- Rho grynodeb i ni o’th gefndir. Beth ddaeth â ti i’r ardal hon (dalgylch CMT)?
Mi ddes i’r byd ‘ma ar bach o hast, ac yn gynt o lawer na’r disgwyl, yn ysbyty Aberdâr ar Fedi’r 7fed 1944, yn frawd bach i Mair a Llinos a “cyw-melyn-ola’” i Myfanwy a Glannant Jones, gweinidog Saron Aberaman.
Wedi brwydr hir sefydlwyd Ysgol Gynradd Gymraeg yng Nghwmdâr, Aberdâr, ac yno ges fy addysg gynnar. Dyddiau hapus iawn dan brifathrawiaeth Idwal Rees. Yna ymlaen i Ysgol Ramadeg y Bechgyn (ie, bechgyn yn unig!) cyn dilyn ôl traed Mair fy chwaer i Goleg Hyfforddi’r Barri, a dyna dair blynedd byth-gofiadwy!
Wedi cyfnod byr fel athro ymunais â’r BBC yng Nghaerdydd a dyna lle bûm am 21 mlynedd gan ddod yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu yn yr adran ddrama. Daeth tro ar fyd a mentrais i’r byd annibynol gan ymuno â chwmni Teledu Opus cyn gorffen fy ngyrfa deledol fel cyfarwyddwr llawrydd, nôl yn rhyfedd ddigon yn y BBC gyda theulu Pobol y Cwm.
Bu canu a cherddoriaeth yn rhan annatod o’r daith: Gwyn a Charlie yn y coleg a Hob y Deri Dando, Côr Godre’r Garth, Parti’r Efail, a bellach drwy ddyfal berswâd yr unigryw Gary Sam dyma ymuno â Chôr Meibion Taf a dod yn rhan o draddodiad rhyfeddol canu corawl meibion Cymru.
2. Beth yw dy atgof cynharaf?
Twnelu tua’r cwt glo drwy eira mawr 1947 gyda’m chwiorydd.
3. Disgrifia dy hun mewn tri gair
Breuddwydiwr. Emosiynol. Gor-barablus.
4. Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?
Dyffryn Conwy a llynnoedd Crafnant a Geirionydd.
Bae Napoli gyda’r machlud a llais Caruso’n uno’r llecyn hwnnw â charte Mam a Gu ym Mhontygwaith lle clywes lais y tenor gynta’ ar y “wind-up” gramaffôn.
5. Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
Gormod i’w rhestru, ond yn bennaf gadael tan yfory beth ddylwn ei wneud heddiw!
6. Beth sydd wir yn dân ar dy groen di?
Bod yn hwyr a gyrrwyr sy’ byth yn arwyddo ar gylchdro.
7. Beth am rannu rhywbeth gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
Enilles gystadleuaeth y ‘gân bop’ yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Caerdydd yn 1965. Byr iawn fu’r yrfa, yn wir ‘Bwlch ni ddangosai lle bu’!
8. Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Yr Athro Joseph Clancy. Un hynaws o Efrog Newydd ddysgodd Gymraeg ac ef oedd cyfieithydd mwyaf blaenllaw llenyddiaeth Cymraeg (canol a modern) i’r Saesneg.
9. Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?
Beef Stifado, gwin coch a swn y gân ar sgwâr pentre ar ynys Creta yng nghwmni pawb rwy’n eu caru a phawb wnes i gam â nhw.
10. Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?
Ail-ddysgu caneuon Parti’r Efail, cerdded Gelert y ci sy’n bleser pur, ac ymdrechu arlunio mewn dyfrliw, o bryd i’w gilydd, er i’r awen bylu dipyn dros y cyfnod clo.
11. Yn ystod y cyfnod clo pa raglenni teledu wnest ti fwynhau eu gwylio?
Cynefin, Ty Gwerin o Bell, Ffwrnes Gerdd, The Repair Shop
12. Beth yw dy hoff lyfr? Pwy yw dy hoff awdur?
Y Digymar Iolo Morgannwg gan Geraint Jenkins; Mythos Stephen Fry, a ‘wy’n edrych mla’n at lyfr newydd y Dr Elin Jones
13. Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?
Adagio for Strings Samuel Barber am yr oriau dwys, a CD “Kneck and Kneck” Mark Knopfler a Chet Atkins imi allu o leia’ freuddwydio fod gen i unrhyw fath o ddawn ar y gitar!
14. Pan fydd y cyfnod ‘cofid’ drosodd beth wyt ti’n edrych ymlaen at ei wneud fwyaf?
Cwtsh go iawn ac ambell fordaith (bosib uno’r ddeubeth …)
15. Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?
John Llanboidy