Diolch yn dalpe Alun Wyn – ‘ffolow ddat’ myn yffarn i! Rwyf wedi clywed canu clodydd pentre’r Gwter Fawr gan bawb fu’n byw yno ond yn benodol gan fy niweddar frawd yng nghyfreth, Islwyn Gus Jones. Bydde ynte’n rhestru gogonianne’r lle’n gyson.
- Rho grynodeb i ni o’th gefndir a’th hanes.
Ces ‘y ngeni yn Y Ganllwyd, y lle gollwng deigryn ‘na wrth deithio i’r Gogledd, fel darn o aur Mwynglawdd Gwynfynydd gerllaw lle cloddiwyd 1,400kg tebyg rhwng 1884 a 1998! Yno cath ‘y mrawd, Walter, aelod o Gôr y Penrhyn a Hogia’r Bonc, hefyd ei eni. Ond cafodd fy chwaer, Ann, sy wyth mlynedd yn hŷn ei geni yn y Post yng Nghapel Celyn ble roedd ein taid, Watcyn o Feirion (un o sylfaenwyr y Gymdeithas Cerdd Dant) yn Bostfeistr. Roedd yn mynd o amgylch ffermydd a thyddynnod y cwm bob bore gyda’r post. Rwy’n cofio fy mam yn adrodd iddo ddweud sawl gwaith y bydde rhywun ryw ddydd yn boddi’r cwm. Bu farw fy nain ar enedigeth y seithfed plentyn ac felly magwyd y teulu gan y chwaer fawr sef Anti Lisi Me, arwres ymgyrch amddiffyn Cwm Celyn, Elizabeth Watkin Jones.
Yn bum mlwydd oed, symudodd y teulu i Dinas Mawddwy neu, Y Dinas, gan i nhad gâl ei benodi’n brifathro ysgol y pentre – yr ysgol ble roedd ewyrth Alun Wyn Jones yn ddisgybl, Edward Anzac Ellis.
Mae Bwlch Oerddrws yn arwain i Ddolgellau (A470) a Bwlch Y Groes yn eich arwain drwy Lanymawddwy i Lanuwchlyn neu i Lanwddyn – yr hewl ail ucha yng Nghymru. Mae hefyd dri phrif gwm sef Cerist (ble potelir Dŵr Cerist yn fferm Llawr Cae), Cywarch (ble tyfid y cnwd hemp) a Chwm Cewydd (Sant Cewydd y 6ed ganrif, yr un boi ag yn Llangewydd, y sant glaw effeithiol iawn!). Dyma hefyd oedd enwau llysoedd yr ysgol.
Yn y dyddie a fu, prif hynodrwydd yr ardal oedd mangre’r Gwylliaid Cochion sef gweddillion byddin Glyndwr yn ôl pob tebyg. Ond yn 60au a 70au’r ganrif ddwetha, un o drigolion enwoca’r ardal oedd tafarnwr rhadlon y Llew Coch sef Danny Rowlands. Ac yno y bydde Ryan a Ronnie, Alun Williams a sêr byd adloniant y cyfnod yn cyfeddach.
Ar ôl crafu heibio’r 11+, es i Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn Nolgellau. I’r rhai anffortunus a faglai ar y glwyd honno, Ysgol Mach oedd eu tynged. A dyna rannu cymdeithas yn unarddeg oed. Siroedd gwahanol a chylchoedd cymdeithasu gwahanol, chwaraeon gwahanol. Dolgellau ym Meirionnydd, Machynlleth ym Maldwyn, rygbi yn Nolgellau a phêl-droed, bryd hynny, ym Mach. Gwarth cymdeithasegol a staen ar awdurdodau’r cyfnod.
Ar ôl blwyddyn yn yr Ysgol Ramadeg, trôdd yn Ysgol Gyfun, Ysgol y Gader, ac ymunodd merched â ni. Yn yr un flwyddyn yr oedd Arfon Gwilym ac roedd ei frawd Dyfan Roberts flwyddyn yn hŷn. Eu hewyrth, Geraint Edwards (Bonso) oedd yr athro Cymraeg. Y dylanwad mwyaf arna i a nifer o’m ffrindie oedd athro ymarfer corff newydd o Gwm Gwendraeth sef, Alun Davies. Roedd ei frwdfrydedd yn heintus a’i garisma yn cymell. Yn ddiweddarach daeth yn Gyfarwyddwr Addysg Ynys Manaw.
