1. Rho grynodeb i ni o’th gefndir a’th hanes.

Des i mewn i’r byd ‘ma yn ysblander ysbyty Glanaman. Adre wedyn, a chael magwraeth hyfryd pentre bach yn ymyl maes glo dwyrain Shir Gâr. Tra’n Foelgastell roedd Mam a  Dad yn ffermio, wel Mam gan fwya gan fo Dad yn gwitho dan ddaear ym mhwll glo Blaenhirwaun ger Drefach. 

Dyma fynychu ysgol fach Cefneithin. Ar waethaf y cyni oedd yn y wlad mae’r blynyddoedd rhain yn yr ysgol fach yn atgof euraidd imi. Ar unrhyw un adeg byddai snapshot o barc y Cefen yn dangos Carwyn James yn ymarfer ei gicio adlam pen draw tra nes atom byddai Barry, Clive ac Alan John a Dau Dai (David Davies gynt o Abertawe a’r Clwb Rygbi) hefyd yn cael hwyl ‘da’r bêl hirgron. Rygbi a mwy o rygbi oedd hi bryd hynny. 

Achos bo ‘da fi lais boy soprano deche, er gwell neu er gwaeth cawn fy llusgo bant o’r criw bob dydd Sadwrn i fynd i eisteddfodau mân a mawr. ‘Joiwch y gem bois … fi off i Steddfod Plwmp’. Gwelaf yn glir nawr y cariad a’r aberth ddangosai Mam i mi wrth ddreifio fi lawr i gymaint o bentrefi bach y wlad. Magu hyder oedd y prif bwrpas falle ac os ydw i’n onest ro’n i’n eitha mwynhau fe, ‘nenwedig os enillen i (ac fe nes i dros 60 o weithie). Ar y circuit bryd hynny roedd Lynwen ap Gwynedd, Elinor Jones, Llywela Williams a Dennis a Pat O’Neill. Llwyth o artistiaid y dyfodol gan gynnwys Emyr Wyn ddaeth i’r amlwg wrth i’m llais i dorri. (Pechod na ddaeth llais swynol yn ôl ata i fel gall Tenoriaid 2 dystio!)

Tipyn o ysgytwad wedyn oedd symud o’r Foel i ffarm fwy uwchben Troed y Frân ym Mae Caerfyrddin. Gwaetha’r modd rhaid oedd symud o’r Gwendraeth i ‘Gram’ Caerfyrddin. Seisnig braidd oedd Glanyfferi er taw Cymraeg oedd iaith y capel yno. Ar y pryd roedd mwy a mwy o bobl yn troi i sgwrsio yn yr iaith fain gan gynnwys aelodau’r tîm criced. Tîm criced nodedig iawn oherwydd traeth Glanyfferi oedd ein ‘maes’. Rhaid oedd trefnu gemau cartref ar ddydd Sadwrnau pan fyddai’r llanw mâs. Cofio haf ’63 pan ddaeth De Affrica draw a rhyfeddu at ddawn Graham Pollock, batiwr llaw chwith fel finne.

Y cyfnod nesa oedd astudio miwsig a Chymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyrraedd wythnos yn gynnar i gael mynd i pre-season y clwb pêl-droed. Pwy oedd yn cymryd y cwrs ond John Charles, y dyn ei hun, fy arwr. Ces gwmni J.C. am 5 diwrnod breintiedig.

Beth oedd yn tynnu’r gore mas ohonon ni’r myfyrwyr oedd yr eisteddfod ryng-golegol. Bob gwanwyn byddai cystadleuaeth frwd, ond glân, rhwng y pedwar coleg. Cofiaf Dave Carroll o Birmingham oedd yn gwneud B.Mus. gyda fi ac aeth ymlaen i chwarae gitâr flaen i’r Steve Gibbons Band, yn ein syfrdanu gyda’i chware gitâr clasurol. Gruff Miles yn canu ‘Yr Alarch’ gan Saint-Saens ar y cello a chof am Carol Jones a Pat O’Neill, dwy gantores o fri. Dau gyfaill imi wedyn yn canu’r ddeuawd enwog o’r Pearl Fishers. Y Ryng-golegol wnaeth esgor ar ‘Y Dyniadon Ynfyd Hirfelyn Tesog’. Dyddie difyr.

Blwyddyn o Ymarfer Dysgu a ‘na ni dyddie coleg ar ben. Un bore daeth llythyr yn dweud fod swydd imi mewn ysgol i ferched ym Mhenarth. Yn hwyrach yr un diwrnod daeth neges o’r Bîb yn cynnig swydd Rheolwr Stiwdio imi … ac o, y rhyddhad!

