1. Rho grynodeb i ni o’th cefndir. Beth ddaeth â ti i’r ardal hon (dalgylch CMT)?
Cefais fy ngeni ym Mhen-y-bont ar Ogwr a theithiais yr holl ffordd i Gaerdydd ar gyfer fy hyfforddiant a rhan fwyaf fy ngyrfa. Cyflwynodd fy nghyd ail denor, Gethin Williams, fi i CMT 6 blynedd yn ôl.
2. Beth yw dy atgof cynharaf?
Taro sosbenni ar lawr y gegin gyda llwyau pren yn arddull y drymiwr Animal o’r Muppets!
3. Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Womble. Medrus. Dyfeisgar.
4. Beth yw dy hoff le yng Nghymru / yn y byd?
Y cildraeth bach wrth y felin yn Nhrefin gyda llyfr da.
Yn y byd? Unrhyw lwybr sgïo peth cyntaf yn y bore.
5. Oes gennt ti unrhyw arferion gwael?
Dim rwy’n ymwybodol ohonyn nhw, ond dywed fy ngwraig yn wahanol.
Peidio gorffen prosiectau dwi’n dechrau.
6. Beth sydd wir yn dân ar dy groen di?
Anghydraddoldeb a gyrrwyr sy’n glynu at lôn ganol y draffordd.
7. Beth am rannu rhywbeth gyda ni nad yw llawer o bobl yn ei wybod?
Gallaf wiglo fy nghlustiau a rholio fy nhafod!
8. Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Mary Berry.
9. Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy yr hoffet ti rannu’r pryd hwn?
Cinio Nadolig cartref a phaned da. Cymaint o’r teulu ag y byddai’n gallu ffitio o amgylch ein byrddau.
10. Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT, sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?
Unrhyw DIY a gorffen projectau yn fy sied
11. Yn ystod y cyfnod clo pa raglenni teledu wyt ti wedi mwynhau eu gwylio?
Unforgotten, Bloodlands, The Bridge.
12. Beth yw dy hoff lyfr? Pwy yw dy hoff awdur?
Does gen i ddim hoff lyfr. Unrhyw stori dda. Fy hoff awdur yw Terry Pratchett.
13. Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n dewis gwrando arno ar ynys bellennig?
Y Miserere gan Gregorio Allegri
14. Nawr bod y cyfnod clo drosodd, beth wyt ti’n edrych ymlaen at ei wneud fwyaf?
Cynnal barbeciw’r teulu mawr yn yr ardd.
15. Pwy wyt ti’n ei enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesaf?
Byron Edwards (Tenor1)