- Rho grynodeb i ni o’th gefndir a’th hanes.
Ces fy ngeni yn ysbyty Heol y Prior, Caerfyrddin yn 1960. Roedd fy nhad yn hanu o Feidrim a fy mam yn dod o Ben-y-Bont, Trelech. Roedd fy rhieni yn dod o gefndir ffermio ond ymunodd fy nhad â’r banc a symudodd o gwmpas De Cymru gyda’i waith. Arweiniodd hynny ata i’n mynd i sawl ysgol gynradd. Yn 1972 roeddwn yn ffodus i ennill lle yn ysgol breswyl Coleg Llanymddyfri gyda’r nod o gael addysg uwchradd fwy sefydlog. Yn eironig ni symudodd fy rhieni o Rydaman o 1972 ymlaen! Rwy’n cofio darllen ar y pryd lyfr bach o’r enw ‘Un Diwrnod ym Mywyd Ivan Denisovich’. Stori yn disgrifio diwrnod carcharor mewn Gulag Sofietaidd ac yn meddwl bod fy mywyd yng Ngholeg Llanymddyfri yn debyg. Ond ar y cyfan mwynheuais fy amser yn Llanymddyfri, roedd digon o rygbi a chriced i’w chwarae ac rwy’n dal i gadw mewn cysylltiad â ffrindiau ysgol hyd heddiw. Un nodwedd arbennig dwi’n ei chofio oedd bod nifer o’r athrawon oedd yn fy nysgu i yn Gymry Cymraeg ond Saesneg oedd yr iaith yn y dosbarth. Roedd un athro arbennig yn dysgu Cymraeg i ni ac fe ffurfiodd e Gymdeithas Cymraeg fyddai’n cwrdd unwaith yr wythnos. Byddem yn mynd ar dripiau rygbi neu ymweliadau â’r theatr yn Cross Hands neu’n cynnal Noson Lawen yn y Coleg. Yn achlysurol byddai siaradwyr gwadd yn ymweld, pobl fel Dic Jones Yr Hendre. A’r athro a drefnodd yr holl weithgareddau hyn? Neb llai na fy nghyn-athro Cymraeg, Huw Llywelyn Davies.
Yn 1979 penderfynais ymuno â Banc y Midland. Dechreuais weithio yng Nghastellnedd cyn symud i Sgiwen, Pontardawe ac Ystalyfera. Ar yr un pryd dechreuais chwarae rygbi i dîm cyntaf Rhydaman ac ar yr un pryd gynrychioli Banc y Midland oedd yn golygu chwarae ar brynhawn dydd Mercher yn lle gweithio. Symudais wedyn i Bontypridd a gweithio hefyd yn Nhonypandy a’r Porth.
Yn 1983 penderfynais newid gyrfa a mynd yn athro Addysg Gorfforol. Cofrestrais ar y cwrs yn Athrofa Addysg Uwch De Morgannwg ar safle Cyncoed (Prifysgol Fetropolitan Caerdydd bellach). Yn 1986 graddiais ac yn 1987 gyda thystysgrif ôl-raddedig mewn addysg dechreuais ar fy ngyrfa fel athro. Hefyd yn yr haf 1987 priodais â Fiona ar ôl cyfarfod yn yr Athrofa yng Nghyncoed.
Fy swydd gyntaf oedd Hyfforddwr Criced ac athro Hanes yn Ysgol Rougemont yng Nghasnewydd. Yn 1990 fe’m penodwyd yn bennaeth Adran Addysg Gorfforol yn Ysgol Uwchradd Tregaron lle treuliais ddeng mlynedd hapus iawn. Yn ystod y cyfnod yma chwaraeais rygbi a chriced i Dregaron. Yn 2000 fe’m penodwyd yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Chwareon yng Ngholeg Llanymddyfri ac yn ddiweddarach deuthum yn Gyfarwyddwr Chwareon yno. Yn 2006 cymerais rôl Swyddog Lles Tramor gyda chyfrifoldeb dros fyfyrwyr tramor. Ar yr adeg hon, enillais gymhwyster a oedd yn caniatáu i mi ddysgu Saesneg fel iaith ychwanegol gyda’r syniad o weithio dramor.
