleidfa gan Catrin Herbert, y gantores a chyfansoddwraig o’r Creigiau. Gallwn ddisgwyl EP newydd ganddi cyn y Nadolig – felly dyna syniad am anrheg! Llywiwyd y noson yn ddeheuig yn ôl ei arfer gan Huw Llywelyn Davies.

Proms Cymru 2019: Pres, Lleisiau ac Organ

Dydd Mercher 24ain Gorffennaf 2019

Diolch o galon i Owain Arwel Hughes ac i Neuadd Dewi Sant am gael bod yn rhan o’r achlysur eleni

Cyngerdd Bethesda 30 Mawrth 2019

LLAIS OGWAN (rhifyn mis Ebrill papur bro ardal Bethesda)

Cyngerdd gyda Chôr Meibion Taf. Ar Nos Sadwrn 30 Mawrth croesawodd y côr aelodau Côr Meibion Taf i Fethesda i gynnal cyngerdd ar y cyd gyda ni yng Nghapel Jerusalem. Daeth cynulleidfa deilwng ynghyd i wrando ar y ddau gôr yn cyflwyno amrywiaeth o ddarnau hen a newydd. Roedd y cyngerdd wedi gwneud argraff arbennig ar rai a dwedodd Mrs Nia Jones o Fôn ei bod wedi ei phlesio’n fawr gan leisiau’r ddau gôr. Meddai, “ Fe fûm i’n canu fel unawdydd gwadd gyda Chôr y Penrhyn rai blynyddoedd yn ôl bellach, ac ers hynny mae’r côr wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran eu rhaglen a’u cyflwyno gwahanol a chyffrous.” Ategwyd hynny gan Mr a Mrs Jones o Fethesda, “ Dan ni’n dau yn gefnogwyr brwd o Gôr y Penrhyn,” meddent, “a phan mae eu canu yn dwyn pleser i gynifer o bobl o bob oed maen nhw’n haeddu eu clodfori i’r uchelderau.” Ychwanegodd Mr Jones, “Dwi’n dilyn rygbi a chanu fel ei gilydd ac mae’n braf gweld mentrau lleol fel y clwb rygbi a’r côr yn mwynhau cyfnod o lwyddiant fel hwn.” Wrth sôn am ganu Côr Taf dwedodd amryw bod eu lleisiau melodaidd a’u canu sensitif yn wefreiddiol a hoffodd amryw’r darn lle’r oedd Steffan Jones, eu harweinydd talentog, yn cymryd rhan yr unawdydd yn arbennig o effeithiol. Dyma gôr sy’n cynnwys nifer o ffigurau amlwg o fyd y cyfryngau gan gynnwys Huw Llewelyn Davies a John Evans. Daeth Côr y Penrhyn i gyffyrddiad â hwy gyntaf yn ystod gêm rygbi ryngwladol yn erbyn Yr Alban yng Nghaerdydd. Hyderwn yn fawr y bydd y berthynas yn parhau.

Canu i aelodau Undeb Rygbi Cymru

Yr Hen Lyfrgell – 16eg Mawrth 2019

Y Pantheon, Rhufain

Dydd Gwener, Chwefror 8fed 2019

Roedd yn anrhydedd fawr i’r côr gael perfformio yn y lle rhyfeddol hwn.

Cyngerdd ar gyfer Prostate Cymru, Penarth, Nadolig 2018