Rho grynodeb i ni o’th gefndir a’th hanes

Brodor o Frynhoffnant ydw i, pentre ar yr A487 yng Ngheredigion tua 7 milltir o dref Aberteifi ac ar yr arfordir rhwng Cei Newydd ac Aberteifi. Lawr yr hewl roedd pentre cyfarwydd Llangrannog lle treulies i lawer o’m plentyndod.

Plismon yn Aberteifi wedd fy nhad (yn wreiddiol o Aberpennar) a’i ardal yn ymestyn cyn belled â Synod Inn. Roedd fy mam o Gribyn ger Llambed lle roedd fy nhadcu yn berchen ar ffatri wlân gyda siopau yn Llambed a Thregaron ar ddiwrnodau marchnad. Roedd fy chwaer Delyth sy ddwy flynedd yn iau na fi, yn athrawes i ddechrau yn Ysgol Gymraeg Ynys Wen Treorci, a daeth yn brifathrawes ar Ysgol Pontsian ger Llandysul yn ddiweddarach.

Roedd gorsaf yr heddlu ym Mrynhoffnant gyferbyn â Chapel Annibynwyr Brynmoriah a thrwy hynny fe ddaeth yn ail gartref bron i ni, mam yn athrawes Ysgol Sul a minnau a Delyth yn gorfod mynychu pob gwasanaeth, Ysgol Sul, cymanfa ganu, cymanfa bwnc ac unrhyw achlysur arall fyddai’n codi. Owena Owen (mam Gwawr) wedd yr athrawes biano ac yn rhoi gwersi i fi a Delyth.

Yn y dyddiau cynnar ro’n i’n mynychu Ysgol Gynradd Penmorfa a oedd ar y ffordd i draeth Penbryn.  Ar ôl pasio’r 11+ ymlaen â fi wedyn i Ysgol Ramadeg Aberteifi.

Gyda fy wŷr Jac tu fas i fy hen ysgol yn Aberteifi.

Pan o’n i’n bedair ar ddeg oed ac yn fy nhrydedd flwyddyn cafodd fy nhad ei drosglwyddo i Lanbedr Pont Steffan a ninnau fel teulu yn ymgartrefu ym mhentre gwledig Drefach Llanwennog, ardal wahanol iawn i’r arfordir roeddwn i mor gyfarwydd a hoff ohoni.  Cefais hi’n anodd iawn i setlo yn ysgol Llambed, gweld eisie’n fawr fy ffrindiau cynnar nôl yn ardal Brynhoffnant, Llangrannog ac Aberteifi.

Ar ôl lefel ‘A’ gadawes i’r ysgol ac ymuno â Banc Midland (bellach HSBC) yn Corn Street, Bryste, a dyna ddechrau ar yrfa ddilynes i hyd weddill fy oes. Ces i ddwy flynedd hapus ym Mryste a dysgu’r ffordd galed am y byd bancio.  Chwaraeais i rygbi a chriced i glwb Clifton lle roedd pawb ar y pwyllgor bron yn filiwnydd!  Roedd rheolwr y banc yn Gymro o Abertawe – Richard Bevan – a thrwy ei ddiddordeb mawr yn rygbi Cymru a chriced Morgannwg, fe ddaethon ni yn dipyn o ffrindiau a finne efallai’n bach o ffefryn!

Yn annisgwyl ces fy nhrosglwyddo i Lunden lle cefais brofiadau gwerthfawr ac addysgiadol pellach.  Roedd Llunden yn heriol, gweithio mewn canghennau fel New Bond Street a’r Kings Road. Treulies i rai misoedd hefyd yn maes awyr Heathrow ar ddesg cyfnewid arian tramor.  Yn y dyddie hynny roedd Clwb Rygbi Cymry Llunden gyda’r gore yn Ewrop gyda chewri’r genedl yn eu mysg.

