
- Rho grynodeb i ni o’th gefndir a’th hanes.
Crwt o Landysul. Y plentyn canol o dri. Non yw fy chwaer fawr a Gwion, (cyn-aelod o’r Côr) fy mrawd bach. Adeiladwr oedd Dad ac roedd Mam yn gweithio yn y Ganolfan Waith yn Llandysul. Chwarter Cardi ydw i mewn gwirionedd. Roedd teulu Dad o Lanboidy a theulu Tadcu ochr mam, o Bencader. Teulu fy mamgu yn unig oedd o ochr “iawn” afon Teifi. Un o Aber-banc oedd hi. Mamgu, neu Mrs Enoch, oedd prif gogyddes yr ysgol gynradd. Roedd pawb yn y pentre’n ei nabod hi felly roedd gofyn bihafio.
I’r Eglwys o’n i’n mynd fel plentyn (dan brotest fel arfer). Roedd Vera Lewis yn yr Ysgol Sul yn allweddol wrth osod y sylfeini cerddorol. Doedd dim llawer o fynd ar gorau yn yr ysgol gynradd ond daeth tro ar fyd yn yr ysgol uwchradd dan adain Islwyn Evans. Bûm yn aelod o Gôr Ieuenctid Ceredigion ac yn ddiweddarach yn rhan o ail godi corau Aelwyd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth ganol y nawdegau. Mae Dad yn dal i ganu gyda chôr Ar ôl Tri a bues innau’n aelod achlysurol o’r Côr Undebol. Daeth cyfle yn hwyrach i ail gydio yn y canu yng Nghordydd gyda protégé Islwyn a hen ffrind ysgol, y diweddar digymar, Sioned James.
Ar ôl ysgol gynradd ac uwchradd yn y pentre/tref (mae’n ddadl oesol) fe es i i Brifysgol Cymru Aberystwyth gan ennill gradd mewn Hanes. Heb wybod yn iawn beth i’w wneud nesa fe arhosais i yn Aber i ddechrau cwrs ôl-radd ond daeth cyfle i wneud swydd ran amser yn gweithio fel Trefnydd Plaid Cymru yng Ngheredigion a hynny yn ystod cyfnod cyffrous rhwng pleidlais “Ie” 1997 ac etholiad cynta’r Cynulliad Cenedlaethol. Fe aeth yr MA i’r gwellt wrth i’r swydd ran amser prysur droi’n un llawn amser.
Rhyw dair blynedd wedyn dyma benderfynu mentro i fyd newyddiaduraeth gan ennill ysgoloriaeth T Glynne Davies i ddilyn cwrs blwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn ystod haf 2002 fe ges i fy swydd gyntaf yn adran Newyddion BBC Cymru.
Ar ôl magu profiad “ar y ddesg” fe es i’n ohebydd “Patch”, i Gaerfyrddin gynta, cyn treulio cyfnod yn Abertawe ac yna dychwelyd i Gaerdydd. Straeon lleol yw’r bara menyn, materion cynllunio, effaith cynni ariannol ar wasanaethau, addysg a’r iaith Gymraeg ac yna ambell lofruddiaeth neu ddamwain fawr ac wrth gwrs achosion llys amrywiol. Dwi wedi cael y fraint o deithio’n helaeth gyda’r gwaith i lefydd mor amrywiol â Norwy, Barcelona, Brwsel a Sgiwen.
Mae’r chwyldro digidol a newidiadau yn arferion y gynulleidfa wedi cael effaith fawr ar y swydd. Erbyn hyn mae darparu erthyglau/cynnwys ar gyfer y we yn cael blaenoriaeth dros ddarlledu traddodiadol.
Fe gwrddais i â Bethan yng Nghlwb Ifor Bach yn 2001 (dyw hi ddim yn cofio i ni gwrdd yng Nglanllyn flynyddoedd ynghynt). Fe briodon ni yn 2007 ac fe gafodd Glain ei geni yn 2008, Mered yn 2009 a Myfi yn 2013. Ymhlith diddordebau eraill mae’r tri, fel eu rhieni, yn mwynhau canu mewn partïon a chorau.
- Beth yw dy atgof(ion) cynharaf?
Dwi’n cofio crwt o’r enw Richard Davies (nid y cyn-aelod o’r côr) yn dod i’r Ysgol Feithrin am y tro cynta ac yn sgrechen nerth enaid ei ben wrth i’w fam adael a finne ffaelu deall beth oedd yn bod arno gan fy mod i wrth fy modd yno.
Ar fy niwrnod cynta yn yr ysgol fach dwi’n cofio mynnu bod y tei fod cael ei wisgo tu fas y siwmper. Dwi dal yn eicon ffasiwn!
- Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cydwybodol, Hawddgar (80% o’r amser), cellweirus,
- Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?
Llangrannog, unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Hoffwn ddychwelyd i Sicily, lleoliad ein mis mêl, unwaith eto.
- Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
Colli pethau, allweddi rownd y flwyddyn a sbecs haul bob haf
Dwi’n rhy barod i ddweud fy marn
Gadael jobs ar eu hanner. Un tro fe ddechreuais i…
- Beth sydd yn dy wylltio ?
Biliwnyddion
- Beth am rannu rhywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
Ro’n i am fod yn actor ar un adeg. Fe ymddangosais i ar ambell raglen blant ar S4C. Dwi’n dal i ddisgwyl yr alwad o Hollywood.
- Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Cwrddais i â Gwynfor Evans ac Islwyn Ffowc Ellis pan yn gweithio i Blaid Cymru.
Drwy’r gwaith dwi wedi cael y cyfle i holi pob Prif Weinidog Cymreig. Roedd hi wastad yn sbort holi Dafydd Êl oherwydd roedd e’n gwybod beth i’w ddweud er mwyn hawlio sylw.
Mae Nigel Farage ymhlith y bobl mwyaf adnabyddus i fi eu cyfweld. Nid fy lle i yw dweud a yw’n berson nodedig ai peidio.
Fe ges i’r fraint o fod ar y bws di-do gyda thîm pêl-droed Abertawe ar ôl iddyn nhw ennill Cwpan y Gynghrair yn 2013. Ro’n i ysgwydd wrth ysgwydd gyda Michael Laudrup ac fe holais i Ben Davies (y pêl-droediwr nid yr ail denor) yn fyw ar Radio Cymru yng nghefn y bws.
Dwi wedi cyfweld ambell aelod o’r Côr yn eu tro hefyd – bob un ohonyn nhw yn bobl nodedig eithriadol.
- Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?

Byddwn i mewn gwlad dwym, yn bwyta tu fas wedi diwrnod yn nofio yn y mor, felly byddai chwant bwyd mawr arna’i ond byddai’n rhaid cael aperitif. Ricard byddai hwnnw.
Fel cwrs cyntaf bydden i am gael Sardines a rheiny wedi eu dal y bore hwnnw.
Dwi’n cofio cael Kleftiko Cig Oen blasus dros ben mewn bwyty bach digon di-nod ei olwg yn Corfu flynyddoedd yn ôl a hwnnw fyddai’r prif gwrs.
Tiramisu i bwdin, bob tro!
Dimond gwin o Ffrainc fyddai’n gwneud y tro gyda phryd delfrydol. Muscadet gyda’r pysgod ac yna gwin coch trwm St Emilion neu Côtes du Rhone gyda’r Kleftiko.
Yn gwmni i ni fel teulu byddai John Bwlchllan a Bob Mortimer, ill dau â’r ddawn i adrodd stori a diddanu. (Bydde Bob yn siarad Cymraeg yn y scenario ddychmygol hon.)
Ar ddiwedd y noson byddai’r côr yn bresennol ar gyfer “Sing off” rhwng Elfed Lewys ac Elgano.
- Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?
Dwi’n mwynhau hyfforddi tîm pêl-droed dan 15 y mab ond dwi ddim wastad yn mwynhau canlyniadau gemau.
Dwi wrth fy modd yn gwylio’r plant yn chwarae rygbi/pêl-droed/perfformio/canu. Maen nhw’n brysur iawn!
Cerdded y ci – amser myfyrio
Garddio – byddwn i wrth fy modd yn gallu tyfu llysiau fel oedd Dadcu Meidrim ‘slawer dydd a chael gardd llawn Chrysanthemums fel Mamgu Llandysul.
Coginio – dwi wrth fy modd yn coginio ond dyw’r plant ddim wastad yn gwerthfawrogi fy ymdrechion.
Dwi’n hoffi ymweld â mannau diddorol/hanesyddol a rhai mannau anniddorol.
- Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio?
Anaml dwi’n cael gafael ar y “remote” yn tŷ ni erbyn hyn felly dwi’n tueddu i wrando fwy ar bodlediadau. Dwi’n mwynhau miri Elis James a John Robbins a chyfweliadau James O’Brien gyda phobl nodedig. Ces i flas ar bodlediad Charlie Higson ar frenhinoedd a breninesau Lloegr mewn ymgais i geisio deall ein cymdogion dros Glawdd Offa yn well.
O ran teledu dwi wrth fy modd gyda rhaglenni comedi o bob math ac o bob cyfnod. Mae Father Ted, stwff Vic Reeves a Bob Mortimer, Morecambe and Wise ac unrhywbeth gyda’r cymeriad Alan Partridge ymhlith y ffefrynnau ac wrth gwrs clasuron fel Fawlty Towers.
- Beth yw dy hoff lyfr(au)? Pwy yw dy hoff awdur(on)?
Dwi’n fwy o foi cofiannau neu o lyfrau hanes nag o nofelau. Mae cofiant Byron Rogers o R.S Thomas yn wych a chofiant Idris Reynolds o Dic Jones yn yr un cae hefyd. Er yn tueddu at gofiannau dwi’n mwynhau gwaith Mihangel Morgan yn Gymraeg, dwi wedi ail ddarllen Dan Gadarn Goncrit yn ddiweddar am fod un o’r plant yn ei astudio. Fe ges i flas ar drioleg nofealu ditectif yr awdur o Aberystwyth Alun Davies hefyd.
- Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?
Cân agoriadol y cartŵn Sponge Bob Square Pants
- Pe baet ti’n Brif Weinidog Cymru pa freuddwyd fyddet ti eisiau ei gwireddu gyntaf?
Sefydlu cronfa ynni genedlaethol fyddai’n cyfateb i gronfa olew Norwy i sicrhau bod Cymru’n elwa o gynhyrchu trydan adnewyddadwy ac y byddai’r arian yn cael ei ail fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus yn hytrach na mynd i goffrau cwmnïau ynni mawr rhyngwladol.
15. Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?
Eric Dafydd