
Rho grynodeb i ni o’th gefndir a’th hanes.
Fe’m ganwyd ar y 1af o Ragfyr 1967 yn Llanelwy a chefais fy magu yn y Fflint ar lannau’r Ddyfrdwy. Treuliais gyfnodau fel hogyn bach yn byw efo fy nain a ‘nhaid, rhieni fy mam, ym Mhorthmadog lle es i’r ysgol gynradd am gyfnod. Plentyndod delfrydol – llond o hwyl, cariad a miri.
Roedd Mam, Helen, yn athrawes gerddoriaeth a Chymraeg ac yn gyfeilyddes dda iawn. Efallai ddim cystal â Lowri a Marged, ond mi roedd gan Mam dalent naturiol am gerddoriaeth. Mi fasai hi wedi ei phlesio’n fawr iawn fy mod wedi ymuno a Chôr Meibion Taf, a hwnnw yn gôr mor safonol. Roedd Dad, Rhys, yn Gymro di-Gymraeg ond Cymro brwd serch hynny. Dyn ei gyfnod a’i gefndir – caled a llym, doedd dim nonsens efo Dad. Gadawodd yr ysgol yn 14 a bu’n aelod o’r Llu Awyr fel rhan o’i wasanaeth cenedlaethol cyn mynd i weithio yn ffatri Courtaulds ym Maes Glas am dros 30 mlynedd.
Mae gennyf chwaer ‘fengach, Sian, sydd hefyd yn byw yng Nghaerdydd gyda’i phlant –Tom a Mari. Mae Sian yn hogan alluog sy’n gweithio i Gomisiwn y Senedd. Pleser mawr i mi yw gweld Tom a Mari yn tyfu i fyny ac, fel ewythr, cael eu ‘difetha’ nhw weithiau.
Roedd ochor fy mam o’r teulu yn bobl capel mawr. Bu Taid yn ddirprwy brifathro yng Nghricieth ac wedyn yn brifathro Ysgol Eifionydd, Porthmadog. Roedd plentyndod Dad yn un eithaf caled a doedd o ddim mor amlwg ei grefydd. Mi barhaodd Mam yn y ffydd drwy gydol ei bywyd felly roedd capel ac Ysgol Sul yn rhan fawr o ‘mhlentyndod – dim ots pa mor gyndyn yr oeddwn innau i fynd ar y pryd. Teulu oedd popeth i Mam a Nhad a dyfn yw ein gwerthfawrogiad ni fel plant o bopeth y gwnaethom i ni.
Roeddem ni hefyd yn deulu oedd yn mwynhau chwaraeon. Mam yn cynrychioli Cymru mewn athletau a hoci a ‘Nhad yn chware pêl-droed amatur i glwb Coutrtaulds Greenfield. Roeddwn innau wedi gwirioni’n hollol â phêl-droed a hwn oedd y peth pwysicaf i mi wrth dyfu i fyny – chwarae o fore tan nos fel hogyn a gwylio Wrecsam ar y Sadwrn. Fy arwyr oedd Mickey Thomas a Joey Jones. Un yn ddewin ar y cae a’r llall yn gwrthsefyll pob ymosodwr. Hefyd roeddwn i’n dilyn o bell tîm Lerpwl wrth iddyn nhw ennill y bencampwriaeth a chwpan Ewrop yn y 70au a 80au.
Roeddwn yn chwaraewr pêl-droed rhesymol fy hunan gan gael treial i ambell glwb, a chynrychiolais fy sir a Gogledd Cymru. Cefais y fraint o chwarae ddwywaith yn erbyn Gary Speed. Wrth reswm, roedd yntau’n drech na fi! Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu dod yn ddigon agos ato i’w gicio!
Roeddwn yn ddisgybl yn Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug, ac ar ôl gadael yn 1984, cefais swydd gyda banc Y Nat West. Roedd hyn yn cael ei ystyried yn fraint ar y pryd mewn ardal lle roedd diweithdra’r gwaith dur a ffatrioedd Courtaulds ar ei waethaf. Er diwylliant hen ffasiwn y banc, treuliais bedair blynedd hapus iawn yno gan weithio yng nghanghennau Cei Connah a Threffynnon. Mae un bellach yn fwyty Indiaidd a’r llall yn gampfa!
