
- Rho grynodeb i ni o’th gefndir a’th hanes.
Crwt o Frynaman ydw i, er imi gael fy ngeni yn ysbyty fach Glanaman, y cyntaf o dri mab i Nansi a Howard Jenkins. Ces i fy ngeni ar yr un diwrnod â Rick Parfitt o Status Quo, y 12fed o fis Hydref, a’r un dyddiad â Pavarotti! Dair blynedd yn ddiweddarach, dilynodd yr efeilliaid, Emyr ac Eurig.
Roedd Brynaman yn lle delfrydol i dyfu lan. Roedd 6 chapel yno – 3 lan y top ym Mrynaman Uchaf, a thri lawr y gwaelod ym Mrynaman Isaf. Roeddem ni fel teulu yn aelodau yng Nghapel Gibea. Ond y dylanwadau mwya arna i wrth edrych yn ôl, oedd Aelwyd yr Urdd gyda’i gweithgareddau di-ri, lle ces i’r fraint o ennill sawl gwaith wrth actio yn Eisteddfodau’r Urdd, a hefyd y Clwb Rygbi lleol. Mae’r clwb hwnnw yn dal i arwain y ffordd a llynedd, er enghraifft, dau o’r pentrefwyr oedd capteiniaid timau merched a dynion Cymru sef Hannah Jones a Jac Morgan.
Ar ôl bod yn yr ysgol gynradd leol, fe lwyddes i yn yr 11+ a mynd i’r Ysgol Ramadeg yn Rhydaman. Eisteddes i am 5 mlynedd rhwng dau ŵr adnabyddus dros ben, y naill, Alan Lewis yn gyn-hyfforddwr ar Gymru yn adeg Graham Henry, ac yn ffrind da, a’r llall, Neil Hamilton, yn gyn-aelod seneddol i’r Toriaid – ei dad yn rheolwr ar y gwaith glo lleol. Doeddwn i ddim yn ‘academaidd’ iawn – yn wir, ennill y gadair yn Eisteddfod Gŵyl Ddewi oedd yr uchafbwynt i fi’n bersonol. Ond fe gynrychioles i’r ysgol a Sir Gaerfyrddin mewn rygbi a chriced. Ar yr un adeg bues i’n chwarae pêl-droed i dîm ieuenctid Rhydaman a enillodd Gwpan Sir Gaerfyrddin. Ein seren fwyaf adnabyddus oedd Dai Davies, gôl-geidwad Cymru yn y 70au.
O Rydaman i Goleg Addysg Caerdydd nesa, neu’r Met fel yw e heddiw. Tair blynedd hapus yno, gan gynrychioli’r coleg mewn rygbi a chriced, yn ogystal â bod yn gadeirydd y Gymdeithas Gymraeg, a chadeirydd y RAG yn y flwyddyn olaf. Ers gadael y Coleg, dw i wedi cadw mewn cysylltiad â’r cyn-fyfyrwyr drwy drefnu sawl aduniad.
Bûm yn ffodus i gael swydd ddysgu yn y brifddinas wedi gadael y Coleg, ac i ddechre, rhannu tŷ gyda thri ffrind o’r coleg. Un ohonynt oedd J. J. Williams, cyn-asgellwr Cymru a’r Llewod a fi ddysgodd John sut i ffrïo ŵy! Yn y degawd cyntaf, bues i’n dysgu mewn ysgolion yng Ngabalfa, Sblot a Thremorfa, a’r Rhath, cyn cael swydd dirprwy yn Ysgol Coed Glas yn Llanisien. Tra’n dysgu yn y Rhath, fe gwrddais i â’m gwraig, Dawn ac ‘yn ni wedi bod yn brïod ers 45 mlynedd bellach. Bues i’n brifathro am bedair blynedd yn Ysgol Bryn Deri yn Radur, cyn symud am dair blynedd ar hugain olaf fy ngyrfa i fod yn brifathro Ysgol Evenlode ym Mhenarth. Ar ddechre’r 80au, roeddwn i’n gyfrifol am sefydlu tîm criced i athrawon ysgolion cynradd Caerdydd a`r cylch, a hefyd clwb cadw`n heini/pêl-droed 5-bob-ochr i`r athrawon bob nos Wener. Mae`n dda ‘da fi ddweud ei fod yn dal i fynd heddi!
