Cefndir a hanes
Merch o Benrhyn-coch ger Aberystwyth ydw i. Cefais fy addysg gynradd yn Ysgol Trefeurig, ysgol fach yng nghanol y wlad gyda rhyw 28 disgybl i gyd. Er cyn lleied oedd maint yr ysgol, cefais bob cyfle – chwarae yn y tîm criced, pêl-droed a chymryd rhan ym mhob gala nofio. Ond yn bwysicach na hynny, roedd yna gerddorfa yn yr ysgol. Rwy’n cofio un flwyddyn i bron pob disgybl o safon 1 i fyny berfformio corws yr Haleliwia yn y cyngerdd Nadolig. Mawr yw fy niolch i’r diweddar Mrs Megan Creunant Davies a Mrs Della Williams am yr holl gyfleon perfformio a chystadlu a dderbyniais.
Symud i Ysgol Penweddig wedyn, ac roedd hi’n amlwg o oedran ifanc nad Mathemateg na Gwyddoniaeth oedd fy ‘fortes’ i. Yn ogystal â gwersi Cerddoriaeth, roeddwn wrth fy modd gyda dysgu ieithoedd – Ffrangeg ac Almaeneg, ac yn dwlu tynnu coes yn y gwersi Cymraeg gyda fy athro Mr Alun Jones a fflyrtio gyda Mr Healy, fy athro Daearyddiaeth! Roedd fy nghyfnod yno’n un hapus.
Ond roedd y dyddiau gorau i ddod! Maen nhw’n dweud mai dyddiau Prifysgol yw’r dyddiau gorau erioed, ac mae hyn yn wir yn fy achos i. Gwneud criw anhygoel o ffrindiau (sy’n dal i gwrdd mor aml â phosib heddiw i fynd ffwrdd am benwythnosau) ac astudio gradd BMus a MA mewn Perfformio ym Mangor. Doeddwn i ddim eisiau gadael na gorffen coleg, felly penderfynais aros am flwyddyn arall er mwyn gwneud fy ‘ymarfer dysgu’. Doedd bod yn athrawes ddim yn uchelgais i fi, ond ar ôl dechrau’r cwrs a chael profiad o addysgu yn Ysgol Dyffryn Ogwen a Dyffryn Nantlle, roeddwn yn gwbl sicr mai dyma fyddai fy ngalwedigaeth.
Derbyniais fy swydd gyntaf yn Ysgol Rhydfelen 21 mlynedd yn ôl. Newidiodd enw’r ysgol i Garth Olwg yn 2006 ac arhosais yno tan fis Gorffennaf y llynedd. Rwyf nawr yn Arweinydd Adran y Celfyddydau Perfformio yn Ysgol Llanhari ac wrth fy modd yno! Un o’r ‘perks’ mwyaf o fod yn athro yw cael mynd ar deithiau! Roedd mynd i Langrannog gyda blwyddyn 7 ar ddechrau blwyddyn yn ffordd wych o drochi disgyblion mewn Cymreictod, a threfnu teithiau preswyl i Lundain i weld sioeau yn brofiad bythgofiadwy. A does dim byd fel gwyliau sgïo gyda chriw o blant ac athrawon.
Newidiodd fy mywyd yn 2009 pan gwrddais â Tom ‘and the rest is history!’ Er fy mod wrth fy modd yn dysgu, fy swydd orau yw bod yn fam i Wil a Hanna (sydd erbyn hyn wedi dysgu geiriau caneuon CMT yn well na rhai o’r aelodau!) Mae bywyd yn brysur ond rwy’n teimlo’n hynod o lwcus i gael byw fy un i!
Atgof cynharaf
Eistedd ar gôl fy Nhaid yn Abertiefi, y diweddar Barchedig W.H Rowlands, yn cael fy mownsio i fyny a lawr tra roedd pawb yn siarad o gwmpas y bwrdd yn y gegin. Rwy dal yn gallu blasu arogl ei anadl te a ‘Marie biscits’. Un arall pan oeddwn yn aros gyda Nain a Taid oedd eistedd mor agos â phosib o flaen sgrîn y teledu a chael stŵr am fod mor agos. Roedd hi’n amlwg o oedran ifanc fod angen sbectols arnai!
Fy hun mewn 3 gair
Cymdeithasol, siaradus, bodlon.
