
- Rho grynodeb i ni o’th gefndir a’th hanes.
Cefais fy ngeni dros y ffin yng Nghroesoswallt a threulio fy mlynyddoedd cynnar ar fferm ar ystâd Plas Trawscoed yng Nghegidfa ger y Trallwm lle roedd fy nhad yn rheolwr. Symud pan yn bedair oed i ardal Llansilin, pentre eto ar y ffin rhyw chwe milltir o Groesoswallt. Yno cefais fy addysg gynradd cyn symud ymlaen i ysgol uwchradd i fechgyn yng Nghroesoswallt. Digwyddodd hyn oherwydd roedd lleoliad fy nghartref dafliad carreg dros y ffin – gwlad wahanol a diffyg trafnidiaeth i’r ysgol Gymraeg agosaf yn Llanfyllin. Diolch byth, mae pethe wedi newid ‘chydig erbyn hyn. Ni chefais erioed wers Gymraeg yn y naill ysgol na’r llall. Ond gan fod fy nhad a’m mam yn dod o ardaloedd gwledig Cymreig – un yn hannu o sir Drefaldwyn a’r llall o sir Ddinbych – Cymraeg oedd iaith yr aelwyd a’r diwylliant Cymreig oedd sail eu bywydau. Mae fy niolch yn fawr iddynt. (Er gwybodaeth, mae’r ysbyty a’r ddwy ysgol wedi cau bellach ac nid o ganlyniad i unrhyw beth a wnes i – wir!)
Un o berfeddion sir Drefaldwyn oedd fy nhad – Cwm Nant Yr Eira – ardal gwbwl wledig ond eto’n ardal ddiwylliedig tu hwnt yn ei amser. Roedd ‘na gysylltiadau teuluol gyda’r bardd a’r canwr Richard Davies (sef Mynyddog).
Un o ferched Llansilin yw Mam a dathlodd ei phenblwydd yn 99 ym mis Gorffennaf. Mae ei gwreiddau yn ddwfn yn y ‘pethe’ a hithau yn perthyn i Nansi Richards a John Ceiriog Hughes hefyd. Felly dwi’m yn gwybod ble es i o’i le – methu chwarae’r delyn na barddoni!
Ar ôl gadael yr ysgol a threulio blwyddyn yng ngholeg amaethyddol Llysfasi penderfynais fynd i Goleg Amaethyddol Cymru yn Llanbadarn Fawr ac wedi cyfweliad llwyddiannus, ond cyn i’r flwyddyn academaidd gychwyn ym mis Medi, daeth swydd i fyny yn adran wyddonol ac ymghynghorol y Weinyddiaeth Amaeth yn Nhrawscoed, ger Aberystwyth (lle roedd eu pencadlys yng Nghymru ar y pryd), gyda fferm wyddonol gyfagos. Es amdani a bues yn ddigon ffodus i gael ei chynnig. Ar ôl cryn bendroni, penderfynais ei derbyn, am ychydig beth bynnag, gweld a fydde’n siwtio ac efallai y gallwn fynd i’r coleg rywbryd eto. Bues yn gweithio iddynt am 42 o flynyddoedd! Bu Aberystwyth yn gartref i mi am 45 mlynedd ac eithrio rhyw bum mlynedd o fyw yn Sir Fon ac yn gweithio ym Mangor gyda thîm oedd yn cynnal treialon ar ffermydd ar draws Gogledd Cymru.
Bu haf a hydref 1984 yn gyfnod prysur i Caroline, fy ngwraig, a minnau – priodi, symud i’r gogledd i fyw, gwerthu a phrynu tŷ, swyddi newydd i’r ddau ohonom ac, yn anffodus, colli ‘nhad yng nghyfraith yn 54 oed. Dim rhyfedd y bu daeargryn mwya’r 20fed ganrif ym Mhrydain a’u ganolbwynt yng ngogledd-orllewin Cymru yr hydref hwnnw a ninnau’n byw mewn tŷ capel ger Abergwyngregyn. Rwy’n cofio’r bore hwnnw fel ddoe.