Wedi gadael y coleg, ymunais â Chlwb Rygbi Cymry Caerdydd, ac roedd y rhan fwyaf o’m bywyd cymdeithasol yn y 70au yn troi o gwmpas gweithgareddau’r Clwb. Ym misoedd yr haf, roeddwn yn aelod o dîm criced llwyddiannus Llandaf oedd yn chwarae yng Nghyngrair Morgannwg. Bûm yn gapten am dair blynedd ar dîm Clwb Rygbi Cymry Caerdydd, yn ogystal â bod yn gapten ar dîm rhanbarthol Caerdydd a’r Cylch wrth iddyn nhw ennill y Cwpan Howells i ranbarthau Cymru dair blynedd yn olynnol. Braint bersonol fawr hefyd oedd cael fy newis i gynrychioli tîm rhanbarthol Cymru, tîm oedd yn cynnwys un aeth ymlaen i chwarae i’r tîm cenedlaethol – Clive Burgess o Lyn Ebwy.
Ond ar ôl naw tymor gyda’r Clwb, daeth galwad ffôn annisgwyl un haf wnaeth newid patrwm y penwythnosau am y 40 mlynedd a mwy nesa. Roedd Tom Davies, uwch-gynhyrchydd yr Adran Chwaraeon gyda’r BBC yn fy ngwahodd i ymuno â’r adran ar bnawn Sadwrn i gyd-gyflwyno’r rhaglen Chwaraeon ar Radio Cymru yng nghwmni bechgyn fel Gareth Blainey, Geraint Evans, ac Ian Gwyn Hughes. Ar ôl saith mlynedd yn y stiwdio, fe ges i gyfle i fynd mas i sylwebu, ar rygbi yn bennaf, gemau clwb, rhanbarthol, a rhyngwladol, ond yn achlysurol ar ambell i gyfarfod rasio ceffylau hefyd fel y Grand National neu’r Derby. Roedd bod yn ddwyieithog yn fantais fawr hefyd oherwydd fe ddaeth sawl cyfle i weithio nid yn unig yn y Gymraeg ond hefyd yn Saesneg ar Radio Wales a Scrum 5. Wedi i’r wyrion gyrraedd, penderfynes roi’r gorau iddi. Ond, bûm yn lwcus dros ben i fwynhau dwy yrfa fel petai, un yn y byd addysg o Ddydd Llun i Ddydd Gwener, ac un ym myd y cyfryngau / chwaraeon dros y penwythnos.
Am yn agos i 40 mlynedd, rwy’ wedi bod yn aelod o’r band ‘Pluck and Squeeze‘ sy’n cynnal twmpathau mewn priodasau, ysgolion, partïon penblwydd ac ati. Fi sy’n galw – y diddordeb mewn dawnsio gwerin yn sicr wedi dechre yn yr Aelwyd ym Mrynaman. Ymddangosodd y Band mewn un bennod o Gavin and Stacey!

Ac er nad oeddwn wedi bwriadu ‘gweithio’ ar ôl ymddeol, fe ddaeth cyfle i arwain pobl o gwmpas Stadiwm y Principality fel tywysydd ac rwy’n dal i wneud rhyw 3–4 diwrnod y mis (gol. trip CMT?). Bob mis Rhagfyr, daw’r cyfle i wisgo siwt Siôn Corn yn y Stadiwm, yn ogystal â bod yn M.C. yn y ginio swyddogol cyn ac ar ôl ambell gêm ryngwladol.

O ran gwyliau a thrafaelu, Ynysoedd Groeg yw’r dewis i ni fel teulu. A sôn am y teulu, mae Dawn y wraig a finne wedi bod yn lwcus dros ben i groesawu 5 o wyrion i’r byd, dau ohonynt yn blant i Bethan, y ferch, a Nathan ei gŵr, a thair o ferched i’r mab Martin, a Shireen ei wraig. Mae llawer o warchod yn wythnosol, ond braf yw ein byd ni. Mae ymuno â’r côr wedi bod yn bleser mawr gan ddod i adnabod nifer o ffrindiau newydd – rwy’n flin calon na wnes i ymuno flynyddoedd yn ôl (gol. i’w ddyfynnu ar ddeunydd marchnata CMT yn y dyfodol)!
2. Beth yw dy atgof cynharaf?
A finne ond yn dair blwydd oed, rwy’n cofio bod lawr yn nhŷ Mamgu a Dadcu yng Nglanaman, a Mam yn Ysbyty Glanaman yn disgwyl babi heb sylweddoli bod efeilliaid ar y ffordd! A Dad druan mewn sioc wrth i’r nyrs ddweud wrtho – “Llongyfarchiadau Mr Jenkins, bachgen bach, ond peidiwch mynd, achos mae un arall i ddod!”
3. Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Anesmwyth: rwy’n casâu eistedd o gwmpas y tŷ yn gwneud dim.
Cymdeithasol: rwy’n dwlu cymysgu a dod i nabod pobl, yn enwedig ar wyliau. Mae gweithio yn y Stadiwm yn enghraifft dda o hyn hefyd, gan fod pobl yn ymweld â’r Stadiwm o bob cwr o’r byd.
Amryddawn: rwy’ erioed wedi bod yn dipyn o ‘all-rounder‘, ac yn dal i fod yn brysur mewn sawl maes gwahanol.
4. Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?
Ar bnawn heulog o haf, ‘sdim byd yn well nag eistedd ar gopa’r Mynydd Du, ac edrych lawr ar bentre Brynaman ar y naill ochr, a gogledd Sir Gâr fel rhyw siaced fraith ar y llaw arall, yn ei holl ogoniant – a Chastell Carreg Cennen yn y pellter. Arbennig!!
Wedyn, dau le sy’n dod nôl ag atgofion melys oedd sefyll o dan holl bŵer Rhaeadr Niagara yng Nghanada – ninne ar daith rygbi i Ganada nôl yn 1971 ac yn ymweld â Niagara am ddiwrnod.
Hefyd, ar daith y Llewod i Dde Affrica nôl yn 2009, sefyll ar ben Table Mountain uwchben Cape Town ar bnawn hyfryd, a ble bynnag o’ch chi’n cerdded, cwrdd â nifer fawr o Gymry eraill, oedd mas yno fel ninne i ddilyn y rygbi. Ro’dd hi fel petai’n bod ni ar ben y Rhigos neu Ben-y-Fan!
5. Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
D.I.Y. Dwi ddim erioed wedi bod yn llawer o help o gwmpas y tŷ. Dwy law chwith!!
6. Beth sydd yn dy wylltio?
- Sbwriel
- Cryts ifanc, yn amlach na dim yn gwisgo mwgwd, ar sgwteri neu feics trydan, sy’n credu eu bod yn gallu rheoli’n heolydd ni. ‘Dyn nhw ddim yn credu mewn goleuadau hyd yn oed!
- Y bobl sy’n dodi trolleys nôl yn y llefydd anghywir ar ôl siopa
7. Beth am rannu rhywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
‘Sdim llawer o bobl yn gallu dweud eu bod wedi chwarae maswr gyda Syr Gareth Edwards! Tra’r oedden ni`n fyfyrwyr yn y coleg, ro’dd Gareth newydd gael ei ddewis yn gapten ar Gymru, ac yntau ond yn ugain mlwydd oed. Ro’dd tri ohonon ni yn eistedd yn y ‘Common Room‘ yn y coleg – pawb arall wedi mynd i ryw ddarlith bwysig ar addysg yn y neuadd. Pwy gerddodd i mewn ond Gareth yn cario llond sach o beli rygbi, a thua hanner dwsin o wŷr camera yno ar gyfer rhaglenni newyddion y noson honno. “Boys, I need an outside-half,” meddai Gareth wrthon ni. Y ddau arall oedd Roger Lane aeth ymlaen i chwarae wythwr gyda Chaerdydd am flynyddoedd, a Gerry Oram, clo i dîm cyntaf y coleg – y ddau’n rhy fawr i chwarae maswr. Felly, rhaid oedd i finne redeg draw i’r hostel i newid, cyn ymuno â Gareth mas ar y cae rygbi. Mae’r ffilm yn dal ar gael, gyda HTV a’r BBC heddi!
8. Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Fe enwa i ddau i chi â’r un cyfenw, Francis – y naill yn awdur byd-enwog, Dick, a’r llall yn chwaraewr pêl-droed enwog, Trevor. Tra’n gwneud sylwebaeth ar y Grand National un flwyddyn, bûm yn ddigon ffodus i holi Dick Francis cyn y ras. Yn enedigol o Sir Benfro, ond ar ôl dod yn enw byd-enwog ym myd llenyddiaeth bu’n byw yn Ynysoedd y Cayman ond roedd yn dod nôl i Brydain unwaith y flwyddyn ar gyfer y National. Dyn hynaws, hyfryd.