Fy hoff le yng Nghymru
Unrhyw le wrth ymyl y môr! Does unlle gwell ar noson braf yn gwylio’r haul yn machlud na phrom Aberystwyth. Lle arall sy’n agos at fy nghalon yw Llangwnnadl, Pen Llŷn, lle mae ‘na draethau bendigedig – Penllech a Phorth Colmon. Dyma lle treuliais fwyafrif fy ngwyliau haf pan oeddwn yn ifanc gan fod gan Nain a Taid fwthyn yno. Doedd ‘run teledu’n agos, dim ond radio a phlant y bwthyn drws nesaf yn gwmni. Gorfod cerdded i bob man gan fod Dad adre’n gweithio a Mam ddim yn gyrru, ond roeddwn wrth fy modd! Dydw i ddim yn meddwl byddai Wil a Hanna’n gallu ymdopi heddiw gyda’r symlder a diffyg wi-fi! O ran tramor, rwy’n hoff iawn o ynys Creta.
Arferion drwg
Cnoi ewinedd!
Beth sy’n fy ngwylltio
Un o’r pethau mwyaf sy’n fy ngwylltio yw pobl sydd weithiau’n eich gweld/cydnabod ac yn dweud helo, a throeon eraill yn eich anwybyddu. (Pwy Lowri? Nêm nêms! Gol)
Rhywbeth nad oes llawer yn gwybod
Ers tair mlynedd rwyf wedi bod yn aelod o dîm pêl-droed Cardiff City Ladies Veterans (un o’r rhieni sydd wedi ymuno – peidiwch â meddwl am eiliad fy mod yn arfer chwarae i dîm y brifddinas!) ac mae’r merched wedi ennill y gynghrair ddwy flynedd yn olynol! Rwyf hefyd yn ffan mawr o rasio F1, Lewis Hamilton yn benodol. Byddaf yn teithio gyda fy chwaer a fy nith i wlad Belg ym mis Gorffennaf i wylio’r ras yn Spa.
Person mwyaf nodedig
Alla i ddim â dweud fy mod wedi cwrdd â llawer o bobl nodedig. Roeddwn yn arfer mynd â Hanna i ‘Amser Stori’ yn Llyfrgell Treganna yn yr un cyfnod ag oedd Bryn Terfel yn mynd â’i ferch e, ac un tro dyma fe’n troi ata i a dweud pa mor ‘impressed’ oedd e fy mod i’n gwybod geiriau’r caneuon i gyd!!
Pryd o fwyd delfrydol a gyda phwy
I fi, mae unrhyw bryd o fwyd sy’n cael ei baratoi gan rywun arall yn ddelfrydol (dydw i ddim yn ffan o goginio!) Ond, byddai powlen fawr o Moules Marinières a bara Ffrengig i amsugno’r saws yn fendigedig gyda chacen gaws i orffen. Byddwn yn mwynhau’r pryd o fwyd hwn yng nghwmni merched JMJ yn hel atgofion ac yn chwerthin!
Amser hamdden
Rwy’n mwynhau mynd allan am fwyd, mynd i’r sinema a’r theatr a rwy’n hoffi’r syniad o ddweud fy mod yn mynd i’r gym i gadw’n heini!
Rhaglenni teledu
Dydw i ddim yn gwylio rhyw lawer o raglenni teledu erbyn hyn. Roeddwn i’n arfer gwylio’r holl operâu sebon ond dim rhagor. Ryw’n hoffi rhaglenni am brynu tai fel ‘Location, Location , Location’ a rhaglenni gwyliau fel ‘A Place in the Sun’. Mae’n well o lawer gen i wylio cyfresi ar Netflix. Rwy’n hoffi cyfresi trosedd, ‘drug cartels’ a ‘chick flicks’ yn bennaf ac yn gallu gwylio penodau, un ar ôl y llall!
Hoff lyfrau/hoff awduron
Rwy’n mwynhau darllen ar gyfer pleser – dydw i ddim yn mynd i esgus fy mod i’n darllen llyfrau ‘trwm’. Rwy’n hoffi llyfrau trosedd gan awduron fel Patricia Cornwell a Harlan Coben a hefyd yn hoffi llyfrau ysgafn sy’n hawdd i’w darllen ar lan y môr neu wrth ymyl pwll gan awduron fel Sophie Kinsella a Katie Forde.
Darn o gerddoriaeth ar gyfer ynys bellennig
Concerto i’r Piano yn F fwyaf gan Shostakovich, yr ail symudiad yn benodol.
Breuddwyd fel prif weinidog Cymru
Cynnig gwersi offerynnol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd ac uwchradd! O weld nifer y disgyblion mewn ysgolion uwchradd yn rhoi’r gorau i wersi offerynnol oherwydd y gost, a chyllidebau ysgolion yn cael eu torri, byddai rhoi gwersi offerynnol i bawb yn ffordd dda o ddiogelu’r elfen hon o’r celfyddydau ac yn gynhwysol i bawb.
Pwy nesaf?
Eifion Thomas (B1)