Roedd hi’n fraint cael bod ar staff cangen y Kings Road, gyda chlwb pêl-droed Chelsea yn un o’r prif gwsmeriaid.  Oherwydd hynny bydde chwaraewyr adnabyddus y cyfnod yn mynychu’r banc yn rheolaidd, Peter Osgood, Peter Bonetti, Ron ‘Chopper’ Harris, Charlie Cooke, Eddie McCreadie, Ian Hutchinson, John Hollins ond i enwi rhai.  Roedd gan y banc dîm rygbi hefyd a bues i’n aelod o’r tîm yn ystod fy nghyfnod yn Llunden.

Roedd Emrys Evans ar staff y brif swyddfa yn Poultry yn y Ddinas ar y pryd a chafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr dros Gymru.  Yn sgil hynny penderfynodd drosglwyddo llawer ohonon ni nôl i Gymru.  Yn rhyfedd iawn y gangen weithies i ynddi ar y dechre wedd yr un yn y Dociau (y Bae nawr). Feddylies i erioed y byddwn i’n byw rownd y gornel yn ‘Ocean Buildings’ rhyw hanner can mlynedd yn ddiweddarach!

Ar ôl cyfnod yn y brif ddinas daeth galwadau o gyfeiriad y Gorllewin, a threulies i gyfnode mewn canghennau yn Llanelli, Caerfyrddin ac yna Aberystwyth. Roedd cangen lwyddiannus yn Aber a’r staff yn gyfeillgar. Bues i’n lletya yn y dre am ddwy flynedd cyn priodi Wendy a oedd yn athrawes mathamateg yn Ysgol Greenhill, Dinbych y Pysgod.  Cafodd hi swydd debyg yn Ysgol Penglais Aberystwyth ac fe ymgartrefon ni ym mhentre bach Llanilar, ein cartref cynta cyn symud i’r Wenallt, Felin Y Môr yn Aberystwyth.

Yn Llanilar ganwyd Catrin Angharad (ffrind agos i’n cyfeilyddes Lowri) ac wedyn Cari Fflur yn Aberystwyth.  Rhoddodd y ddwy bleser a hapusrwydd mawr i Wendy a minnau yn academaidd, yn gerddorol ac ym myd y campau. O lwyfan eisteddfod i byllau nofio a thraciau athletau ein braint wedd eu cefnogi ac ymfalchïo yn eu llwyddiant – y ddwy wedi cynrhychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad. Erbyn hyn mae Catrin yn bartner gyda chwmni cyfreithwyr RPC ym Mryste ac mae Cari Fflur yn gyfarwyddwr cyllid yn y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant ac yn atebol i’r Trysorlys.

Roedd y clwb rygbi yn chware rhan flaenllaw yn fy mywyd yn Aber, fel chwaraewr i ddechrau, yna fel rhan o’r tîm hyfforddi, aelod o’r pwyllgor, trysorydd ac ymddiriedolwr. Mae sawl chwaraewr dawnus wedi perthyn i’r clwb gan gynnwys dau o gymeriadau poblogaidd CMT: bu Elgano yn gapten ar y clwb a chwaraewr medrus arall o ardal Beulah oedd Edryd a chwaraeodd rai gemau.

Bues i’n hyfforddwr/ddewiswr, cadeirydd a llywydd Rygbi Ceredigion ac rwy’n ymfalchïo’n fawr wrth gofio pan enillon ni Bencampwriaeth Y Siroedd yn 1995 dan arweiniad y bachwr tanbaid Kevin Phillips. Tipyn o gamp i sir fach yn erbyn cewri’r siroedd mwy.  Roedd Rygbi Rhanbarthol (Provinces Rugby) yn bodoli o fewn banciau’r stryd fawr ac yn fy nghyfnod yn y banc roedd tîm arbennig gan Ranbarth De Cymru o fanc Midland.  Roedd chwaraewyr fel David Watkins, Barry John, Dick Uzzell, Mike Griffiths, Mervyn John, Jackie Hurrell yn gweithio i Forward Trust, cwmni cyllid wedd yn is-gwmni i Fanc Midland.  Braint wedd cael chwarae i’r tîm am rai blynydde, cyrraedd y ffeinal yn Roehampton fwy nag unwaith ac ennill ar un achlysur.  Siom fawr ar un achlysur wedd colli i Barclays – David Duckham yn sgorio cais reit ar y diwedd i ennill y gêm iddynt. Trist i feddwl bod llawer o’r chwaraewyr yna ddim gyda ni bellach.