Roedd ‘coleg’ yn y Dinas, sef y ffatri wlân – coleg bywyd. Yno yr addysgwyd mwyafrif cogie’r pentre yn ffyrdd y byd a’i bleserau – gan y rheolwr, Gwynoro Jones (Jimpy), gŵr a adawodd Ysgol Mach yn bymtheg oed i ddod yn brentis grader ac un o’r dynion mwya deallus i fi’i gwrdd eriôd. Denwyd bechgyn o du allan yr ardal i weithio yno adeg gwylie ysgol a choleg – megis Iwan Morgan, Corris (Speedy) a hyd yn oed Wil Morgan (BBC), Llanfairfechan. Byddem yn ymweld â’r Star Inn, Dylife o bryd i’w gilydd, Speedy a’i gitâr a phawb yn morio canu dan ddylanwad cwrw a dywalltwyd o jwg gan y dafarnwraig. Daeth yr ymweliade hyn i ben yn dilyn damwain pan foelodd un o’r ceir dros ddibyn serth ar y ffordd nôl i barti ym Mach.
Canslwyd y parti a chollodd Gareth Rowlands (mab y bardd o Gapel Celyn, Ithel Rowlands) ei olwg yn un llygad.
Ar ôl crafu rywsut eto dros glwydi lefel A, cyrhaeddais Brifysgol Abertawe yn dilyn dau o’r ffatri wlân sef Emyr Puw, Theatr Ieuenctid Maldwyn (Moses) a John Brynhyfryd (tad Llyr Roberts, Y Coleg Cymraeg, fu farw mor annhymig a mab y delynores Meirwen a’r gosodwr cerdd dant Dafydd). Yno’r un pryd roedd croten ifanc o Lanelli o’r enw Carol Morris – daeth Huw Eic i’w hadnabod yn ddiweddarach! Graddiais mewn Gwleidyddiaeth ac yna blwyddyn yn cymhwyso i fod yn athro – Cymraeg dan Beryl Thomas ac Ymarfer Corff dan Stan Addicott a Tom Hudson. Ymarfer dysgu cynta yn Ysgol Mynydd Cynffig ble roedd mam Clive Shell (mwy amdano fe nes mlân) yn gogyddes ac yn gofalu amdanaf. Yn yr ail gyfnod dysgu, es i Ysgol Dyffryn Aman a chael modd i fyw a Rhiannydd Morgan yn gofalu amdanom ni’r myfyrwyr.
Rhaid mod i’n hoff o’r lle achos es yn ôl a gneud gradd yn y Gymrâg tra’n gyrru tacsis a labro – gan mod i ‘di penderfynu taw athro Cymrag ron i am fod. I’r un brifysgol âth y ferch, Elin a’r mab, Morgan, ond am lai o gyfnod!
Ces fy mhenodi i’m swydd gynta, unwaith eto’n dilyn Emyr Tyn Pwll y Dinas, yn Ysgol Gyfun Porthcawl ble roedd y dywededig Clive Shell yn Bennaeth Ymarfer Corff a’r carismatig, Roger Burnell, yn Bennaeth Drama. Dyddie difyr! Ces fy mhenodi’n bennaeth adran ac rwy’n cofio penodiad gŵr ifanc o’r enw Gareth Charles i ddod i ymuno â’r adran. Daeth mis Medi ond welwyd mo’r penodiad newydd. Roedd wedi’i ddenu i’r cyfrynge. OND, a dyma lle ma pethe’n troi’n ddiddorol, fe benodwyd athro bochgoch arall yn ei le. Pwy medde chi? Wel neb llai na’n Hywel Jones ni yn CMT. Cafwyd blynyddoedd hapus ‘da’n gilydd – o leia o’m rhan i. Un o’n disgyblion enwoca yw’r actores Ruth Jones. Ymhen y rhawg gadawodd yr athro bochgoch am diroedd brasach, Ysgol Cwm Rhymni, CBAC, Cyngor Caerdydd ac arolygeth Estyn. Lico meddwl i’w ddyddie ym Mhorthcawl roi dechreuad da iddo – os caf ddwyn peth clod o’i lwyddiant! (I ti mae’r diolch i gyd Col, gol.)
Ces inne fy nenu gan John Albert, Trefnydd Iaith y Sir (ac un o sylfaenwyr CMT), i swydd datblygu Cymraeg i Oedolion a Gweithgareddau Ieuenctid Cyfrwng Cymraeg yn y sir. Yna, ces fy mhenodi gan Helen Prosser yn Swyddog Hyfforddiant ac Ansawdd Canolfan Cymraeg i Oedolion Morgannwg ar gampws Prifysgol Trefforest – wyth mlynedd i’w trysori i gwpla gyrfa hapus.
Ac yna, dyma Gary Sam yn fy mherswadio i ymuno â CMT! Diolch Sam a heddwch i’th lwch.
- Beth yw dy atgof cynharaf?