Yn 2008 daeth y cyfle i weithio yn Sbaen. Penodwyd fy ngwraig yn brifathrawes Ysgol Brydeinig Alicante. Cefais fy mhenodi’n athro busnes yng Ngoleg Ryngwladol Xavia i fyny’r arfordir o Alicante. Y daith i’r gwaith bryd hynny oedd yr orau erioed! Tri chwarter awr ar hyd arfordir Môr y Canoldir ar draffordd dawel. Yna daeth cyfle i ddod yn Bennaeth Adran Busnes ac Economeg yn Alicante gan baratoi myfyrwyr Sbaeneg yn bennaf ar gyfer arholiadau Safon Uwch. (Daeth fy arholiadau banc yn ddefnyddiol o’r diwedd!) Ar yr adeg hon roeddwn hefyd yn gweithio ym Mhrifysgol Alicante gyda’r nos yn bennaf i ddysgu Saesneg i’r rhai a oedd yn dilyn gradd Meistr mewn busnes rhyngwladol.
Dechreuodd fy merch iau (Moriah) ym mlwyddyn 7 yn Ysgol Brydeinig Alicante a death yn rhugl yn gyflym gan fod ei ffrindiau i gyd yn Sbaenwyr, a Sbaeneg oedd yr iaith y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Yn y cyfamser roedd fy merch hynaf (Tariva) yn ei blwyddyn gyntaf ym mhrifysgol Caerwysg yn astudio ar gyfer gradd yn y gyfraith.
Heb amheuaeth roedd ein hamser yn Sbaen yn antur. Ond trodd pethau’n sur pan dorrodd lladron mewn i’n cartref ddwywaith o fewn dau fis. Roedd y fila roeddem yn byw ynddo ar y pryd i fyny yn y mynyddoedd uwchben Alicante ac ychydig yn anghysbell.
Dychwelon ni i Brydain yn 2012 a chwblhau ein gyrfaoedd ym myd addysg yn Ysgol Lincoln Minster. Cafodd fy wraig Fiona swydd fel prifathrawes yr ysgol baratoadol a chefais innau swydd fel pennaeth adran busnes ac econoneg. Heddiw mae Moriah yn feddyg iau yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-Bont ar Ogwr yn yr adran Damweiniau ac Achosion Brys ac mae Tariva yn gyfreithiwr masnachol i gwmni yn Birmingham ac mae ganddi ferch ddwy flwydd oed.
Yn 2020 fe wnaethom ddychwelyd i Gymru a phrynu tŷ yn Stryd Hamilton (Pontcanna). Tua diwedd y tymor rygbi yn 2021 es i weld Caerdydd yn chwarae’r Scarlets. Wrth i’r gic gyntaf agosau roedd yr eisteddle yn dechrau llenwi ond roedd dwy sedd wag wrth fy ymyl. A dyna pwy ddaeth i eistedd yn y seddi hynny oedd neb llai na fy nghyn-athro Cymraeg unwaith eto, Huw Llywelyn Davies a’i wraig Carol. Wrth i ni hel atgofion a sgwrsio yn ystod y gȇm, gofynnodd Huw a allwn i ganu. Dywedais fy mod yn hoffi canu ond nid oeddwn yn siŵr os oeddwn yn ddigon da i ymuno â chôr.
A dyna sut y cefais fy recriwtio. Byddaf yn ddiolchgar am byth i Huw am fy ngwahodd a’m cyflwyno i CMT.
- Beth yw dy atgof cynharaf?
Fy atgof cynharaf oedd eira mawr 1963. Pan agoron ni’r drws cefn dyna’r cyfan roeddwn i’n gallu ei weld oedd wal o eira. Ar y pryd roeddwn i’n meddwl bod y tŷ i gyd dan eira.
- Disgrifia dy hun mewn tri gair.
- Cymdeithasol
- Cydwybodol
- Amyneddgar
- Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?
Dyffryn Tywi, yn enwedig Dyffryn Tywi uchaf o amgylch Rhandirmwyn a Llyn Brianne. Rwyf wedi cerdded sawl tro o gwmpas yno dros y blynyddoedd. (Efallai mai dyna pam mae fy ‘ngliniau fel y maent!)
