Union flwyddyn yn ôl fe dderbyniodd y côr wahoddiad i ganu yng Nghlwb Rygbi Pentyrch ar y nos Wener cyn gêm yr Alban yn y 6 Gwlad. Mae aelodau Clwb Rygbi Ynys Bute wedi bod yn ymweld â Phentyrch ar yr achlysur hwn yn ddiffael ers deugain mlynedd a chafwyd dathliad arbennig i nodi’r garreg filltir nodedig hon llynedd. Yn ogystal â hynny, fodd bynnag, y noson honno plannwyd y syniad, efallai, y gallai Côr Meibion Taf ddychwelyd i’r ynys ryw ddydd. Ddeuddeg mis yn ddiweddarach gwireddwyd y freuddwyd ac yn gynnar un bore o Chwefror ymadawodd deugain o gantorion, eu harweinydd a’u cyfeilydd ynghyd ag ambell gyfaill ar y daith i’r Hen Ogledd …

Dilynwch y dolenni ar y dudalen hon er mwyn dilyn hynt a helynt aelodau Côr Meibion Taf ar eu taith i’r Alban eleni.

9-12 Chwefror 2023

Dydd Iau 9 Chwefror – y daith i Ynys Bute

Rothesay

Dydd Gwener 10 Chwefror – y Cyngerdd Mawreddog

Plasdy Mount Stuart

Dydd Sadwrn 11 Chwefror – diwrnod y gêm

Codi’r Canu Clwb Rygbi Stewart Melville

yng nghwmni Cymdeithas Gymraeg Caeredin

Dydd Sul 12 Chwefror – ‘Ac wedi elwch, tawelwch fu …’