Yn 1988 fe symudais i weithio i fanc Americanaidd yr HFC yn Wrecsam. Cefais fy mhenodi yn ddirprwy reolwr. Roeddwn yn aml yn delio efo pobl mewn dyled ond yn unol ag egwyddorion fy nheulu roeddwn yn mynnu trin pawb gyda pharch ac amynedd. Nid bod y perchnogion Americanaidd yn deall hyn bob tro. Ar ôl gweithio am ychydig gyda’r un cwmni yn Crewe fe benderfynais adael er mwyn astudio am radd mewn Astudiaethau Busnes ym mhrifysgol Salford. Yn ogystal â’r gwaith academaidd, roeddwn yn mwynhau’r elfen gymdeithasol gan fynychu clwb yr Hacienda a pharhau i chwarae pêl-droed.
Wedi ennill fy ngradd yn 1991, es ati i weithio fel rheolwr adran gwasanaethau ariannol Marks and Spencer yng Nghaer. Roedd hon yn adeg lle’r oedd y byd ariannol yn newid ac roeddwn yn gyfrifol am reoli canolfannau galw. Os ydych yn teimlo elfen o rwystredigaeth wrth wasgu’r botwm hwn neu’r llall cyn dod o hyd i berson ar ochr arall y ffôn, pobl debyg i mi sydd ar fai.
Symudais nesaf i Fryste a gweithio fel cyfarwyddwr nifer o gwmnïau ariannol gan gynnwys darparu gwasanaethau i gwmnïau megis Volvo, Sainsburys a Swyddfa Basbort y DU. Yna, wedi treulio pymtheg mlynedd yn y meysydd hyn, fe symudais i Gaerdydd, oherwydd, erbyn hyn, roedd fy rhieni yn heneiddio ac eisiau bod yn ddaearyddol nes ata i a’m chwaer.
Roedd y pum mlynedd nesaf yn rhai hapus. Minnau’n mwynhau a llwyddo yn fy swydd gan rannu fy amser rhwng swyddfeydd yn Llundain a Chaerffili. Roedd fy mam a nhad hefyd yn mwynhau bywyd yng Nghaerdydd, a chymryd pleser mawr yng nghwmni plant fy chwaer. Yn anffodus, doedd y dyddiau dedwydd ddim i barhau wrth i Mam a ‘Nhad frwydro dementia yn eu blynyddoedd olaf a Mam yn dihoeni mor gyflym roedd rhaid ei gosod mewn cartref hen bobl.
Wedi hyn, daeth y coronafirws i’r tir a, gyda thristwch mawr, bu farw Mam (a nifer o aelodau eraill y cartref hen bobl) o’r COVID. Dim ond pump ohonom a gafodd fynd i’w chynhebrwng oherwydd rheolau llym y cyfnod gan gynnwys gwaharddiad ar ganu. Diweddglo trist ac anghyfiawn i ddynes ddiwylliedig a fu mor ffyddlon i’r achos. Erbyn hyn roedd Dad yn dihoeni’n gyflym hefyd, a gwnaed penderfyniad teuluol na fyddai’n cael ei anfon i gartref hen bobol. Felly, am y flwyddyn a hanner nesaf cymrais gyfnod sabothol i edrych ar ei ôl gyda help Sian, fy chwaer.
Ar ôl colli’n rhieni, penderfynais droi fy nghefn ar y bywyd corfforaethol – mae dros 40 mlynedd mewn un gyrfa yn ddigon i unrhywun i fod yn deg. Roedd cyfle nawr i ganolbwyntio ar brosiectau busnes personol gan gynnwys buddsoddi yn y gyfnewidfa stoc a phrynu tir er mwyn adeiladu tai ac yn y blaen. Rwy’n dal i fyw ger Parc Fictoria ac wrthi’n ddyfal yn adnewyddu tŷ fy hun ar y foment. Er hynny, ac wedi byw yng Ngaerdydd am dros ddeng mlynedd, dwi’n dal i feddwl amdanaf fy hun fel hogyn o’r Fflint – neu “off Flint” fel maen nhw’n dweud yn yr ardal.