Ar ôl deunaw o flynyddoedd gyda Banc Midland penderfynes i ymddiswyddo a gadael. Penderfyniad anodd ac yn sicr yn erbyn cyngor fy nhad a Wendy! Sefydles i gwmni gwasanaethau bancio ac ariannol/cyllidol o’r enw Gofalaeth Asedau Sterling Asset Management ac agor swyddfa fechan yn Aberystwyth.  Cyfnod cyffrous, heriol a nerfus hefyd o gofio’r swydd a’r yrfa we’n i wedi ei gadael.  Wedd rhaid llwyddo felly gweithio ddydd a nos ac mewn amser, gyda llawer o gefnogaeth gan gyn gydweithwyr a phobl ariannog ardal Ceredigion, tyfodd y cwmni. Galluogodd hyn ni wedyn i symud i swyddfa lawer mwy moethus yng nghanol y dre.

Agorwyd swyddfeydd ychwanegol yn y blynydde canlynol ym Mhorthmadog, Y Trallwng, Caerfyrddin, Llanelli a Chaerdydd. Erbyn hyn roedd Sterling yn cael ei adnabod fel un o’r IFA’s mwya llwyddiannus yng Nghymru ac yn ennill llawer o wobrau yn gyson o fewn y byd ariannol. Bues i’n cyfrannu ar raglenni radio a theledu, trafod y byd ariannol gyda Gwilym Owen, Hywel Gwynfryn, Ruth Parry, Carys Wheelan, Sulwyn Thomas ac eraill.  Hefyd ar Wedi 3 gyda Angharad Mair, Elinor Jones a John Hardy.  Rwy’n hynod o ddiolchgar i Radio Cymru, BBC a Tinopolis am y cyfle – fe wnes i fwynhau’r profiad yn fawr.  

Gyda thristwch mawr yn y cyfnod yma mi gollais i Wendy, ar ôl iddi frwydro’n ddewr yn erbyn cancr.  Roedd yn ergyd drom, a hithe wedi bod yn gymaint o gefen i fi. Cymeriad cryf, clyfar a chariadus.

Tra yn Aber bues i’n gadeirydd Y Clwb Busnes am dair blynedd, ymddiriedolwr ar Eglwys Seion, Stryd Y Popty (dal i fod), cyfarwyddwr cynnar ar Radio Ceredigion, un o sefydlwyr papur bro Y Ddolen (ardal Llanilar), cadeirydd ac ysgrifennydd clwb Cylch Cinio, cyfarwyddwr HAHAV, llywodraethwr Ysgol Gymraeg Aberystwyth, cadeirydd Ysgol Rygbi Carwyn James yn Llanelli a Rovigo, ysgrifennydd clwb cyn-chwaraewyr Aber a chyfarwyddwr Elusen Phil Bennett Foundation. Roedd côr meibion yn perthyn i’r clwb rygbi o dan arweiniad Glan Davies (gynt o Brynaman) a bûm yn aelod o’r côr hwnnw – Côr Y Gleision Duon.

Bûm hefyd yn aelod o’r SSS (South of Synod Society) cymdeithas freintiedig i bobl Aber a’r ardal wedd wedi cael eu geni a’u magu i’r de o Synod Inn! Roedd y gymdeithas yn cael ei rhedeg gan gymeriadau fel David Griffiths, cyfreithwr wedd yn enedigol o Rydlewis.  Dai School House fel y byddwn yn ei adnabod, wedd ei dad yn gyn-brifathro ar Ysgol Rhydlewis.