Penderfynais tra yn sir Fôn ymuno â Chôr Meibion y Traeth a mynd i’r ymarfer cyntaf yn llawn brwdfrydedd. Ces glyweliad gydag arweinydd y côr ar y pryd sef yr Athro Gwyn L Williams. Ar ddiwedd y clyweliad dywedodd mai tenor oeddwn, diolchodd i fi am ddod, ond bod digon o denoriaid gyda nhw eisoes! Fues i erioed yn denor na chyn nac ar ôl hynny! (Diolch byth nad oes gan CMT yr un canllawiau ar gyfer ymuno ……. eto!) Tra yn y gogledd ganed Aled, sydd bellach yn gyfarwyddwr y Cymru Football Foundation.
Crebachu a phreifateiddio fu hanes y gwasanaeth amaethyddol dros gyfnod o flynyddoedd a newidiodd cyfeiriad fy swydd sawl gwaith. Am tua ugain mlynedd bûm yn gweithio mewn partneriaeth â chwmnïoedd ar draws Prydain oedd yn cynhyrchu gwastraff diwydiannol oedd yn cynnwys maeth y gallai ffermwyr ei ddefnyddio ar eu tir. Nid oedd Aberystwyth yn frith o ddiwydiant, felly roedd rhaid teithio’n rheolaidd i’r ardaloedd diwydiannol hynny, y rhan fwyaf ohonynt yn Lloegr, er enghraifft, swydd Caint, swydd Efrog, swydd Gaerwrangon, Gwlad yr Haf, a swydd Gaer. Un o’r cytundebau mwya’r oeddwn yn gyfrifol amdano oedd gyda chwmni cynhyrchu ac ailgylchu papur o Ganada wedi ei leoli yn Ellesmere Port yng Nghilgwri. Ar ôl treialu gwasgaru’r ‘slwj papur’ ar dir dros sawl blwyddyn a mesur ei effaith a’i fuddiannau – yn bennaf fel ffynhonnell o galch, ffosfad a defnydd organig – bu’n arferiad am flynyddoedd i’w gynnig i ffermwyr fel gwrtaith. Rheolais y cytundeb hwnnw am dros 15 mlynedd gan ailgylchu tua 4 neu 5 miliwn tunnell o’r ‘slwj’ ar dir amaethyddol sir Gaer a gogledd Cymru. (Tebyg mai dyma’r rheswm pam fod tirwedd gogledd ddwyrain Cymru mor dwmpathog!)
Ar ôl symud yn ôl i Aberystwyth, fe anwyd Anna sydd nawr yn athrawes yn Ysgol Gymraeg Bro Allta. Ymunais â Chôr Cantre’r Gwaelod – parti gwerin a cherdd dant o dan arweiniad Bethan Bryn ac wedyn Eleri Roberts. Buom yn llwyddiannus yng ngystadleuaeth y Parti Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith – y tro cyntaf yn y Bala yn 1997 ac wedyn yn y Faenol yn 2005. Ond credaf mai ein gorchest fwya’ oedd dod yn ail allan o 14 o bartïon ym Meifod yn 2003.
Yn 1990 ymunais â Pharti’r Penrhyn – parti plygain o ardal Aberystwyth a Phenrhyncoch ac erbyn hyn credaf fy mod wedi mynychu a chyfrannu at rhwng pedwar a phum cant o blygeiniau ar draws Cymru o Landudoch i Lanelwy, o Faesteg i Lanrwst ac o Harlech i Waelod y Garth. Cofiaf wahoddiad i blygain cynta’ Gwaelod y Garth. Yn anarferol i fynychwyr plygain sydd yn dod ‘fel yr wyt’, roeddem wedi gwisgo siwt a hynny ar noson aeafol a’r capel wedi’i oleuo gan ganhwyllau yn unig – syniad da ac effeithiol dros ben ond yn hunlle i’r rhai oedd yn canu. Roedd hi mor dywyll yno, roedd yn rhaid i bob cantor ddal ei gannwyll ei hun yn agos ato er mwyn cael unrhywe obaith o weld ei gopi. Aeth y noson yn dda ond roedd y bil i lanhau’r siwtiau yn uchel iawn ar ôl yr holl gŵyr oedd wedi arllwys arnynt yn ystod y gwasanaeth!