Yn ddyflwydd oed, eistedd ar lawr y gegin tra bo Mam yn sgrifennu llythyr ac fe lyncais ddarn o arian. Hithe’n clywed y bwldagu ac yn gofyn beth ôn i wedi’i lyncu a finne’n ateb: ‘hannercoron’ (i aelode ifanc CMT hen ddarn arian go swmpus oedd hwn, wyth ohonynt mewn punt!). Yn dilyn ymweliade â’r ysbyty a dioch i’r xrays, gwelwyd taw hen bishyn tair ydoedd. Rhoddwyd wthnos i natur neud ei waith cyn bydde rhaid câl llawdrinieth. Bu mam yn santes yn archwilio fy ngharthion yn ddyddiol ….. ac ar y trydydd dydd, wele’r darn arian fel sofren newydd yn ymddangos.
Blwyddyn neu ddwy’n ddiweddarach a mam yn arwain cwarfod bach a minne i fod i adrodd ryw bennill neu’i gilydd ac yn câl fy nghodi i’r sedd fawr ond yn gwrthod yngan gair. Mam yn holi beth oedd yn bod a minne’n cyhoeddi dros y capel, mae’n debyg, “gormod o bobyls”. Ac nid fel Colin Bod Athro y byddwn yn câl fy nabod ar ôl hynny ond fel Gormod O Bobyls.
- Disgrifia dy hun mewn tri gair.
byrbwyll cyffredin ffodus
- Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?
- Llwyfan y Genedlaethol yn ennill y wobr gynta gyda CMT
- Y Fawnog yng Nghwm Cywarch cyn mynd dros Fwlch y Groes i Lanuwchlyn ble byddem ni, cogie Dinas, yn rasio jelopîs, yn câl ein harwain gan Gerallt y Garej sef ewyrth Gwyndaf y gyrrwr rali a thad Elfyn – ond stori arall yw honno.
- Ffriddoedd golff Aberdyfi, yr Ash ac Aberteifi
- Rhaeadrau Luang Prabang yng Ngwlad Lao – ble bum yn nofio ar gefn eliffant
- Ffriddoedd golff Nairn yn yr Alban, Baltray yn Iwerddon a River Hills ym Myrtle Beach (gweler rhif 8 isod)
- Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
- Peidio â chanu’r node sy ar y copi na chadw at y tempo a’r traw y mae Steff yn ei ddisgwyl.
- Cenfigennu tuag at ddonie amrywiol aelode T1, T2 a B1 CMT
- Cadw perthynas rhy glos â meicroffons pan ar deithie CMT!
- Methu pyts
- Beth sydd yn dy wylltio?
- Trump a Boris
- Ambell lythyrwr cyson yn y Western Mail
- Sachets sôs coch a sôs brown – unrhyw sachet.
- Darlledwyr yn ynganu Evyns nid Evans, Williyms nid Williams, Thomys nid Thomos , Bethyn nid Bethan, Dylyn nid Dylan ……
- Halelwwwia nid haleliwia
- Clustoge dirifedi ar wely neu soffa – a’r throw bondigrybwyll
- Beth am rannu rhywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
- Dyma gofnod o’r tro y llwyddes i gyflawni’r ‘eryr dwbwl’ ar gwrs golff Myrtle Beach yn Ne Carolina.
- Yn y coleg ces fenthyg gwisg un o deuluoedd brenhinol Nigeria i fynd i barti gan gyfaill o’r enw Ali – un hoff iawn o’i Guinness! Roedd hyn gwta bum mlynedd wedi’r coup milwrol yn Biafra – stori ddaeth i sylw’r byd gan i Angus McDermid lwyddo i drosglwyddo’r hanes drwy gyfrwng y Gymraeg pan oedd cyfyngiade llym ar ohebu o’r wlad.
- Wrth recordio cyfweliad ar gyfer arholiad Cymraeg i Oedolion ces y profiad mwya dirdynnol wrth i’r ymgeisydd, am y tro cynta yn ei fywyd, ddisgrifio sut bu iddo fel plentyn, oroesi trychineb Aberfan.
- Ces hefyd yr ‘anrhydedd’ o farcio papur arholiad JPR! A hefyd braf gweld bod cyn fyfyriwr, Rosa Hunt, y wraig eithriadol o Ynys Melita sy’n weinidog ar Tab, yn câl ei derbyn i’r Orsedd eleni)
- Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Ar wahân i sawl un yn y côr, cofio bod yn nhŷ bach San Steffan, geudy drws nesa i Syr Alec Douglas Home ond gan na shiglon ni law na chyfarch ein gilydd, falle nad yw hynny’n cyfri.
Cofio hefyd câl gwahoddiad i gwrdd â’r Tywysog Andrew (!) ar ôl trefnu adloniant (Majelenic, Enaid Coll a Beganifs) ar gyfer Summer Ball Gwobr Dug Caeredin ond llwyddais i osgoi’r derbyniad, diolch i’r drefn.
