- Rho grynodeb i ni o’th gefndir a’th hanes.
Cefais fy ngeni ar fferm fechan ger pentref Llanpumsaint yng ngogledd Sir Gâr. Ffarmwr oedd fy nhad a oedd wedi arallgyfeirio i dyfu a gwerthu planhygion bresych. Roedd yn enwog drwy’r sir fel ‘Ben Cabbage’! Fi oedd y plentyn canol o dri, gyda fy chwaer Lorraine flwyddyn yn hŷn, a’m brawd Elfed saith mlynedd yn iau. Magwraeth syml oedd hi bryd hynny i bawb ac yn enwedig i feibion fferm heb rhyw lawer o gyfle i chwarae gyda phlant eraill y tu fâs i’r ysgol. Cerdded wnawn i gan amlaf i ysgol y pentref oedd rhyw filltir a hanner i ffwrdd. Yn dilyn llwyddiant yn yr arholiad 11+, es ymlaen i’r Gram yng Nghaerfyrddin. Roedd ein rhieni yn awyddus iawn ein bod yn gwerthfawrogi’r cyfle i gael addysg dda am fod y ddau ohonyn nhw wedi gadael yr ysgol yn 13 oed oherwydd marwolaeth eu mamau yn ifanc. Yn dilyn canlyniadau rhesymol yn y lefel ‘O’, es ymlaen i wneud pynciau gwyddonol yn lefel ‘A’ ac yna i astudio Cemeg Diwydiannol ym mhrifysgol Caerdydd.
Ar ôl graddio cefais swydd gyda chwmni fferyllol o’r enw Parke-Davis (oedd yn enwog am greu Benylin). Penderfynodd Marian a fi briodi a mynd i fyw yn Llundain. Mewn dwy flynedd symudodd y cwmni i ffatri newydd sbon ger Pontypŵl ac fe wnaeth Marian a finne ailsefydlu yn y Fenni lle cafodd Geraint a Nia eu geni.
Yna ar ôl rhyw ddeuddeg mlynedd yno a chael profiad eang ym mron pob adran o’r cwmni cefais y cyfle i fynd gyda’r un cwmni i Nigeria i agor ffatri newydd yn Lagos. Roedd hwn yn ddyrchafiad anferth o ran swydd a chyfrifoldeb ac roedd cymaint o faterion teuluol i’w hystyried cyn cytuno a derbyn y gwahoddiad i fynd i fyw yno am bedair blynedd. Nid oedd cyfleusterau addysg i blant dros naw oed yno, felly addysg breswyl yng Nghymru gafodd y plant tra bod Marian a finne yn byw bywyd fel expats yn y tropics. Profiad annisgwyl ac unigryw oedd bywyd yn Lagos na fyddai’n dderbyniol gan y mwyafrif. Roedd troseddu, gan gynnwys llofruddiaethau yn brofiad dyddiol. Ta waeth, fe dyfodd y ffatri i fod yn eithaf llwyddianus ac fe hedfanodd y pedair blynedd heibio heb lawer o ofid. Wedyn,nôl â fi i’r ffatri ym Mhontypŵl fel pennaeth cynhyrchu tan i’r perchnogion newydd, Pfizer, benderfynu nad oedd dyfodol bellach i’r ffatri .
Cefais gynnig swydd arall wedyn gan gwmni fferylleg eto yn Ystrad Mynach o’r enw Norgine, oedd yn cyflogi rhyw 75 o bobl ar y pryd a thros y deng mlynedd y bues i’n gweitho yno fel prif gyfarwyddwr fe ehangwyd y ffatri i gyflogi bron i 500. Erbyn hyn roedd y swydd wedi tyfu tipyn ac roedd gofyn teithio llawer o fewn Ewrop. Penderfynes i ymddeol yn 60 oed a gwneud peth gwaith gwirfoddol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan eistedd ar fwrdd REC ( Research Ethic Committee) a chynrychioli cwmnïoedd fferyllol Cymru ar fwrdd ABPI yn Llundain.
Hyn i gyd cyn torri pob cysylltiad â’r byd gwaith i ganolbwyntio ar bethau pwysicach o lawer fel cymdeithasu, blasu gwin a chwarae golff! (A chanu yng Nghôr Meibion Taf – gol.)
- Beth yw dy atgof cynharaf?
Gweld ffergi fach newydd sbon (TE 20) yn dod i’r fferm pan oeddwn tua phum mlwydd oed a methu cysylltu hynny gyda’r hen gaseg las, oedd wedi bod yn ffrind agos imi, yn ein gadael yr un wythnos.
- Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Un o’r werin!
- Beth yw dy hoff le di yng Nghymru?
Traeth Dinbych y Pysgod ar ddiwrnod oer ganol gaeaf.
- Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
Digonedd, medde Marian, ac yn eu plith tueddiad i gadw gormod o bethau rhag ofn daw galw amdanynt rywbryd eto.
- Beth sydd yn dy wylltio ?
Pobl yn gyrru sgwters trydan ar y palmant a chroesfannau sebra.
- Beth am rannu rhywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
Tarddiad y llysenw ‘MWNI’.
Na, dim byd i wneud â phranciau myfyrwyr yng nghefn bws mae’n dda gennyf ddweud ond rhywbeth llawer mwy gwreiddiol!
Prin flwyddyn yn hŷn na fi oedd fy chwaer Lorraine a’r gair cynta ynganodd hi ar ôl meistroli ‘Mam a Dad’ oedd ‘Mwni’ wrth iddi wneud ei gorau i ddweud Myrddin, sef, ynghyd â Benjamin (fel fy nhad) fy enw bedydd.
Rhaid dweud taw dim ond Mam druan a pherthnasau hŷn glywais i erioed yn fy ngalw yn Myrddin. ‘Mwni’ oedd hi gyda phawb arall drwy’r ysgol a hefyd yn y coleg nes imi gael fy nghyfweliad cynta am swydd yn Llundain ar ôl graddio. Gofynnodd y boi ‘ma beth oedd fy enw cynta ac atebais taw ‘Myrddin’ oedd e. ‘Heb glywed yr enw yna erioed’ medde fe yn ei acen posh. ‘Oes gwahaniaeth ‘da ti os galwn ni ti yn ‘Ben’ yn y cyfweliad ‘te?’ gofynnodd e. ‘Iawn’ meddwn inne yn hytrach nag anghytuno ag e cyn bod y cyfweliad yn dechrau’n iawn! Roedd y cyfweliad yn llwyddiannus ac ychydig yn hwyrach derbyniais y gwahoddiad i ymuno â’r cwmni hwnnw. Ond arhosodd yr enw newydd yma, ‘Ben’, gyda fi drwy gydol fy ngyrfa nes i fi ymddeol a chwrdda hen ffrindiau coleg ac ati eto yng Nghaerdydd.
Erbyn hyn does neb bron yn fy ngalw i yn ‘Myrddin’. Mae rhai ffrindiau o Loegr a’r gwaith gynt yn fy ngalw yn ‘Ben’ ond ‘MWNI’ ydw i i bawb arall!
- Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Rhodri Morgan, am ei barodrwydd bob amser i gefnogi ceisiadau am gymorth i fusnesau bach a llwyddiannus yng Nghymru. Cytunodd ddod i Ystrad Mynach ddwywaith i agor dau estyniad i’r ffatri.
- Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?
Cinio Sul traddodiadol gyda chig oen Cymreig yng nghwmni y teulu agos a’i olchi lawr gyda thipyn o Malbec.
10. Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?
Gwylio rygbi, naill ai gêm fyw neu ar y teledu.
Chwarae golf a threfnu ambell gystadleuaeth i eraill.
Treulio amser gyda’r wyrion, sef Alys merch 6 oed Nia a’r efeilliaid Jonty a Teddy, hefyd yn 6 oed gyda Geraint. Maen nhw i gyd yn byw ger Llundain.
Rwy’n treulio gweddill yr amser yn yr ardd ac yn y gweithdy yn trwsio ac atgyweirio unrhywbeth sydd wedi torri.
11. Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio?
Dim ond y newyddion yn arferol ac ambell ffilm gyffrous.
Hefyd gemau rygbi o Gymru a golff o’r Unol Daleithiau.
- Beth yw dy hoff lyfr(au)? Pwy yw dy hoff awdur(on)?
Rhaid cyfaddef nad wyf yn ddarllenwr cyson o does gennyf ddim hoff lyfr na hoff awdur chwaith. Rwy’n sicr mai’r llyfr a gafodd y dylanwad mwyaf arna i erioed oedd yr Enseiclopedia i Blant a gefais fel anrheg Nadolig yn ddeg oed. Roedd hwnnw fel ‘Gwgl’ o flaen ei amser bob tro roedd eisie gwybodaeth arna i ac yn sbardun mawr i greu diddordeb mewn pethau gwyddonol a byd natur.
- Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?
Yn yr wythnos gynta byddwn yn mwynhau’r tawelwch a’r llonyddwch ac yn yr ail wythnos yn gwrando ar lais peraidd Dafydd Iwan yn canu ‘Yma O Hyd’.
- Pe baet ti’n Brif Weinidog Cymru pa freuddwyd fyddet ti eisiau ei gwireddu gyntaf?
Ehangu ‘Bus Pass” yr henoed i gynnwys teithio am ddim ar y Metro newydd yng Nghaerdydd (fel yn Llundain)
- Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?
Seimon Stockton (bariton)