- Rho dipyn o’th gefndir a’th hanes i ni
Ces i fy ngeni yn y Denbigh Infirmary, Dyffryn Clwyd yn fab i Glyn a Barbara Thomas ac yn frawd i Sian a ‘mrawd Emyr ‘Slotter’ Thomas. Dad oedd swyddog cynllunio Glyndŵr ac roeddem yn byw yn Bodfari mewn tŷ adeiladwyd gan Taid a Nain. Ffermwr oedd Taid ac adeiladodd ddau dŷ ar ddarn o dir wrth ochr y fferm yn Aberchwilar, Bodfari. Un tŷ i ni, Dolfechlas, ac un tŷ i Taid a Nain, Abernant. Roedd gan ein teidiau a’n neiniau enwau creadigol iawn sef Taid a Nain Drws Nesa a Taid a Nain Dinbych! I aelodau’r côr sy’n dod o’r ardal roedd Taid Dinbych yn cael ei adnabod fel Thomas Astons ac yn gweithio fel rheolwr mewn siop ddodrefn ar Vale St, Dinbych.
Mae gen i atgofion hapus dros ben o blentyndod breintiedig – byw yn y wlad, hafau hir yn chwarae gyda ‘mrawd a chwaer, reidio lawr yr Afon Chwiler ar waelod y cae ar inner tube tractor Mr Evans y garej, reidio Pwnsh, ein merlen fach Gymreig a chwarae Cowbois ac Injuns. Byddem yn cael ein hel i ddringo mynydd Moel y Parc pe baem yn dweud wrth Mam ein bod ni’n bored. Ond, chwarae yn y ‘Pen Draw’, darn o dir ar ochr y tŷ, oedd y ffefryn. Mae nifer o aelodau’r côr wedi sôn am ddarn o dir arbennig a’r ‘Pen Draw’ oedd ein darn ni o dir, sef fi a fy mrawd. Pêl-droed a chriced oedd hi i ni, dim sôn am bêl rygbi, felly Wembley, Old Trafford yn y gaeaf a Lords ac Old Trafford (eto) yn yr haf. Wrth chwarae pêl-droed gydag Em, fi oedd George Best wrth gwrs, chwarae am oriau gan ddynwared sylwebaeth Barry Davies. Yn yr haf criced. Fi ac Em yn chwarae gêm brawf lawn gyda’n gilydd, sylwebaeth gan Jim Laker a Richie Benaud. Dau innings llawn, cinio, te ac egwyl am ddiodydd yn y cwt. Ar ôl pob wiced roedd rhaid cerdded i ffwrdd, chwifio’r bat i’r dorf ddychmygol ac i fewn i’r cwt, dod allan fel y batiwr newydd, cymryd guard ac i ffwrdd â ni unwaith eto, dim ond fi ac Em! Ddeweda I ddim rhagor am ein plentyndod ond dwi’n siwr eich bod yn cael y drift.
Ysgol Saesneg oedd yn Bodfari felly i ffwrdd â Sian a fi i Capel Mawr, y lleoliad cyn i’r ysgol Gymraeg gael ei sefydlu. O fewn blwyddyn agorodd yr ysgol newydd sef Ysgol Twm o’r Nant. Ces amser hapus iawn yn yr ysgol gyda’r brif athrawes Kate Davies … wow .. dyna beth oedd dynes arbennig, brwdfrydig a phositif. Roeddwn wrth fy modd gyda Miss Davies oherwydd ei chariad tuag at chwaraeon. Roeddem yn cystadlu bob blwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd, Mrs Holmes yn dysgu’r canu a Miss Davies yn dysgu’r dawnsio gwerin.
Ar ôl Ysgol Twm o’r Nant symudes i Ysgol Glan Clwyd. Roedd profiadau Glan Clwyd yn hollol wahanol i’r ysgol fach. Oni bai am chwaraeon roedd yr amser yn Glan Clwyd yn gyfnod i’w anghofio! Byddwn yn cael y cyfle ar fore Sadwrn i chwarae pêl-droed i dîm yn Llanelwy sef St Asaph City Boys. Roedd hyfforddwr y tîm, Mr Ryan, yn sgowt I Everton a ches i wahoddiad, gyda ffrind arall o’r ysgol, Dave Felgate, i fynd am dreialon ar yr adeg pan oedd Billy Bingham yn rheolwr. Bythefnos cyn mynd fe dorres fy nghoes yn chwarae i’r ysgol a dyna ddiwedd ar y freuddwyd. Aeth Dave ymlaen i chwarae i nifer o glybiau gan gynnwys Everton, Bolton Wanderers a Chaerdydd a chafodd gap llawn dros Gymru. Yn anffodus i Dave fo oedd y rhif 2 i Nev Southall! Un o uchafbwyntiau fy mhlentyndod oedd cael chwarae dros bentre Bodfari yn y Summer League (aelodau’r côr sydd â diddordeb mewn hanes chwaraeon gwglwch Llandyrnog and District Summer League). Roedd rhaid byw yn y pentre i gynrychioli’r tîm ac roedd pawb o’r pentre yn troi allan i gefnogi’r tim, home and away. Ces y cyfle i chwarae yn yr un tîm â fy arwyr cynnar sef ‘Ted the Fish’ a ‘Bob Bach’ ….. dau lej go iawn.