Ces ddeuddeng mlynedd hapus yn y BBC. Radio am rhyw 6 blynedd ac yna ces fentro i fyd teledu. Gwnes sawl rhifyn o Heddiw gydag Arwel Ellis Owen yn y gadair a Gwyn H J yn rhedeg y llawr. Shifft Chwaraeon Radio Cymru ar bnawn Sadwrn oedd y berl. John Tregaron yn cyflwyno o bum munud wedi 1 tan funud i 6. Neidio o un ffynhonnell i’r llall. Sbort!

Rwy’n hynod falch bo fi yno reit ar ddechrau S4C. Fel Cyfarwyddwr Cyflwyno fi oedd yn rhedeg yr amserlen ddyddiol law yn llaw â’r cyflwynwyr fel yr annwyl ddiweddar Robin Jones a’r fytholwyrdd Sian Thomas.

Daeth Pens wedyn draw i fod yn Big Chief ar yr Adran Gyflwyno. Dyddie da a hwyliog.

  1. Beth yw dy atgof cynharaf?

Bod yn dost yn y gwely yn bedair oed a chlywed y cynnwrf wrth i’r llwythi gwair fynd a dod o’r caeau i’r ydlan.

  1. Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Caethwas i golff.

  1. Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?

Yng Nghymru dwedwn i taw Eryri. Mae’n ddrwg gen i gydnabod fod yr ychydig egni oedd gen i yn fy nghoesau i gyrraedd y copaon wedi pylu. Fydden i ddim lot o gop i hebrwng Eleri a Catrin i’r llethrau hawdd hyd yn oed nawr rwy’n ofni.

Yn y byd? Y Sports Bar yn Holetown, Barbados lle mae’r daquiris mor hyfryd.

  1. Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?

Dewis ‘maniana’ yn lle ymgiprys â phroblem. ‘Wnaiff yfory y tro.

  1. Beth sydd yn dy wylltio ?

Gwleidyddion asgell dde America. 

  1. Beth am rannu rhywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?

Ers 1992 mae gen i rywfaint o dir yn Llanfleiddan, rhyw 25 acer. Dw i wedi bod yn magu da tew a cheffylau main. Ar un adeg roedd 3 caseg fagu gen i. Wrth lwc ac yn arbennig dros fisoedd y gaeaf roedd fy nyled yn fawr i Leah, merch leol oedd yn help mawr imi a finne’n gweithio oriau hir yn S4C. Dau geffyl sy’n pori yno nawr dan ofal Rhiannon fy merch a’r wyresau.

  1. Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?

Y Great White Shark – Greg Norman y golffiwr. Rhif un yn y byd am 331 o wythnosau. Fe gafodd fy mhartner golff annwyl Peter Walker wahoddiad i agor cwrs newydd ar stâd Rolls Royce gynt o’r enw The Rolls of Monmouth. Yn chware gyda Peter byddai capten y clwb a chapten y menywod, a Greg Norman ei hun. Ces y fraint o gerdded rownd yn ei gwmni. Ar gwrs oedd yn dal i fod ychydig yn amaethyddol ond â’r potensial i fod yn heriol dros ben dros 9 twll dethol, cymrodd Norman ond 29 o ergydion – 7 yn well na’r safon. Does ryfedd taw fe oedd wedi ennill yr Open yn Turnberry y diwrnod cynt.

  1. Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?

Bwco bord wrth y ffenest fawr yn y Pentr, Llangrannog. Sewin o’r Teifi i ddechre; eidion o Shir Gâr wedyn a chrymbl afal a mwyar (yn eu tymor) i gwpla.

Potel neu dair o’r gwin gore. Fel dwedodd Wynford Vaughan Thomas wrtho’i un tro ‘some wines push us apart but Rioja brings us together’.

A’r cwmni rownd y ford ddychmygol:  Eirwyn Pontsian, Dai Jones Llanilar, Gruff Miles o’r Dyniadon a Dewi Pws.

10. Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?

Taro draw i weld Eleri a Catrin a Rhiannon sha Roath Park, cael rownd o golff ar fore dydd Mawrth ond rhaid nawr roi blaenoriaeth i ofalu am fy annwyl bartner Sandra.

  1. Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio?

Chwaraeon gan fwya ac ambell raglen gerddoriaeth a who done it

  1. Beth yw dy hoff lyfr(au)? Pwy yw dy hoff awdur(on)?

Birdsong gan Sebastien Faulks.  Ken Follett

  1. Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?

Mae’n chwaeth miwsig i yn un eclectic iawn. Byddai’n agos iawn rhwng Crossroads gan Eric Clapton a John Meier neu, a falle’n ennill y dydd, CMT yn canu Anthem o Chess.

  1. Pe baet ti’n Brif Weinidog Cymru pa freuddwyd fyddet ti eisiau ei gwireddu gyntaf?

Sicrhau fod ein hysbytai yn cael cyfle i ddala lan.

  1. Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?

Alun Thomas  (T2).