Bron i ddwy flynedd yn ôl symudon ni o Aberystwyth i’n fflat ym Mhenarth, yn anad dim i warchod yr wyrion. Roedd teithio’n wythnosol wedi mynd yn dipyn o faich. Erbyn hyn mae pedwar ohonynt ac mae’n braf cael eu gweld yn aml yn tyfu a datblygu yn eu ffyrdd eu hunain.
2. Beth yw dy atgof cynharaf?
Fy atgof cynharaf yw ymfalchïo’n dair oed o gael reid o amgylch ffald y fferm yng Nghegidfa ar gefn yr unig fuwch Jersey dawel, Bessie, o blith buches o wartheg gwyllt Ayrshire. Tua’r un adeg cofio mynd i grwydro ar fy mhen fy hun mewn cae lle roedd y fuches Ayrshire yma yn pori a chael fy achub cyn iddynt ymosod arna i!
3. Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cymro; teyrngar; trylwyr
4. Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?
Pistyll Rhaeadr (yn ei lawn lif) – un o 7 rhyfeddod Cymru a Phrom Aberystwyth ar ddiwrnod braf o haf.

5. Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
Gadael pethau tan y funud ola’.
6. Beth sydd yn dy wylltio ?
‘Sdim lot heblaw am ddreifwyr diamynedd!
7. Beth am rannu rhywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
Tra’n gweithio i’r Weinyddiaeth Amaeth cawsom gytundeb gan Lywodraeth Cymru i fapio rhostiroedd ac ucheldiroedd Cymru. Gwaith desg yn dadansoddi awyrluniau oedd y rhan helaeth o’r gwaith ond roedd angen gwirio canran o’r gwaith cyn ei yrru at y Llywodraeth. Sut tybed? Roedd gan gyd-weithiwr i mi drwydded peilot a’r hawl i ddefnyddio awyren fach Cessna pedair sedd yn perthyn i Gymdeithas Chwaraeon y Gwasanaeth Sifil. Neidiais at y cyfle i ymuno ag e i wirio’r gwaith o’r awyr. Fe fu’r ddau ohonom yn hedfan am gyfnod o faes awyr Shobdon yn swydd Henffordd dros ran helaeth o Gymru ar ddiwrnodau braf a chlir, yn cadarnhau’r gwaith desg oedd eisioes wedi’i wneud. Roedd gweld rhannau helaeth o Gymru o bersbectif gwahanol iawn yn waith pleserus dros ben heblaw am ryw ddrafft cryf drybeilig a ddoi trwy’r drws nad oedd yn cau yn iawn! Cefais gyfle i’w glanio ar un achlysur hefyd. (Nid oedd ‘Elff na Seffti’ yn bodoli yr adeg honno!)
Roeddwn yn gwylio gêm brawf criced yn Mharc Hagley yn Christchurch, Seland Newydd yng nghwmni ffrind i Aled fy mab un tro. Ymunodd Scott Robertson, hyfforddwr y Crusaders a chyn hyfforddwr y Crysiau Duon, â ni a’m gwahodd i fynd gydag e y diwrnod canlynol i syrffio yn Pegasus Bay. Pe bai e’n gwybod am fy nghasineb at ddŵr y môr fydde fe fyth wedi gofyn i mi. Yn gwrtais iawn, gwrthodais y gwahoddiad, ond cafwyd pnawn pleserus yn ei gwmni.