Gwerthes i’r cwmni yn 2019, cyn Covid, ar ôl 35 mlynedd gyda’r bwriad o dreulio mwy o amser gyda fy nheulu ac i dargedu diddordebau eraill nad oedd yn bosib cynt.  Un o’r rheini wedd yr uchelgais i ganu mewn côr meibion, a dyma fy mreuddwyd yn cael ei gwireddu – rwy’n aelod bellach o CMT ers 2 flynedd ac yn mwynhau’n fawr.

Beth yw dy atgof cynharaf?

Mynd i Cwmtydu gyda fy nhad i weld morloi ar y traeth.

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Holes i’r cwestiwn yma i Ceri, fy nghynorthwy-ydd personol (PA) am yn agos i 25 mlynedd gan y bydde hi mewn lle perffaith i ateb. Dyma’i hateb: teimladwy, gonest a hael.  

Mae’n llawer rhy garedig! Bydden i’n ychwanegu diamynedd ac uchelgeisiol (nôl yn y dydd).

Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?

Pentref Llangrannog, cymaint o atgofion hyfryd am y lle a hefyd am ffrindiau bore oes.  

Mae traeth Penbryn hefyd yn dod â llawer o atgofion.

Gyda fy ffrindiau o ardal Aberteifi – Peter Manning a Brynmor Williams.

Traeth Tanybwlch ar noson glir yn edrych lawr tuag at waelod yr hen sir.

Beth yw dy hoff le yn y byd?

Mae llawer ohonynt yn Ne Ffrainc – Nice, Marseille a Cassis.

Hout Bay i’r de o Cape Town, gan fod ‘na debygrwydd i Langrannog.

Cape of Good Hope, De Affrica

Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?

Gwell peidio dechrau – gormod i’w rhestru!

Beth sydd yn dy wylltio?

  1. Pobl anghwrtais.
  2. Gwleidyddion ag egos ond yn brin o allu.
  3. Undeb Rygbi Cymru.

Beth am rannu rhywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?

Cyfarfod â Syr Paul McCartney mewn cinio yn Lords ym Medi 2005.  Yr achlusur wedd cinio ‘Botham’s Ashes’ yn ystod cyfres y Lludw pan enillodd Lloegr. Roeddwn wedi derbyn gwahoddiad gan gwmni o stocfroceriaid a Syr Paul wedd y gwestai ar y bwrdd. Ar ddiwedd y noson cefais gyfle pan wedd pawb yn symud o amgylch i siarad â fe. Dwedais wrtho mod i’n hoffi’n fawr ei gryno-ddisg ‘Run Devil Run’. Gofynnodd pa un oedd fy hoff gân? Minnau’n ateb ‘No other baby’. Yn rhyfeddol dwedodd bod honno yn ffefryn gyda fe hefyd.  Gofynnodd i mi ganu’r gân a diolch i’r gwin coch mi nes i lwyddo!

Doeddwn i ddim wedi sylweddoli ar y pryd mai cân oedd hi er cof am ei wraig Lynda a fu farw yn 1998.

Buodd lot o chwerthin a gwawdio o amgylch y bwrdd! Roedd Syr Paul yn gwmni da ac yn hoff iawn ohonon ni’r Cymry. Hwn hefyd oedd ymddangosiad cyhoeddus dwetha George Best. Daeth draw at Syr Paul i weud helo.  Bu farw rai misoedd yn ddiweddarach.

Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?

Yr Archesgob Ddiwinydd Desmond Tutu, yn Cape Town adeg Cwpan Rygbi’r Byd yn 1995.

Roeddem ar ymweliad â’r Eglwys Gadeiriol ar brynhawn gwlyb yn Cape Town a chawsom ein rhyfeddu bod yr Archesgob yn digwydd bod yn bresennol ond ar fin gadael.

Mi ddaeth draw atom a chymeryd diddordeb mawr a holi ein hanes yn ddiddiwedd.  Yna fe’n gwahoddodd e ni i’r cymun am saith y bore wedyn, a chyhoeddi ar ddechrau’r gwasanaeth, ‘a special welcome to my friends from Wales’ a gofyn i ni ddod ac eistedd yn y ffrynt.  Gwahoddiad wedyn i gael brecwast gyda fe ym mwyty’r festri lle treulion ni dros ddwy awr gyda fe dros ‘Fwrdd Y Brecwast Cynnar’.