Wrth feddwl am dyfu i fyny yn y Fflint, cofiaf pan oeddwn yn blentyn fel yr arferai pobl ofyn i mi – “Alun, beth wyt ti eisiau ei wneud ar ôl tyfu i fyny?”. Ar y pryd, doeddwn ddim yn gwybod sut i ateb y cwestiwn, ac i ddweud y gwir, dw i dal ddim yn hollol siŵr. Ond, pan ddaw’r ateb i ‘mhen, chwi, aelodau CMT fydd y cyntaf i wybod!
Yn y cyfamser…….
Beth yw dy atgof cynharaf
Teithio efo Taid ar drên bach Ffestiniog o Borthmadog i Benrhyndeudraeth er mwyn cael torri fy ngwallt. Cofio hefyd ar yr un adeg disgyn ar fy mhen o dop ffrâm ddringo. Efallai bod y ddamwain honno yn esbonio elfennau o ‘mhersonoliaeth bresennol!
Disgrifia dy hun mewn tri gair
Cyfeillgar, clên, byrbwyll.
Beth yw dy hoff le yng Nghymru / yn y byd
Yng Nghymru – does dim llawer o lefydd yn curo Porthmadog a’r cyffiniau, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf. Melys yw’r atgofion o dreulio gwyliau hir yno gyda Nain a Taid.
Y byd – rwy’n hoff iawn o ymweld â hen ddinasoedd Ewrop. Mae Berlin a Munich yn ffefrynnau.
Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
Fflachiadau o dymer a’r tueddiad i agor fy ngheg cyn meddwl. Er hynny, dydy hyn ddim yn parhau’n hir.
Beth sydd yn dy wylltio
Pobl unllygeidiog eu heidioleg, beth bynnag eu lliw a’u llun, sydd ddim yn ystyried ochr arall y ddadl.
Beth am rannu rhywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
Dim ond un o’r canlynol sydd ddim yn wir (mae’r ateb isod *):
- Rwyf wedi perfformio arddangosfa llawr, gymnasteg, unigol.
- Rwyf wedi chwarae gitâr ar recordiad o Mull of Kintyre.
- Rwyf wedi chwarae pêl-droed gyda Ian Rush a Michael Owen.
- Rwyf wedi perfformio rwtîn nofio cydamserol (synchronised swimming) mewn grŵp.
Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Yn anffodus, er fy mod wedi “cwrdd” â llawer o bobl eithaf enwog, does dim un ohonyn nhw yn hynod nodedig. Yn sicr nid wyf wedi cwrdd â rhywun o radd John Charles fel y gwnaeth Eric. Ar y llaw arall, mae Sue Charles (sy’n cyflwyno’r tywydd ar y BBC) a Derek Brockway yn mynd i’r un gampfa â fi – ydi hynny’n cyfrif?
Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy fyddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?
I fwyta – “Full BBQ mixed grill” o SenBBQ neu rywbeth amheuthun o’r Star of Wales. Y ddau nid nepell o adref!
I yfed – Stella Artois (sydd ag enw drwg annheg yn fy marn i – beiwch yr yfwr nid y cwrw) neu Bollinger 1998.
Fel cwmni – John, Paul, George, Ringo, Elvis, JFK, Lloyd George, Ken Dodd a Peredur Powell (i gadw trefn).
Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?
Os ca i aralleirio George Best:
“Over the years I’ve spent a lot of money on booze, women and fast cars – the rest I just squandered.”

Mae’r gwariant ar y merched a’r cwrw wedi lleihau llawer yn ddiweddar, ond rhaid i mi gyfaddef fod gennyf wendid am geir cyflym a chlasurol. Mae gennyf ddau ar y foment – y Porsche 911 yn y llun uchod a ‘r Mercedes SL500 isod.

Mae’r ddau dros ugain mlwydd oed ac, fel fi, maen nhw ymhell heibio eu gorau, ond, yn wahanol i fi, mae’r ddau yn edrych yn eithaf taclus ac yn dal i symud fel y gwynt.
