Ffurfiwyd Côr Meibion Taf yn 2004 ac eleni rydym yn dathlu ein hugeinfed pen-blwydd. Yn ystod y cyfnod hwn mae’r côr wedi tyfu i gynnwys dros chwe deg o aelodau sy’n byw yng Nghaerdydd a’r cyffiniau.

Mae’r côr wedi cipio’r wobr gyntaf deirgwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac wedi perfformio’n gyson yng Nghymru a thu hwnt. Cynhaliwyd teithiau llwyddiannus yn ystod y ddegawd ddiwethaf i Ogledd America, yr Eidal, Iwerddon, yr Alban a Chernyw.

Mae’r côr wedi ymddangos ar lwyfan Neuadd Dewi Sant fel rhan o Proms Cymru ac yn Neuadd Frenhinol Albert yng nghyngerdd Gŵyl Corau Meibion Cymry Llundain.

Gelwir ar y côr yn aml i gynnal cyngherddau er budd elusennau amrywiol, ac maent wedi perfformio sawl gwaith yn Stadiwm y Principality cyn gemau rygbi rhyngwladol Cymru.

Mae’r côr newydd newydd recordio a rhyddhau ail CD, ‘Gwahoddiad’.

Er mwyn cysylltu â Chôr Meibion Taf ewch i’n tudalennau Facebook ac X (Twitter) neu ymwelwch â’r wefan www.cormeibiontaf.cymru 

Arweinydd – Steffan Jones

Ganwyd Steffan yng Nghaerdydd yn 1987. Roedd yn Sgolor Corawl yng Nghôr Capel Coleg Worcester, Prifysgol Rhydychen, cyn symud i Lundain i astudio’r llais yn y Coleg Cerdd Brenhinol. Fel unawdydd, mae wedi canu gydag Opera Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru MAX, perfformio Requiem Fauré yn St Martin-in-the-Fields a Mass Bernstein yn Proms y BBC yn 2012. Yn 2011, enillodd yr Unawd dan 25 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac o ganlyniad fe gystadlodd yn Ysgoloriaeth Bryn Terfel ar S4C. Yn ystod 2014, teithiodd fel unawdydd i Ottawa, Canada, i wneud cyfres o berfformiadau gyda Chymdeithas Gymreig y ddinas. Yn ystod ei gyfnod yn Llundain, fe sefydlodd Aelwyd yr Urdd, gydag eraill. Ef oedd arweinydd cyntaf côr yr Aelwyd ac fe enillodd y côr merched yn Eisteddfod yr Urdd, Eryri 2012. Ers Tachwedd 2015, Steffan yw arweinydd Côr Meibion Taf. Hyd yma, mae wedi arwain y côr ar deithiau i Ddulyn a Rhufain, yn ogystal â chyngherddau niferus. Roedd Steffan hefyd yn gyfrifol am gyd-arwain Côrdydd yng Ngŵyl Gymreig Ontario yn 2016. Mae’n astudio gyda Gail Pearson ac yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018 fe gyrhaeddodd y Rhuban Glas.

Cyfeilydd – Lowri Guy

Mae Lowri yn enedigol o Benrhyn-coch ger Aberystwyth. Derbyniodd radd BMus, dosbarth cyntaf ac MA, Anrhydedd mewn Cerddoriaeth o Goleg Prifysgol Cymru, Bangor, ac mae bellach yn bennaeth Cerddoriaeth yn Ysgol Llanhari yn Rhondda Cynon Taf. Mae’n gyfeilydd adnabyddus, ac wedi bod yn gyfeilydd swyddogol yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac ar gyfer Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel nifer o weithiau. Yn gyfeilydd i’r côr ers 2006, mae wrth ei bodd yng nghwmni’r dynion! Mae’r holl aelodau yn gwerthfawrogi dawn ac ymroddiad Lowri i’r Côr, ac yn hynod ffodus i gael cyfeilydd o’r safon uchaf. Mae Lowri yn briod â Tom ac mae ganddynt ddau o blant, Wil a Hanna.

DOD I ADNABOD LOWRI: YN EI GEIRIAU EI HUN

Adnabod ein haelodau

Er bod y côr wedi parhau i gyfarfod yn rhithiol yn ystod y cyfnod clo, roedd y bois yn gweld eisiau’r ymarferion wythnosol. Hwn yw’r cyfle i sgwrsio a chymdeithasu yn ogystal ag ymarfer y repertoire wrth gwrs. Fe benderfynon ni fynd ati felly i geisio dod i adnabod ein gilydd hyd yn oed yn well nag oedden ni eisoes a hynny trwy holi ac ateb cyfres o gwestiynau difyr ac ysgafn. Bydd pob aelod yn enwebu aelod arall yn ei dro.

TENORIAID

Gethin Williams

Gareth Humphreys

Adrian (Ade) Jackson

Ed Williams

Byron Edwards

Aled Rees

Goronwy ‘Gogs’ Jones

Huw Herbert

Elgan ‘Elgano’ Davies

Ben ‘Mwni’ Davies

Huw ‘Bala’ Williams

Derek Mead

Colin Williams

BARITONIAID

Rhodri Jones

Gwyn Roberts

Gareth Davies

Richard Jones

Dai Boobier

John Thomas

Seimon Stockton

Eifion Thomas

BASWYR

Cofio Gary Sam

Edryd Lloyd

Gwyn Hughes-Jones

John ‘Llanboidy’ Phillips

Alun Wyn Bevan