Cofio Gary Sam

Gary oedd un o’r aelodau cyntaf i ateb holiadur Adnabod ein haelodau. Darllenwch am y cymeriad arbennig hwn yn ei eiriau ei hunan.

Rho grynodeb i ni o dy gefndir. Beth ddaeth â ti i’r ardal hon (dalgylch CMT)

Ces i nghodi ym mhentref Rhiwfawr ym mhen uchaf Cwmtawe. Es i i ysgol y pentref ac Ysgol Ramadeg Ystalyfera ac yna i Goleg Cyncoed. Bues i’n dysgu yng nghylch Pontypridd a gweithio i Undeb Rygbi Cymru.

Beth yw dy atgof cynharaf?

Anadlu

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Mas o diwn

Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?

Mynydd y Gwrhyd uwchben Rhiwfawr a Sbaen

Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?

Bwyta gormod

Beth sydd wir yn dân ar dy groen di?

Gorfod dal sedd y tŷ bach lan

Beth am rannu rhywbeth gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?

Ches i erioed feic dwy olwyn

Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?

Mikhail Gorbachev tra ar wyliau yn Lanzarote

Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?

Fillet steak gyda Beth, fy ngwraig, a Rhodri’r mab a’r teulu

Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?

Dysgu repertoire Côr Hen Nodiant

Yn ystod y cyfnod clo pa raglenni teledu wyt ti wedi mwynhau eu gwylio?

Rhaglenni natur David Attenbrough a’r gyfres Am Dro

Beth yw dy hoff lyfr? Pwy yw dy hoff awdur?

Llyfrau James Patterson

Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?

Gwinllan a roddwyd I’m gofal

Pan fydd y cyfnod clo drosodd beth wyt ti’n edrych ymlaen at ei wneud fwyaf?

Mynd ar wyliau a mynd nôl i ganu gyda’r corau

Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?

Hoffwn i enwebu Gethin Williams (o’r ail denoriaid)