1. Rho grynodeb i ni o’th gefndir. Beth ddaeth â ti i’r ardal hon (dalgylch CMT)?
Cefais fy ngeni yn Llandudoch, Sir Benfro ac yn bedair oed symudais i dre Aberteifi. Ar ôl cwblhau fy addysg yn Ysgol Ramadeg Aberteifi fe es i Southampton i hyfforddi i fod yn syrfewr cartograffeg gyda’r Ordnance Survey. Treiliais rhan fwyaf o fy ngyrfa yng Nghymru.
Cyflwynodd Edryd Lloyd fi i CMT 11 mlynedd yn ôl.
2. Beth yw dy atgof cynharaf?
Dod yn fuddigol yng nghystadleuaeth unawd soprano i fechgyn yn Eisteddfod Capel Tabernacl yn Aberteifi a wedyn gorfod canu yng ngwasanaeth nos Sul tra’n sefyll ar focs i bawb allu fy ngweld i. Dwi dal angen bocs!!
3. Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Byrbwyll. Hwyliog. Cymdeithasol.
4. Beth yw dy hoff le yng Nghymru / yn y byd?
Traeth Aberporth. Yn y byd? Laigueglia, Liguria yn yr Eidal
5. Oes gen ti unrhyw arferion gwael?
Oes, gormod i restru.
6. Beth sydd wir yn dân ar dy groen di ?
Pobl ddi-Gymraeg sy’n cwyno am yr iaith Gymraeg a pherchnogion tai yn newid hen enwau cartrefi o’r iaith Gymraeg i’r Saesneg.
7. Beth am rannu rhywbeth gyda ni nad yw llawer o bobl yn ei wybod?
Helpu ffrind i hwylio ei gwch o Torquay i Aberdaugleddau dros gyfnod o wythnos a hefyd o Faro, Portugal i Cartagena, Sbaen tua 500Km o bellter.
8. Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Kiri Te Kanawa. Cefais y fraint o wrando arni yn cynnal dosbarth meistr i fyfyrwyr Academi Llais Rhyngwladol Cymru.
9. Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy yr hoffet ti rannu’r pryd hwn?
Cregyn gleision yn syth o’r môr gyda saws gwin gwyn a garlleg gyda’r teulu.
10. Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT, sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?
Trio chwarae golf, cerdded yn ddyddiol, ychydig o DIY a lot o gymdeithasu.
11. Yn ystod y cyfnod clo pa raglenni teledu wyt ti wedi mwynhau eu gwylio?
Summer of Rockets, Line of Duty, Time, i enwi ond ychydig.
12. Beth yw dy hoff lyfr? Pwy yw dy hoff awdur?
Does gen i ddim hoff lyfr.
Hoff awdur: John Grisham.
13. Pa gerddoriaeth byddet ti’n dewis gwrando arni ar ynys bellennig?.
‘Leonard Cohen’s Greatest Hits’ !
14. Nawr bod y cyfnod clo drosodd, beth wyt ti’n edrych ymlaen at ei wneud fwyaf?
Mynd ar wyliau dramor gyda’r teulu oll.
15. Pwy wyt ti’n ei enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesaf?
Edryd Lloyd (Baswr).
