Aled Rees: ail denor
  1. Rho grynodeb i ni o dy gefndir. Beth ddaeth â ti i’r ardal hon (dalgylch CMT)?

Ces i fy magu yn Nhrefdraeth. Yn ôl pob son ro’dd Dad wedi gorffen adeiladu’r ty ddiwrnod neu ddau cyn fy ngeni. Wedi joio rygbi a chanu yn Ysgol ‘Abergwein’, yn cynnwys rhan Fagin yn Oliver. 

Cwrs Meddygaeth yn galw ar ddiwedd yr 80au. Ro’dd Caerdydd yn ddigon pell i ‘adael y nyth’ ond yn ddigon agos i fynd gartre pan wedd angen golchi dillad neu ‘top-up’ ar bice bach Mamgu. 

  1. Beth yw dy atgof cynharaf? 

Cwympo mewn i bwll padlo Gwdig wrth ymestyn am gwch Batman. Dad we’n gwarchod tra bo Mam yn y siop trin gwallt. Ro’dd tipyn o esbonio ‘da fe i wneud wedyn!

  1. Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Cymdeithasol. Gweithgar. Cystadleuol. 

  1. Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?

Ishte uwch ‘Y Cwm’ yn Nhrefdraeth wrth edrych nôl am y dre’ gyda’r llanw i fewn. Nofio draw i Tra’th Mowr a nôl i glirio’r pen.  

Y Byd: Unrhyw le yn yr Alpau gyda digon o eira. 

  1. Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?

Gormod … a dwi ddim yn barod i’w trafod yn gyhoeddus. (Gol: hynny yw, nagoes!)

  1. Beth sydd wir yn dân ar dy groen di?

Pobl ddioglyd. Pobl trahaus. 

  1. Beth am rannu rhywbeth gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?

Mae gen i linc genetig trwy ochr Dad â Thomas Jefferson (Trydydd Arlywydd yr Unol Daleithiau).

  1. Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?

Beti George – pwy arall? (Gol: heb wrando ar Aled ar Beti a’i Phobol? Dyma’r ddolen: https://www.bbc.co.uk/programmes/m000f6py)

Nes i ishte tu ôl i Cliff Richard ar awyren unwaith – ydy hynny’n cyfri?

  1. Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?

Bwyd y môr, neu stêc a sglodion am y brif cwrs. 

Crymbl mwyar Mam i ddilyn.

Potel (neu ddwy) o win gwin (Sauvignon o Seland Newydd falle) i iro’r llwnc. 

Yn hapus i gael cwmni’r ail denoriaid (a falle un neu ddau o’r baritôns os ‘yn nhw’n addo bihafio)

10. Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?

Dwi’n dwli dilyn pob math o chwaraeon. Dwi’n mwynhau gwylio rygbi wrth gwrs, p’un ai tîm Ieuenctid St Peters, Academi Glantaf, Rygbi Caerdydd neu Cymru ac yn ffan mowr o wyliau eirfyrddio. Ma’r olygfa o’r wythfed green yng nghlwb golf Trefdraeth yn sicrhau bod y clybs yn dod mas o’r garej ddwywaith y flwyddyn o leia. Dwi wedi addo gwneud ymdrech i wella’r handicap pan fydda i’n ymddeol. Tan hynny, y ci (Gwil) sy’n cael y sylw i gyd. 

  1. Yn ystod y cyfnod clo pa raglenni teledu wyt ti wedi mwynhau eu gwylio?

Twin. Mortimer & Whitehouse: Gone Fishing. Super Rugby Aotearoa.  

  1. Beth yw dy hoff lyfr? Pwy yw dy hoff awdur?

Dim un llyfr yn benodol ond yn ddiweddar fe wnes i fwynhau ‘Shuggie Bain’ gan Douglas Stuart a ‘The Thursday Murder Club’ gan Richard Osman (gyda gweddill y wlad mae’n debyg!).  

  1. Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?

Rhywbeth gan ‘Dire Straits’ wrth gwrs! Neu, os yw pethe’n gwaethygu, ‘Requiem’ Mozart!

  1. Pan fydd y cyfnod clo drosodd beth wyt ti’n edrych ymlaen at ei wneud fwyaf?

Trafaelu, trafaelu, trafaelu. 

  1. Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?

Rich Jones