Yna cwrdd â Trevor ym maes parcio Edgbaston, ar ôl bod yno i weld Morgannwg yn chwarae yn rowndiau terfynol yr ugain pelawd (20/20). Rwy’ wedi cefnogi Notts Forest ers y 60au, yn bennaf oll gan fod dau Gymro yn chwarae iddynt ar y pryd – Terry Hennessey y capten (a fu farw’n gynharach eleni) a Ronnie Rees o Ystradgynlais. Ro’dd gwraig Trevor, Helen, yn dod o Lanelli, ond ro’dd e’n arwr mawr i gefnogwyr Forest gan taw fe sgoriodd y gôl pan drechon nhw Malmö i ennill Cwpan Ewrop nôl yn 1979. Fe hefyd oedd y chwaraewr cyntaf i’w werthu am filiwn o bunnoedd.
9. Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy fyddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?
Cinio Nadolig yw uchafbwynt y flwyddyn, gyda’r teulu oll yn bresennol. Rwy’ hefyd yn hoff o gael curry o bryd i’w gilydd – “chicken dupiaza” yw’r dewis fel arfer.
Yn gwmni, byddai’n wych cael dau o’m harwyr – Dafydd Iwan a Paul McCartney, ac i gadw pawb mewn hwyliau da, yr hen ffrind annwyl Dewi Pws, a Sir Peter Ustinov efallai.
10. Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?
Rwy’n dilyn rasio ceffylau’n gyson. Bûm yn aelod o Glwb Golff Radur am ddegawd ar ôl ymddeol, cyn rhoi’r gorau iddi wedi i’r wyrion gyrraedd. Rwy’ hefyd yn aelod o Glwb Bowlio’r Eglwys Newydd dros fisoedd yr haf, ac yn hoff iawn o baratoi nosweithiau cwis (gol. noson arall i CMT?). Ac mae’r wraig a finne’n dwli mynd am wac o gwmpas llyn Parc y Rhath mor aml ag y gallwn.

11. Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio?
Rwy’n hoff iawn o raglenni ble mae angen ymarfer yr ymennydd e.e. Only Connect a The 1% Club.
12. Beth yw dy hoff lyfr(au)? Pwy yw dy hoff awdur(on)?
Rhaid imi gyfaddef nad oeddwn i’n ddarllenwr mawr cyn ymddeol, ond fy hoff awduron yw Lee Child a David Baldacci – rwy’n sicr fod pob un o nofelau’r ddau gen i.
13. Pa un darn o gerddoriaeth fyddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?
Nôl yn fy arddegau, ro’n i’n ffan mawr o’r Beatles, fi a’m ffrind gorau Elis Wyn Williams o Frynaman – y ddau gynta i gyrraedd y siop recordiau yn Rhydaman pan fyddai LP newydd mas. Wedyn, yn y 70au, fy hoff grwpiau oedd E.L.O. a’r Carpenters. Yn y Gymraeg, Dafydd Iwan (un arall gafodd ei eni ym Mrynaman) a Mynediad am Ddim. Fy hoff gân – Anfonaf Angel.
14. Pe baet ti’n Brif Weinidog Cymru pa freuddwyd fyddet ti eisiau ei gwireddu gyntaf?
Rhaid gwisgo het y Prifathro i ateb y cwestiwn yma. Fel llawer i athro arall, ro’n i’n cael fy ngwylltio’n flynyddol pan fyddai’r Torïaid a’r Blaid Lafur hefyd yn cyflwyno rhyw fesur newydd i ysgolion y wlad, a chithau’n gorfod gwneud yn siŵr fod y newidiadau’n cael eu cyflwyno yn eich ysgol chi. Bron y gallech chi glywed holl athrawon y wlad yn gweddïo am gyfnod sefydlog i bethau setlo lawr!!
Hefyd, ar ddechre fy ngyrfa fel athro, ro’n i’n gyfarwydd â gemau iachus, cystadleuol rhwng ysgolion bob bore Sadwrn (pêl-droed a rygbi). Pob ysgol a’i dîm ei hun – ysgolion cynradd ac uwchradd. Newidiodd popeth yng nghanol yr 80au, ond oni fyddai’n braf i weld ein hysgolion yn cael y cyfle ‘na eto!!
15. Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?
Rwy’n mawr obeithio bydd ffrind ‘newydd’ ymhlith yr ail denoriaid, sef Gerallt Price Davies, yn barod i’n diddanu.