Y wlad rydw i wedi ymweld â hi fwyaf yw’r Eidal. Rwy’n mwynhau yn fawr y mynyddoedd, y llynnoedd a’r arfodir. Ond pe bai rhaid i mi ddewis fy ffefryn – ynys Sisili fydde’r lle, yn enwedig rhanbarth y de ddwyrain. Arhosais unwaith ar fferm a oedd yn tyfu olewydd – hudolus.
- Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
Dwi’n dueddol o adael pethe o gwmpas y lle – papurau, darnau o bapur, llythyrau, llyfrau, dillad, caneuon a phenillion dwi angen dysgu. A dwi’n credu mod i’n eitha taclus – ond ni fyddai fy ngwraig Fiona yn cytuno!
- Beth sydd yn dy wylltio?
Rwy’n hoffi amrywiaeth o gerddoriaeth a chaneuon ond mae dwy gân sy’n fy ngwylltio pan fyddaf yn eu clywed yn ystod gemau rygbi a phêl-droed. Mae un sy’n sôn am gerbyd melys yn siglo’n ishel. A’r llall yn cyfeirio at bêl-droed yn dod adref. (Gyda’r llaw, mae tystiolaeth ddiamheuol bod rhyw fath o bȇl-droed yn cael ei chwarae yn Tsieina yn y drydedd ganrif CC). Mae yna drydedd cân arall sydd ddim yn gwneud llawer o synnwyr i mi chwaith ond nid yw hynny’n fy ngwylltio cymaint oherwydd fy mod yn aml yn gallu diffodd y sain mewn pryd.
- Beth am rannu rhywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
Rhyw ugain mlynedd yn ôl ymddangosais mewn pedair rhaglen yn y gyfres ‘Y Brodyr Bach’ (gyda’r Brodyr Gregory) ar ôl clyweliad gyda John Pierce Jones mewn tafarn yng Ngaerfyrddin. Chwaraeais ran ditectif yn ceisio delio â sefyllfa gwystlon mewn fan byrgyrs yn Llandysul. Yna, rhan gwleidydd yn Theatr Felinfach yn ceisio cythruddo pobl ar ôl i Rhys ap William fy nghyfweld ar gyfer y newyddion. Chwaraeais ran lleidr car yn ceisio gwerthu car oedd wedi’i ddwyn yn Llanelli (roeddwn i’n ceisio gwerthu’r car i werthwr oedd ar ei ddiwrnod cyntaf yn y gwaith yn y garej). A theithiwr aeth yn sâl mewn awyren jet preifat. Llogwyd jet go iawn a wnaeth ychydig o acrobateg ond arhosais i yn ddiogel ar y ddaear. (Nid oedd y sgets mor llwyddiannus â hynny er gwaethaf y gost!)
Chwaraeais rannau bach iawn fel ‘ecstra’ ar Pobl Y Cwm tua hanner dwsin o weithiau gan ynganu tua dwsin o eiriau!
- Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Y person mwyaf nodedig dwi’n meddwl i mi gwrdd erioed (hyd yma) yw chwaraewr rygbi’r gynghrair Billy Boston. Ym mis Rhagfyr 1984 cefais y fraint o ysgwyd llaw a chael sgwrs gyda Billy Boston ar ôl i mi gynrychioli tîm rygbi’r gynghrair myfyrwyr Cymru yn erbyn myfyrwyr Lloegr yn stadiwm enwog ‘Central Park Wigan’.
Fore’r gêm yn erbyn myfyrwyr Lloegr aethom i faes lleol i gael ymarfer ysgafn. Dywedodd un o aelodau’r tîm a oedd yn wreiddiol o Wigan y byddai ffrind iddo yn ymuno â ni. Dyma grwt â gwallt golau, 17 oed a oedd newydd arwyddo’n broffesiynol gyda Wigan yn ymddangos. Rhoddodd y crwt ‘ma ychydig o awgrymiadau i ni a chyn bo hir rhoddodd sesiwn hyfforddi lawn i ni. Ei enw – Shaun Edwards! Tybed a roddodd hynny flas iddo ar hyfforddi tîm Cymru?
- Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?