Ar ryw fore Sul, oer a glawog, ar y ffordd arfordirol o Dunedin i Christchurch, crybwyllwyd gan ffrindie’ y dylem gael toriad ar y siwrne i weld y Moeraki Boulders – cerrig mawr crwn ar lan y môr. Penderfynu troi oddi ar y brif ffordd i mewn i bentre glan môr diarffordd Moeraki a sylwi’n syth ar enwau’r strydoedd – Haverford street, Tenby, Pembroke, Haven, David, Neath a Bute a pharcio ym mhen draw’r pentre. Bore Sul tawel – nid oedd neb o gwmpas a phenderfynwyd dilyn llwybr glan y môr i weld a allem ffeindio’r cerrig enwog yma. Tra’n cerdded ac edrych tua’r môr a heb weld dim o’r cerrig, sylwi ymhen ychydig wrth edrych y tu ôl i ni, fod morlo gwrywiadd enfawr yn torheulo o fewn llathen i ni. Roedd yn dechrau dihuno ac ymestyn ei gyhyrau. Sut ddiawl oeddwn am gyrraedd nôl at y car heb ei basio? Ymlwybrwyd mewn cyfeiriad gwahanol a llwyddwyd i gyrraedd y car. Dechreusom ddreifio ‘nol drwy’r pentre a daethom ar draws bachgen ifanc yn cerdded a phac ar ei gefn. Dyma stopio i ofyn ble roedd y cerrig enwog yma. Atebodd nad oedd yn gwybod am nad oedd o’r ardal. Sylweddolais fy mod yn adnabod yr acen a gofynnais o ble’r oedd yn dod – ai o Gymru? Atebodd ie, o Aberteifi. Roedd wedi rhannu fflat gyda ffrind ysgol i Aled! Byd bach a ninne’r Cymry yn cyrraedd bobman.

8. Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Un diwrnod tra’n gweithio tu allan i Gaer roeddwn wedi cychwyn yn gynnar o Aberystwyth. Tua chanol y bore penderfynais barcio mewn layby yn agos i Benarlâg gyda golygfa tua Chilgwri a Lerpwl. Roeddwn wedi parcio yn wynebu’r ffordd fawr a dim ond y fi oedd yno. Yn sydyn, daeth dau feic heddlu heibio ac yn dynn wrth eu sodlau roedd car mawr du. Cododd y person yn sêt ôl y car ei llaw arnaf a heb feddwl dim gwnes innau yr un peth yn ôl. Y wraig a’m cyfarchodd oedd y Frenhines a Phil wrth ei hymyl! Mae’n debyg iddynt aros dros nos gyda theulu Gladstone yng nghastell Penarlâg cyn mynd at eu dyletswyddau. Heblaw am fand Freddie Mercury dyna’r unig dro i mi weld y “Queen”.
9. Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?
Cinio dydd Sul – cig oen Cymreig, saws mint a’r trimmins i gyd yng nghwmni fy ngwraig wrth gwrs.
10. Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?
Yn fy amser hamdden mae Caroline a minnau yn edrych ar ôl y pedwar o wyrion sydd i gyd o dan 6. Mae’n cymryd diwrnod i ymbaratoi a diwrnod arall i ddadflino erbyn hyn! Rydym yn hoffi teithio cymaint â phosib tra bod amser ac iechyd yn caniatâu. Mae teulu gen i yn Seland Newydd a Charoline yn yr Unol Daleithiau ac rydym wedi ymweld â nhw ar sawl achlysur. Ond yn bennaf gwylio chwaraeon sy’n mynd â’m bri – yn fyw os yn bosib. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ennill trip i’r gemau Olympaidd ym Marcelona yn 1992 a mynychu gemau’r Gymanwlad yn Birmingham, gwylio pêl-fasged ym Madison Square Gardens a’r tenis yn Flushing Meadow. Ers y saithdegau mae’r ddau ohonom wedi mynychu gemau rygbi rhyngwladol Cymru yn rheolaidd a Chwpan y Byd yn Ffrainc yn 2023. Cwpanau Ryder yn y Belfry ac Iwerddon a’r ‘Open’ yn Hoylake a chymaint o gemau pêl-droed cartref Cymru â phosib. Heb anghofio gemau prawf criced Lloegr. Ac os yw amser yn caniatâu ar ôl ymarferion a dysgu geiriau CMT rwyf yn hoffi limriga.

11. Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio?
Rhaglenni chwaraeon.
12. Beth yw dy hoff lyfr(au)? Pwy yw dy hoff awdur(on)?
Llyfrau ffeithiol nid ffuglen. Bywgraffiadau yn benna’. Newydd orffen llyfr Grug Muse – Croesi – Cyfandir ar Ddwy Olwyn a chofiant Dafydd Elis Thomas fydd nesa’.
13. Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?
Messiah gan Handel
14. Pe baet ti’n Brif Weinidog Cymru pa freuddwyd fyddet ti eisiau ei gwireddu gyntaf?
Y bydde’r byd yn grwn heb falais ac yn ddi-drais.
15. Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?
Glyn Davies (T1)