Profiad bythgofiadwy.

Llyfr yn rhodd gyda’r neges hyfryd

Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?

Unrhyw fwyd y môr – dim angen unrhyw beth arall.

Neb llai na’n dwy ferch Catrin a Cari Fflur gan obeithio y bydden nhw’n talu! 

Yn y gorffennol byddwn i wedi hoffi’n fawr dreulio noson gyda phryd o fwyd yng nghwmni John Arlott, Richie Benaud, Henry Blofeld a E.W. ‘Jim’ Swanton. Byddai John Cleese hefyd yn gwmni da.

Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?

  • Bod gyda’r wyrion (3 ohonynt). Dyw Jac yr hynaf ddim yn treulio llawer o amser yn hamddena, mae’n ddwl am chwaraeon, felly mae’n amser hynod o braf a phrysur.
  • Cerdded – mwynhau’r olygfa o’r Bae dros y morglawdd at gyfeiriad Penarth.
  • Gwylio criced yng nghwmni cefnogwyr fel Huw Eic a gwrando ar y straeon.
  • Garddio er yn dipyn o sialens lle mae fy nhŷ yn Felin Y Mor, bob amser yn brwydro yn erbyn gwyntoedd y de-orllewin.
  • Teithio i lefydd diddorol

Ar un o’m teithiau, ar draeth Copacabana yn Rio gyda llyfr Tudur Dylan – Adenydd – sy’n cyfeirio at ‘Y ferch ar y cei yn Rio’.

Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio?

Yn sicr chwaraeon, yn bennaf rygbi a chriced, rhaglenni byd natur ac i fod yn hollol boring rhaglenni yn ymwneud â’r byd ariannol a gwleidyddiaeth!

Beth yw dy hoff lyfr(au)? Pwy yw dy hoff awdur(on)?

  • Tryweryn: A New Dawn? Dr Wyn Thomas. Llyfr yn seiliedig ar un o’r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes gwleidyddiaeth Cymru.
  • Pity the Swagman – Bethan Phillips. Mae’n stori rhyfeddol a theimladwy, anodd ei chymharu na’i dychmygu.
  • David Hepworth – am ei ddawn ysgrifennu, mae e wedi ennill gwobrau di-ri dros y blynydde.  Mae ei lyfyr ‘Hope I get old before I die’ yn rhoi pleser.
  • Max Hastings am ei lyfrau hanes.
  • Heb anghofio y dawnus Alun Wyn Bevan.

Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?

Rhyw gymysgedd o fiwsig fydde’n plesio yn amrywio rhwng y gwyllt a chlasuron y 60au.  Rwy’n hoffi’n fawr Ricky Nelson, Eddie Cochran, Buddy Holly a Johnny Tillotson.

Dw i wastad wedi dwli ar gorau meibion, erbyn hyn bydde rhaid dewis CMT!

Edward H, Plethyn/Linda Griffiths yn ffefrynnau mawr ac wrth gwrs bydde rhaid cael Dafydd Iwan.

Y record gynta gefais i ar ôl cael chwaraewr recordiau fel anrheg oedd Mario Lanza sings Caruso favourites, nid fy nhewis i ond fy nhad!

Pe baet ti’n Brif Weinidog Cymru pa freuddwyd fyddet ti eisiau ei gwireddu gyntaf?

Cael deddfau ar y canlynol:

  • Sefydlu Bwrdd Iechyd sy’n bwrpasol ac yn sicrhau gonestrwydd ym mhob bwrdd arall sy’n rheoli gan gynnwys y Senedd.
  • Ail agor y rheilffordd o Gaerfyddin i Aberystwyth.
  • Maes Awyr sy’n deilwng o brif-ddinas Cymru.

Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?

Gobeithio bod Peredur Powell yn barod i ddatgelu ei gyfrinachau.