- Rho grynodeb i ni o dy gefndir. Beth ddaeth â ti i’r ardal hon (dalgylch CMT)?
Ces i fy magu yng Nghaerdydd ar aelwyd ddi-Gymraeg. Ar ôl chwarter canrif yn byw yn Lloegr fe ddes i nôl i Gymru gyda fy ngwraig, sy’n rhugl. Ces cyfle i ddysgu’r iaith ac roedd ymuno â’r côr yn gyfle i wella fy Nghymraeg mewn sefyllfa gerddorol a chymdeithasol.
- Beth yw dy atgof cynharaf?
Eistedd mewn pram o flaen garej ein fflat newydd yn y Rhath (3 oed).
- Disgrifia dy hun mewn tri gair.
cyfeillgar; aflonydd; teg
- Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?
Cymru: Llantysilio
yn y byd: Gorsaf Paddington – atgofion cynnes bob tro; neu’n sgïo ar fynydd unrhywle.
- Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
Rwy’n tisian fel fy mam – yn ddigon uchel i’w glywed dros y dref
- Beth sydd wir yn dân ar dy groen di?
Pobl sy’n edrych lawr ar eraill
- Beth am rannu rhywbeth gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
Rhoddodd cyn-“Miss UK” dolc yn fy nhrwmped pan on i’n 20 oed. Mae o dal yno.
- Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Tony Benn. Fe oedd fy AS – wastad yn dadlau dros Ewrop.
- Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?
Cinio ‘Dolig adref gyda fy nheulu – ond dwi’n dychmygu rhywun arall yn coginio!
10. Yn ystod y cyfnod clo pa raglenni teledu wyt ti wedi mwynhau eu gwylio?
Fel bawb, mae’r rhestr yn hir: cyfresi trosedd ‘nordic noir’; Queen’s Gambit; Deutschland 83,86 a 89; Friday Night Dinner; Goggle Box (‘guilty pleasure’ ar ôl i’m merch fy mherswadio).
11. Beth yw dy hoff lyfr? Pwy yw dy hoff awdur?
“The Mandibles” – Lionel Shriver. Hanes saga teuluol yw e – yn y dyfodol – sy’n disgrifio/dychmygu Unol Daleithiau America ar ôl iddynt gael Arlywydd fel Trump a’r digwyddiadau dros gyfnod o ddegawdau.
12. Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?
“Y Planedau” gan Holst – hir, amrywiol, digon o offerynnau pres a rhai lleisiau hefyd.
13. Pan fydd y cyfnod clo drosodd beth wyt ti’n edrych ymlaen at ei wneud fwyaf?
Rhyddid i wneud pethau heb gynllunio e.e. peint ar ôl ymarfer os oes digon o amser.
14.Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?
Gwyn Roberts (Bariton)
