Bariton a thrysorydd CMT

  1. Rho grynodeb i ni o’th gefndir a’th hanes.

Fe’m ganwyd yn Ysbyty Mamolaeth Glossop Terrace yng Nghaerdydd ar 28 Chwefror 1960 i rieni o gymoedd yr hen Sir Forgannwg. Roedd Mam yn hannu o Dreorci a gwreiddiau’r teulu yn y Rhondda a Sir Aberteifi. Roedd Dad yn enedigol o Gaerffili a gwreiddiau ei deulu ef yn ochre Tonyrefail yn y Rhondda. Daeth fy rhieni i Gaerdydd i ddysgu yn y sector addysg gynradd wedi’r Ail Ryfel Byd a bu Mam yn bennaeth ar ddwy ysgol gynradd cyn ymddeol. 

Bu farw fy nhad yn ifanc iawn yn 1968.

Cefais fy addysg yn Ysgol Gynradd Bryntaf, Ysgol Gyfun Rhydfelen, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth a Choleg y Gyfraith yng Nghaer. Dychwelais i Gaerdydd yn 1982 a gweithio yn y byd cyfreithiol tan i fi ymddeol y llynedd.

Mae gen i chwaer o’r enw Siân sy’n ifancach na fi. Mae hi’n gweithio yn y byd teledu ac yn adnabyddus i rai ohonoch.

Rwy’n briod â Nia ac mae gennym ddau o blant sef Hawys (35) a Rhidian (33).

Mae gennym ddau ŵyr sef Moira sy’n 2 a Wil sy’n bedwar mis a hanner. Mae’r plant a’r wyrion yn byw yn Llunden.

Bues i’n ddigon ffodus i gael y cyfle i ganu gyda Chôr y Tabernacl o dan arweiniad Euros Rhys. Roedd Rob Nicholls yn cyfeilio a chanu gyda’r côr. Pan gyhoeddodd Rob ei fod yn sefydlu côr meibion, penderfynes i yr hoffwn ymuno â Chôr Meibion Taf. Dywedodd Rob fy mod yn baritôn ‘and the rest is history‘ fel maen nhw’n dweud.

  1. Beth yw dy atgof cynharaf?

Cwestiwn anodd iawn. Dw i ddim yn gwbod!

  1. Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Manwl. Cydwybodol. Cymdeithasol. 

Bydde’r teulu yn dweud fy mod braidd yn ddiamynedd ar adegau!

  1. Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?

Aberporth a Villefranche-sur-mer ar y Côte d’Azur.

  1. Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?

Oes wir ond dw i ddim yn mynd i ddatgelu nhw yn gyhoeddus. 

Rwy’n fodlon cyfaddef fy mod yn hoff o fwyta creision a chnau tra’n gwylio’r teledu.

  1. Beth sydd yn dy wylltio ?

Gyrwyr sy’n aros yn y lôn ganol ar y draffordd. (Amen – gol.)

Pobl sydd â dim rheolaeth dros eu cŵn.

Pobl sy’n siarad yn uchel ar eu ffonau ar drên.

Cefnogwyr y Scarlets (jôc bois, onest!)

  1. Beth am rannu rhywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?

Bues i’n modelu dillad ar raglen blant Telewele pan oeddwn tua 10 oed. Janet Parry-Jones a Hywel Gwynfryn oedd y cyflwynwyr. Gwisgais grys aur sgleiniog y tro cynta a siwt las tywyll yr ail waith. (Llun ogydd – gol.)

  1. Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?

Cwestiwn amserol iawn fel mae’n digwydd! Bythefnos yn ôl aeth Nia a fi i fwyty Eidalaidd o’r enw La Fiorita yn Amsterdam. Wedi cyrraedd y bwyty, dyma’r ferch oedd yn gweini yn dweud fod rhywun enwog yn eistedd ar y bwrdd drws nesa a gofyn i ni beidio tynnu unrhyw lunie. Roedd Sarah Jessica Parker, ei gŵr Matthew Broderick a dyn arall yn eistedd wrth y bwrdd. Yn anffodus nid oedd cyfle am hunlun!

  1. Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?

Cymysgedd o fwyd y môr yn cynnwys octopws a môr-lawes (squid) gyda fy ngwraig a’r teulu.

  1. Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?

Seiclo, chwarae golff, cerdded, dilyn Rygbi Caerdydd a Chymru, gwylio pob math o chwaraeon yn cynnwys pêl-droed, criced a thenis, mynd i’r sinema a’r theatr, darllen, teithio yn y wlad yma a thramor, treulio amser gyda fy nheulu.

  1. Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio?

Rhaglenni chwaraeon byw; cyfresi drama modern; cyfresi drama Scandi Noir a rhaglenni dogfen.

Rwy wrth fy modd yn gwylio hen gyfresi comedi fel Only Fools and Horses. Mae rhai o’r llinellau yn anfarwol.

  1. Beth yw dy hoff lyfr(au)? Pwy yw dy hoff awdur(on)?

Fy hoff lyfr yw ‘Granite Island’ gan Dorothy Carrington – llyfr am hanes a diwylliant Corsica. Rwy wedi ymweld â Chorsica nifer o weithie ac wrth fy modd gyda’r lle.

Rwy’n hoff iawn o lyfrau Mick Herron a David Baldacci ar hyn o bryd.

Mae llyfrau Llwyd Owen yn ddifyr ac yn ddoniol.

  1. Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?

Cwestiwn anodd arall.

Eclectig yw’r gair i ddisgrifio fy hoff gerddoriaeth.  Rwy’n hoffi Y Gwanwyn o Bedwar Tymor Vivaldi, ‘I’m Not in Love‘ gan 10CC (gweles i nhw yn y Capitol yn 1976), ‘Stairway to Heaven‘ gan Led Zeppelin a grwpiau pync fel The Stranglers.

Ond yr enillydd yw CMT yn canu’r Tangnefeddwyr.

  1. Pe baet ti’n Brif Weinidog Cymru pa freuddwyd fyddet ti eisiau ei gwireddu gyntaf?

Annibyniaeth i Gymru.

  1. Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?

Huw Herbert