Gadewais yr ysgol yn 16 heb unrhyw syniad be’ wnawn i nesa. Gweithies yn y garej yn Bodfari, wedyn ces gyfnod hapus yn gweithio yng Nghaer yn siop Owen Owen, department store draddodiadol, gan werthu hysbysebion i’r Chester Observer. Yn 22 oed, wedi cael llond bol ar y gwaith yng Nghaer, ces y cyfle, drwy ffrind yn nhîm pêl-droed Llandyrnog, i fynd i weithio gyda phlant dan anfantais meddyliol yn Llangwyfan, pentre gerllaw Bodfari. Ces amser arbennig yn llawn hwyl yn ogystal ag adegau heriol. Es i weithio wedyn mewn ‘ysgol plant drwg’ yn Craven Arms, ac eto mwynhau fy hun yn fawr.
Un o’r pethau o’n i wedi ei ddifaru oedd peidio cael y cyfle i fynd i astudio chwaraeon yng Ngholeg Cyncoed gan i mi adael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau o bwys. Wrth weithio gyda’r plant penderfynais wneud cais i astudio fel gweithiwr cymdeithasol yng Ngholeg Cyncoed. Doedd dim angen unrhyw gymwysterau ond ces y cyfle i fynd i’r coleg a chael y profiad o chwarae pêl-droed yno. Rywsut fe lwyddes i basio’r cwrs CQSW (Certificate of Qualification in Social Work). Digwyddodd dau beth pwysig i fi tra’r o’n i yn y coleg. Yn gyntaf, ces y cyfle i chwarae pêl-droed i’r coleg a thros golegau Cymru, dan hyfforddiant yr hyfryd Mr Stuart Griffiths, Stuie Griff. A’r ail beth oedd cael cadarnhad fy mod yn dislecsig, ac o ganlyniad dod i ddeall pam ces i amser mor galed yn yr ysgol uwchradd.
Fe gwrddes i â Beth tra’r o’n i yn y coleg a phriodi o fewn 6 mis. 37 mlynedd yn ddiweddarach mae Beth a’r plant, Rhys a Sara, yn dal i roi fyny â fi!
Gweithies am 6 mis fel gweithiwr cymdeithasol ar Ystad y Betws yng Nghasnewydd …. roedd hynny’n brofiad! Penderfynais i wedyn fod rhaid dilyn trywydd arall ac atebais hysbyseb yn y Western Mail, hysbyseb ar gyfer swydd ymgynghorydd ariannol. Mae’n ddrwg gen i ddweud ac rwy’n ymddiheuro’n fawr ond roedd y CV ar gyfer y cais yn un o weithiau llenyddol gore fy mywyd! Ces gynnig y swydd a gweithies i nifer o gwmnïau ariannol, Scottish Amicable/Prudential, cael dyrchafiad fel rheolwr swyddfa Aegon yng Ngaerdydd a cael y cyfle i gwrdd â phobl bwysig iawn iawn fel Gerallt (GP – diolch am dy gefnogaeth). Symudais ymlaen i fod yn gyfarwyddwr dros Gymru a De Lloegr i Legal and General cyn gorffen fel Cyfarwyddwr Gwerthiant y DG gydag Aegon. Ces amser ffantastig a chyfle i deithio’r byd gan gynnwys De Affrica, America ac Ewrop.
Yn 2015 penderfynais ymddeol er mwyn helpu Sara a Geraint i gychwyn busnes priodasol yng Nghasgwent, sef St Tewdrics House. Penderfynodd Beth ymddeol hefyd ar ôl 33 o flynyddoedd fel bydwraig yn Ysbyty’r Brifysgol. Mae’n siwr fod Beth wedi bod yn rhan o enedigaeth nifer o fabanod sy’n gysylltiedig â’r côr! Rwy’n dal i weithio yn St Tewdrics ond wedi cael demotion erbyn hyn gan mai fi sydd yn gyfrifol am dorri’r gwair a rhoi streips taclus ar y lawntiau …. job pwysig dros ben! (Fe fyddai’n amhriodol pe bawn i ddim yn manteisio ar y cyfle i ddweud os oes unrhywun yn edrych am leoliad i’r plant, wyrion/wyresau briodi ewch i www.sttewdricshouse.co.uk ….. diolch yn fawr!)
- Beth yw dy atgof cynharaf?
Mynd ar wyliau i Benllech fel teulu a chychwyn allan am 4yb! Wrth edrych ‘nôl does gen i ddim syniad pam! Roedd Dad yn dreifio ac yn llusgo’r garafan fach. Roedd Mam wedi bod yn paratoi am wythnosau a’r garafan yn llawn ar gyfer y gwyliau. Dw i’n cofio ‘mod i a fy mrawd a fy chwaer yn gysurus yn y gwely gyda’r nos yn clywed Dad a Mam yn sgwrsio’n dawel, sŵn y lamp nwy yn hisian a theimlo’n hapus a diogel.
- Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Chwit-chwat, ffyddlon, byrbwyll
- Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?
- Ar dopie mynydd Moel y Parc, Bodfari, yn edrych lawr ar Ddyffryn Clwyd. Cofio’r storïe am y drygioni gyda ffrindie.
- Dw i wedi cael y cyfle i fynd i Dde Affrica nifer o weithiau. Mae Cape Town yn enwedig yn lle arbennig, ewch yno os cewch chi’r cyfle.
- Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
Colli popeth! Dw i ‘di colli cardie banc nifer o weithiau a ‘dw i di ffonio’r banc i ganslo cardiau ac i ofyn am rai newydd droeon.
- Beth sydd yn dy wylltio ?
- Pobol anghwrtais, er enghraifft wrth ddal y drws ar agor a dim gair o ddiolch.
- Hefyd, enwau Cymraeg ar dai/llefydd sydd wedi eu newid i’r Saesneg.
- O ie, un arall …. mae pawb yn defnyddio’r geiriau ‘narrative‘ a ‘genre‘ … Pam? Beth sydd o’i le ar yr hen eiriau ‘story‘ a ‘style‘?
- Beth am rannu rhywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
Ers yn fachgen ‘dw i di cynnal fy niddordeb mewn ffermio a stoc. Ar ôl symud i Dresimwn ces y cyfle i gadw fy nefaid fy hun. Dw i’n magu defaid Wyneblas Caerlyr (Bluefaced Leicester). Enw’r ddiadell yw Dolfechlas, ar ôl enw fy nghartref yn Bodfari. Fy uchelgais yw magu dafad o safon i’w dangos yn y Sioe Frenhinol (Royal Welsh). Dw i’n croesi bysedd ar gyfer blwyddyn nesa (trip CMT? Gol)
- Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Wel, ‘dwi am geisio cyflwyno ychydig o safon a diwylliant (Duw a ŵyr mae mawr angen ar rai o aelodau’r côr!) Pan o’n i tua 9 mlwydd oed mi ges y cyfle i gwrdd â’r Dr Kate Roberts a chael cinio gyda hi. Mae’r llun hwn yn esbonio’r cyfan.
- Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?
Brecwast rhyngwladol! Bob bore cyn gêm rygbi ryngwladol rwy’n eistedd wrth y bwrdd mawr gyda’r teulu a ffrindie sydd wedi dod lawr i aros gyda ni o’r gogledd i weld y gêm. ‘Fry up‘ go iawn!
- Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?
Amser hamdden?? Dim llawer ar hyn o bryd, sy’n beth da. Torri’r lawntydd yn St Tewdrics, dw i a’r ‘sit on mower‘ yn ffrindie mawr. Gwarchod Alys a Jac a Macsi pan fydd Sa ‘nôl …. sydd yn reit amal. Dw i wedi cychwyn reidio’r beic ac awydd gwneud ‘mini triathlon’. Ac edrych ar ôl y defaid wrth gwrs.
- Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio?
Dim sioc fan yma – Ffermio a Cefn Gwlad. Dw i’n osgoi pob opera sebon a rhaglen realiti!
- Beth yw dy hoff lyfr(au)? Pwy yw dy hoff awdur(on)?
Dwi’m yn ddarllenwr mawr o gwbwl, i ddweud y gwir dwi’m yn mwynhau darllen. Ond, dros y blynyddoedd dwetha dw i wedi bod yn darllen i Alys, Jac a Macsi ac wedi cael lot o hwyl yn eistedd lawr gyda’r plant i ddarllen storïau fel The Wonky Donkey a Tidler.
- Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?
Yn hytrach nag un darn mawr o gerddoriaeth byddai’n well gen i gael ‘play list’ i wrando arni. Mae miwsig/cân arbennig yn bwerus ac yn medru cymryd fi ‘nôl yn gyflym at adegau ac atgofion penodol boed doniol, hapus neu drist. Felly caneuon yn ‘steil’ Motown, caneuon y 70au hwyr a’r 80au. Mae emynau Cymraeg yn mynd â fi nôl i gapel Bodfari ar fore dydd Sul gyda Dad, fy mrawd a’m chwaer. Diflasu’n llwyr am awr ond ‘nôl adre am ginio Dydd Sul Nain Drws Nesa. Do’n i ddim wedi sylweddoli tan nawr fod yr hen emynau yn ddwfn yn fy isymwybod. Agtgofion melys.
- Pe baet ti’n Brif Weinidog Cymru pa freuddwyd fyddet ti eisiau ei gwireddu gyntaf?
Deddf i wneud yn siwr bod enwau Cymraeg ar dai, ardaloedd, caeau ac ati yn cael eu cadw.
- Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?
Dewi Evans T1