Aros wrth arosfan am fws yn Llunden, drws nesa i Michael Portillo a chan taw hir pob aros, dyma geisio dechre sgwrs: “not taking a train today, then?” Rhyw ebychiad o ymateb gafwyd, yn sicr nid sgwrs.
(Gyda llaw rhyfeddu pa mor fach oedd ADH ac ynte Portillo’n syndod o fyr.)
Felly, rownd golff yng ngwmni fy arwr dyddie ysgol, sef Dai Watkins (ie Dai Watkins ac nid BJ ôn i’n gefnogi yn y geme treial). Cwestiwn cwis i AWJ – maint trâd Dai??
- Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?
Taster menu Hywel Griffiths yn y Beach House, Oxwich – *dim tamarind.
Yn gwmni: Lisi Me (chwaer fy mam ac ysgrifenyddes Pwyllgor Amddiffyn Capel Celyn – rôn i’n rhy ifanc i’w holi pan oedd hi byw), Emrys ap Iwan, Pontsian ac Alun Davies fy hen athro rygbi – a Nia.
Neu falle, cataplana ar ôl rownd golff ym Mhortiwgal gyda Llywydd Golffwyr CMT ac ambell aelod.
Lowri’n cyfeilio yn y cefndir!
- Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?
Repertoire CMT yw fy amser hamdden!! Os digwydd bod orig sbâr, yna bydd ymwneud ryw chydig â’r clwb rygbi lleol a gwylio’r mab wrthi’n rhoi boddhad rhyfeddol. Bydd gwarchod y tri ŵyr hefyd yn bleser – o gâl eu dychwelyd! Bydd peint yng nghwmni ffrindie’n weithgaredd amheuthun. Mae Clwb y Dwrlyn, sef y Gymdeithas Gymraeg leol, wedi rhoi mwynhad dros y blynydde. Byddaf hefyd yn gwastraffu f’amser yn waldio pêl fach wen. Dw i heb sgîo na beicio ers blwyddyn neu ddwy.
Pan ôn i’n blentyn rôn i’n arfer meddwl taw Saeson oedd yn dringo mynyddoedd a gneud yr hyn a elwid yn ramblo. Ond, ar foreau Gwener ers sawl blwyddyn bellach, mae criw ohonom yn cwrdd i gerdded llwybrau’r ardal dan arweiniad Penri Williams – Cerddwyr Cadwgan – a wir mae’n weithgaredd hynod o bleserus. Rwyf hefyd wedi câl fy mherswadio gan gyfaill o Sgotyn i fentro ar anturiaethe mwy uchelgeisiol megis Clawdd Offa, Y Glyn Mawr yn Yr Alban, Y Cotswold Way ac mae’r tystysgrife gen i yn profi hynny!!
- Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio?
- Alex a’i rhagolygon tywydd – a dweud y gwir, Alex yn cyflwyno unrhyw raglen!
- Am Dro – yn enwedig y rhaglen honno pan fu cyn aelod CMT, Harri, yn ein tywys o gwmpas Chwarel Minllyn yn y Dinas
- Ar Brawf – syndod o naturiol ac yn dangos i ni ochor arall i fywyd yn y Gymru fach mewn iaith rywiog.
- A’r peth gore fu ar ‘rhen sianel eriôd? Con Passionate
- Beth yw dy hoff lyfr(au)? Pwy yw dy hoff awdur(on)?
Angharad Price ac yn arbennig O Tynn y Gorchydd
Angharad Thomas, Castell Siwgwr
Gwynn ap Gwilyn, Sgythia
Maent i gyd yn ymwneud â bro fy mebyd ond wir i chi, maen nhw’n feistrolgar a gafaelgar – ga i annog pawb i roi cynnig arnyn nhw?
Cyn ymweld â De Affrica gyda charfan rygbi Ysgolion Caerdydd, darllenais Long Walk To Freedom, a chafodd argraff ddofn arna i wrth droedio’r un llwybre â Madiba.
Yn yr un modd gadawodd cyfrol Yuval Noah, Sapiens, A Brief History of Humankind ei hôl arna i.
A’r ‘Bruce’ wrth gwrs!
- Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?
Heblaw am yr amlwg, sef Steff yn canu Ar lan y môr o’r Pantheon, Lowri’n cyfeilio a Ieu Piano’n iodlan tu fâs, yna CMT yn canu Cyn Cau Llygaid / Close Thine Eyes
- Pe baet ti’n Brif Weinidog Cymru pa freuddwyd fyddet ti eisiau ei gwireddu gyntaf?
Addysg Gymrâg i bob dinesydd.
- Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?
Lowri Guy, ein cyfeilydd digymar