Cregyn gleision wedi’u coginio mewn garlleg a gwin gwyn. Yna’r saig Eidalaidd Spaghetti alla Putanesca. Ac yna tiramisu i orffen . Hoffwn i fy nheulu a fy ffrindiau fod gyda mi ac wrth gwrs aelodau o CMT sydd bellach yn teimlo fel teulu ac yn ffrindiau. A’r lle delfrydol y byddwn i’n ei ddewis i gael y pryd hwn fyddai Bwyty Eidalaidd Elgano!
- Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?
Dwi’n mynd i nofio dri bore’r wythnos ym Mhenarth (pwll nofio canolfan hamdden – nid yn y môr). Rydw i yn fy ail flwyddyn o gwrs rhan amser yn astudio Eidaleg yn y brifysgol. Cyfeiriais yn gynharach at sut rwy’n ystyried fy hun yn daclus felly rwy’n treulio llawer o amser yn y sied yn potsian o gwmpas yn ceisio cael trefn. Pan dwi yn y sied mae Radio Cymru ymlaen a dwi’n gwrando ar Ifan Jones Evans yn y pnawn. Mae’n gyn-ddisgybl o Ysgol Tregaron a fi oedd ei diwtor dosbarth am gyfnod. Nid yw wedi newid llawer o gwbl! Prynodd fy ngwraig accordion i mi rai blynyddoedd yn ôl ac rwy’n ceisio dysgu fy hun ond heb lawer o lwyddiant. Mae angen i mi ddod o hyd i athro â digon o amynedd. Os oes unrhyw un yn gwybod am athro cerdd o’r fath gadewch i mi wybod! Hefyd dwi’n mwynhau gwylio Morgannwg yn chwarae criced draw yng Ngerddi Soffia a Chaerdydd yn chwarae rygbi ar Barc yr Arfau.
- Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio?
Codi Hwyl (John Pierce Jones a Dilwyn Morgan yn hwylio)
Rhaglenni Iolo Williams
Teithiau Rheilffordd fel ‘Great Railway Journeys’
Big Match Revisited (Gemau pel-droed y 70au)
Inspector Montalbano
- Beth yw dy hoff lyfr(au)? Pwy yw dy hoff awdur(on)?
Rwy’n mwynhau darllen bywgraffiadau a hunangofiannau. Yn ddiweddar darganfyddais nofelau ditectif John Alwyn Griffiths. Ac yn aml byddaf yn darllen dau neu dri llyfr gwahanol ar y tro a dyna pam ei bod yn cymryd cymaint o amser i mi gwblhau un llyfr. Rwy’n hoffi hefyd ysgrifau Andrea Camilleri sy’n enwog am ei gyfres Inspector Montalbano a leolir yn Sisili.
- Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?
Mae fy chwaeth mewn cerddoriaeth yn eang. Mae’n ymestyn o’r Blues a chwaraeir ar y piano i Chopin a phopeth sy’n disgyn rhyngddynt. Ond os oes un darn y byddwn i’n dewis gwrando arno ar ynys bellennig yna Ballade Rhif 1 yn G leiaf gan Chopin yw hwnnw. I mi mae’r gerddoriaeth yn llawn tristwch a hiraeth gan symud tuag at obaith yna felancoli, yr un emosiynau efallai y byddwn i’n eu profi pe bawn i’n cael fy ngadael ar ynys bell i ffwrdd. Y darn yw’r un sy’n cael ei chwarae yn y ffilm The Pianist sy’n seiliedig ar hunangofiant y pianydd Władysław Szpilman a oroesodd yr Holocost.
- Pe baet ti’n Brif Weinidog Cymru pa freuddwyd fyddet ti eisiau ei gwireddu gyntaf?
Dod ag adnoddau naturiol Cymru o dan reolaeth Cymru, dŵr er enghraifft. Yn ôl ffigyrau’r llynedd fe wnaeth cwmnïau dŵr Lloegr dalu £2.5m am 300 miliwn metr ciwbig o ddŵr. Mae 1000 litr mewn metr ciwbig, sy’n golygu llai na cheiniog am litr o ddŵr! Taswn i’n brif weinidog byddwn i’n dechrau’r trafodaethau ar £1 y litr. Refeniw posibl o £300 biliwn i’r coffrau.
- Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?
Dwi’n enwebu rhywun arall o Shîr Gâr dwi wedi bod yn ei gwmni droeon nawr gydag Elgano – un o’r Titws (T2) sef Ben ‘Mwni’ Davies.