- Un o ble wyt ti?
Mae’r cwestiwn ‘O ble rwyt ti’n dod?’ yn un anodd i mi ei ateb. Roedd fy nhad o’r Rhondda a mam o Benrhosgarnedd ac fe gyfarfu’r ddau tra roedd o’n cael ei addysgu ar yr HMS Conway ar y Fenai. Gan iddo ddod yn aelod o Heddlu Gogledd Cymru, cawsom ein symud o gwmpas fel oedd yr arfer. Roedd rhai ardaloedd yn Gymreigaidd iawn fel Llanuwchllyn a Tywyn ac eraill, fel Cei Connah yn dra gwahanol. O ganlyniad, mynychais wyth ysgol wahanol (3 cynradd a 5 uwchradd) yn cychwyn yn Ysgol Gynradd Llanuwchllyn ac yn diweddu yn Ysgol Friars, Bangor. Yno newidiais o chwarae pêl-droed i chwarae rygbi yn y 6ed dosbarth. Cefais gynnig ysgoloriaeth gan Gyngor Arfon i fynd i Goleg yr Iwerydd (Atlantic College) am y chweched ond teimlwn yn rhy ifanc yn 15 oed i symud i ffwrdd.
Union 50 mlynedd yn ôl, es i Goleg St Edmund Hall yn Rhydychen i ddarllen y gyfraith. Mwynheais fy amser yno yn cyfarfod pobl o wahanol gefndiroedd, heb anghofio fy mod yno i ddysgu gan fy mod wedi ennill ysgoloriaeth gan y coleg yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Mae’r coleg yn adnabyddus am chwaraeon ac fe gefais siawns i rwyfo yno yn ogystal â bod yn capten ar y tîm rygbi. Cyn mynd i’r coleg, cwrddais â Helen o Rhiwlas ac ar ôl i mi gwblhau rhan dau o’m gradd yng ngholeg y gyfraith yng Nghaer, fe briodom a symud i Lundain i fyw. Gwnes fy erthyglau gyda hen gwmni cyfreithiol ger Fleet Street, sef Withers, cwmni hanesyddol a sefydlwyd yng nghanol y 18fed ganrif. Gan fy mod yn troi i fyny yno ar fore Llun yn aml gyda llygad ddu neu waeth ar ôl y rygbi, roeddwn yn cael fy nghyfri yn ‘galed’ ac fe gefais rai tasgau gwahanol i’r cyw dwrneiod eraill. Ar un adeg cefais fy ngyrru i nôl tâl gan gleient, a heb yn wybod i mi ar y pryd, roeddwn wedi cludo bag yn llawn Krugerand (gwerth dros £60 mil) ar draws Llundain ar fy mhen fy hun!
Tra yn Llundain, ymunais â thim rygbi Wasps, lle’r oeddwn, mewn blwyddyn, yn un o dri bachwr yn y garfan gyntaf. Roedd yn brofiad hollol anhygoel cael bachu rhwng dau brop profiadol Lloegr sef Paul Rendall a Jeff Probyn a chael teithio ar draws Ewrop a Gogledd America gyda’r clwb. Yn 1986, tra’n dal i chwarae i Wasps, ymunais â chwmni B.P. Collins yn Gerrards Cross ac fe ddois yn bartner yno ar ôl blwyddyn. Arhosais gyda’r cwmni am 23 mlynedd nes i mi ymddeol. Roeddwn yn delio gydag eiddo masnachol ac yn cynrychioli “high net worth individuals”. Un o’r pethau diddorol o’r adeg yna oedd cynrhychioli ymddiriedolaeth oedd yn berchen ar ac yn gofalu am un o ynysoedd y Falklands – ond chefais i ddim siawns i fynd am ‘site visit’.
Gwerthais fy rhan yn y cwmni yn 2009 ac fe ddechreuais fy ymddeoliad. Un o uchafbwyntiau yr adeg yma oedd i Helen a minnau ddilyn y Llewod i Dde Affrica yn 2009, i Awstralia yn 2013 ac i Seland Newydd yn 2017.
Yn 2012, cafodd Helen gyfle i symud gyda’i swydd i Dde Cymru ac fe roddodd hyn y siawns i ni ddychwelyd i Gymru ac ymgartrefu yng Nghaerdydd.
2. Beth yw dy atgof cynharaf?
Sefyll wrth giat y tŷ yn Llanuwchllyn a gweld y plant yn mynd i’r ysgol. Meddwl fy mod yn colli allan ac felly eu dilyn ac ymuno yn y dosbarth. Cefais ganiatâd i aros ac felly dechreuais yr ysgol yn ddwy a hanner oed.
3. Disgrifia dy hun mewn tri gair
Trefnus, cyfeillgar a ffyddlon
4. Beth yw dy hoff le yng Nghymru?
Ceunant Aberglaslyn ger Beddgelert

A’th hoff le yn y byd?
Rhaeadr Iguazu o’r ddwy ochr – Brasil ac Ariannin. Fy hoff adeilad -Y Pantheon
5. Unrhyw arferion drwg?
Dim digon o le i’w rhestru yma!!
6. Beth sy’n dy wylltio?
Ysbwriel
7. Beth am rannu rhywbeth diddorol nad oes llawer o bobl yn ei wybod amdanat?
Dw i wedi gwneud naid parasiwt ar fy mhen fy hun ac yn amlwg wedi goroesi.
Fe wnes i ganu yng nghorws y Cwmni Opera Cenedlaethol pan yn blentyn 11 oed.
Mae gen i MGBGT yn dyddio o 1971.

8. Pwy yw’r person mwyaf nodedig i ti ei gwrdd / ei chwrdd?
Ferdinand ac Imelda Marcos pan ddaethant i ymweld â’u mab yn ein coleg.
9. Beth yw dy bryd o fwyd delfrydol?
Cregyn bylchog (scallops) i ddechra, yna cig carw di rhostio gyda’r trimings a cannoli fel pwdin. Potel o Barolo i’w olchi i lawr.
Ei rannu gydag Eddie Butler, Stephen Fry, Peter Ustinov a Stephen King (buaswn i yn cadw’n ddistaw a gadael iddynt wneud y siarad i gyd).
10. Sut wyt ti’n treulio dy amser hamdden?
Cerdded arfordir, bryniau a mynyddoedd Cymru; teithio’r byd; gwledda gyda ffrindiau; sinema; theatr; cyngherddau; darllen; garddio ac ymweld â lleoedd hanesyddol yn enwedig safleoedd Oes y Cerrig a’r Oes Efydd. Fy hoff rai yw Maes Howe yn Orkney, Callanish ar Ynys Lewis a Tre’r Ceiri ar ben Yr Eifl.
11. Hoff raglenni teledu?
Unrhyw raglen sy’n ymwneud â hanes. Rhaglenni ffuglen wyddonol a ffilmau arswyd.
12. Hoff lyfrau/awduron?
Cyfres C.J.Sanson am Matthew Shardlake. Unrhyw beth gan Stephen King. Hefyd rwyf yn hoff o lyfrau y Ffrancwr Emile Zola.
13. Hoff gerddoriaeth?
Gormod i ddewis ond y rhestr fer yw 9fed symffoni Beethoven, Carmen gan Bizet, y Misa Criolla gan Ariel Ramirez ac unrhyw beth gan Dire Straits a Billy Joel.
14. Pe baet yn brif weinidog be wnelet ti?
Uwchraddio’r ffordd o’r Gogledd i’r De a rhwydweithau’r wlad yn gyffredinol.
15. Pwy wyt ti’n ei enwebu i gwblhau’r holiadur nesaf?
Owain Evans o’r Titws