Er nad ydwyf bellach yn chwarae, mae pêl-droed yn dal i fod yn bwysig i mi ac rwyf yn dilyn tîm Cymru adref ac i bedwar ban byd gan gynnwys yr Euros yn Ffrainc a chwpan y byd yn Qatar. Dyma lun o drip diweddar i Frwsel:

Sylwch fod Sue Charles a’i brawd wedi llwyddo i ymuno â ni yn y llun – dyma oedd ei thaith dramor gyntaf yn dilyn Cymru. Hefyd mae’r Cymro brwd “Billy the Badge” ar y dde – os ‘dach chi’n gwybod, ‘dach chi’n gwybod. Does dim golwg yn y llun o Paddy CMT oedd hefyd ym Mrwsel ar y pryd.
Mae canu gyda’r côr wedi rhoi mwynhad mawr i mi dros y flwyddyn ddiwethaf ac, o safbwynt cerddoriaeth, rydw i hefyd yn mwynhau ponsio ar y gitâr. Roeddwn yn aelod cynnar o’r grŵp Y Madfall Reibus ond gadewais nhw ar sail gwahaniaethau artistig cyn iddyn nhw gyrraedd y brig!
Dwi hefyd yn trïo fy ngorau i gadw’n heini ac yn mwynhau mynd i’r gampfa yn rheolaidd. Dwi’n aelod o Ganolfan Chwaraeon Cymru, y fangre y mae un neu ddau o’n cyd aelodau yn ei mynychu – gan gynnwys ein harweinydd, Gwyn ac Eifion.
Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio?
Rwyf yn hoff iawn o Match of the Day, a hynny ers dyddiau fy mhlentyndod. Mae gennyf hefyd hoffder mawr o raglenni comedi o’r 70au a’r 80au gan gynnwys Dad’s Army, Fawlty Towers, It Ain’t Half Hot Mum, Only Fools and Horses ac yn y blaen.
Hefyd, er nad oedd ‘Nhad yn siarad Cymraeg, roedd o’n deall, ac roedd y ddau ohonom wrth ein bodd yn gwylio Cefn Gwlad ac roedd o’n hoff iawn o arddull ddiymhongar, difyr Dai Jones Llanilar.
Beth yw dy hoff lyfr(au)? Pwy yw dy hoff awdur(on)?
Rwyf bob amser yn ceisio darllen dau fath o lyfr ar yr un pryd – un nofel ac un llyfr ffeithiol.
Fel Justin, dwi’n hoff iawn o nofelau Shardlake gan C J Sansom a llyfrau Hilary Mantel am Thomas Cromwell gan gynnwys Wolf Hall.
Ar y foment dwi’n darllen Millenium – The End of The World & the Forging of Christendom gan Tom Holland sydd yn ddiddorol tu hwnt yn sgil beth sydd yn digwydd yn y Dwyrain Canol, ac rwyf newydd orffen llyfr ardderchog am y bartneriaeth bersonol a cherddorol rhwng John Lennon a Paul McCartney – “John & Paul (A Love Story in Songs)”
Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?
Fel y gwelwch o’r llun isod o fy hoff ganeuon ac artistiaid ar Spotify, mae gennyf flas eang ac eclectic mewn cerddoriaeth:

Er hyn, fy hoff grwp yw’r Beatles. Mae hi’n anodd dewis un darn yn unig ond, does dim all gymharu, yn fy marn i, ag ail ochr Abbey Road. Gan ddechrau efo Here Comes the Sun, wedyn y fedli, a gorffen gyda The End.
Dim ond y Beatles allai orffen eu gyrfa gyfan gyda chân sy’n cynnwys pob aelod yn perfformio unawd “full pelt” ar ei offeryn penodol, a diweddu’r campwaith gyda’r llinell anfarwol:
“And in the end, the love you take is equal to the love you make….”.
Llinell sydd yn golygu dim byd mewn ffordd ac eto yn gallu golygu popeth – perffaith.
Pe baet ti’n Brif Weinidog Cymru pa freuddwyd fyddet ti eisiau ei gwireddu gyntaf?
Gwella’r ffyrdd yn sylweddol a’r cysylltiadau rhwng y Gogledd a’r De.
Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?
Y baswr Wayne Robinson.
*3. Doeddwn i erioed yn ddigon dda i chwarae gydag Ian Rush na Michael Owen ond chwaraeais nifer o weithiau dros y blynddoedd efo’u brodyr mewn timoedd lleol yn y Fflint.