Mari a finnau ar ein gwyliau yn yr Alban 2009
  1. Rho grynodeb i ni o’th gefndir a’th hanes. 

 Fe’m ganed yn Ysbyty’r Priordy, Caerfyrddin ar ddiwedd Awst yn 1964. Roeddwn i fod i gyrraedd yn ystod ail wythnos Hydref. Am unwaith yn fy mywyd ‘roeddwn yn gynnar! Yn ôl yr hanes roedd fy rhieni, Eifion a Beca ar eu gwyliau yng Ngheinewydd ar y pryd a’m chwaer, Elin yno hefyd. 

Roedd fy nhad yn weinidog gyda’r Annibynwyr yng Nghapel Seion Drefach rhwng 1963 a dechrau 1967 a Mam yn ein magu ni’r plant. Cefais y fraint rhyw dri mis yn ôl i ddychwelyd i’r capel fel rhan o’r gynulleidfa yng nghwrdd sefydlu hen gyfaill i mi, sef y Parchedig Guto Llywelyn. Diwrnod difyr gyda mwy nag un aelod o’r côr yn bresennol. 

Dad – Y Parchedig Eifion Powell

Gadael Cymru fu hanes y teulu am gyfnod. Fe symudon ni o wyrddni Cwm Gwendraeth i strydoedd swbwrbaidd Harrow yn Llundain. Am newid syfrdanol! A minnau’n ddwy a hanner oed a heb yngan gair o’r iaith fain yn fy myw, yn sydyn roedd yno fyd newydd estron, lliwgar, prysur a swnllyd yn fy wynebu. 

Roedd fy rhieni yn bobl ddifyr, ac yn gymeriadau go wahanol ar un olwg. Roedd fy nhad yn frodor “O Gwmgors a Gwauncaegurwen”. Cafodd ei eni yng Nghwmgors, ar aelwyd ei famgu a byw wedyn yn Sgwâr Y Goelbren ar Y Waun am flynyddoedd. Pedwar tŷ i lawr o’r cartref roedd crwt  ifanc iawn yn dangos rhyw allu arbennig gyda phêl rygbi. “Eith y bachan na’n bell” medd Jac, fy nhadcu. Gwir fu’r geiriau hynny. Enw’r crwt oedd Gareth Edwards. 

Roedd cefndir Mam yn go wahanol. Merch fferm ydoedd o bentre’ Glan Yr Afon rhwng Corwen a’r Bala. Yn un o dri o blant, roedd hi’n weithgar ar y fferm a chafodd ei throchi yn niwylliant cefn gwlad gan fanteisio ar bob cyfle i dderbyn addysg am ein cenedl a’n hiaith.

 Yng Ngwanwyn 1972 fe symudon ni eto fel teulu, a’r tro hwn i dref Y Barri lle bu fy nhad yn gweinidogaethu ar Eglwysi Tabernacl a Bethesda. Dyna i chwi wahaniaeth syfrdanol! Roeddem wedi dychwelyd i Gymru, ac yn fy niniweidrwydd, ‘roeddwn yn disgwyl bod pob un o’r brodorion yn siarad iaith y nefoedd. Cefais fy narbwyllo yn go gloi nad y Gymraeg oedd Lingua Franca y parthau hyn. Eto, roedd yno nifer o gapeli Cymraeg yn y dre ynghyd â nifer o Gymry Cymraeg yn gweithio yn siopau Dan Evans ac mi gefais y fraint o fynychu Ysgol Gymraeg Sant Francis ar gyrion y dref. 

Tîm Ysgol 9 bob ochr Ysgol Sant Fransis Y Barri 1973
Peredur yw’r trydydd o’r chwith yn y rhes gefn.

Er i mi deimlo hiraeth am fy hen gyfeillion yn Llundain, yn fuan cefais fy nghroesawu i rengoedd disgyblion yr ysgol. Roeddwn wrth fy modd fod rygbi yn cael ei chwarae ar y maes ac roeddem oll bryd hynny eisiau efelychu mawrion y gêm yng Nghymru. Barry John oedd fy arwr pennaf ond fe ymddeolodd yn sydyn ar ddiwedd tymor rhyngwladol 1972. Serch hynny cefais y fraint o weld y dewin yn chwarae ei gêm olaf i dîm Urdd Gobaith Cymru yn erbyn XV Carwyn James. Mi gofiaf yr achlysur yn iawn, er nad oeddwn eto yn wyth mlwydd oed. Roedd lefelau sgiliau cynhenid y gem yn uchel iawn gydag unigolion yn symud i’r gofod yn reddfol gan ddal y bêl ar garlam cyn ochr gamu a dosbarthu pas berffaith i’r person nesaf. 

Ym mis Medi 1974 fe symudom fel teulu eto a’r tro hwn i Wrecsam. Mewn llawer ffordd roedd y gwahaniaeth rhwng Wrecsam a’r Barri yn llai amlwg na’r gwahaniaeth rhwng y Barri a Llundain. Roedd aelodau’r capel, Ebeneser, yn groesawgar a brwd ac roeddwn wedi hen arfer ag acen a geirfa rhannau o’r gogledd yn barod wrth wrando ar fy mam. Mewn un ystyr serch hynny, roedd yno wahaniaeth mawr rhwng fy mhrofiad o’r ddau le. 

Am y tro cyntaf yn fy mywyd fe synhwyrais ddiffyg croeso gan ddisgyblion yr ysgol gynradd. Roeddwn yn berson estron o’r de oedd yn hoff o rygbi ac yn rhy barod yn nhyb nifer ohonynt i siarad Cymraeg. Fe barhaodd y sefyllfa am gyfnod yn yr ysgol uwchradd hefyd, ond yn raddol daeth pethau’n haws a gwnes nifer o ffrindiau newydd. Roedd gen i hoffter o acen  a geirfa Rhosllannerchrugog a’r cyffiniau. Felly hefyd iaith hogiau Glynceiriog. Roedd plant Y Rhos a’r Glyn yn barod i siarad Cymraeg ar iard yr ysgol, a braf oedd dod i’w hadnabod.

Y peth pwysicaf i frodorion tre Wrecsam a’r cyffiniau oedd llwyddiant y tim peldroed lleol. Roedd criw bach ond selog ohonom yn cyfarfod ar y Sadwrn i ddilyn campau’r cochion. Mi gofiaf ambell fuddugoliaeth syfrdanol yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys curo Arsenal a West Ham yng nghwpan yr FA a Newcastle United (4-1) yng nghwpan y gynghrair. Rwy’n cofio ymuno â’r dorf ar y cae yn canu “ We are the Champions”. Mi gredaf mai dyna’r tro cyntaf y chwaraewyd y gân yn y fath gyd-destun, rhywbeth a ddaeth yn gyffredin iawn wedyn. 

Yn wahanol i fy nghyfnod yn y cynradd fe dreuliais fy addysg ysgol uwchradd mewn un ysgol yn unig, sef Ysgol Morgan Llwyd. Un athrawes a wnaeth argraff bositif ar gynifer o ddisgyblion, oedd y diweddar Mrs Gwawr Dafis. Roedd hi’n wych am ysgogi hyder a hoffter at Gymreictod mewn cynifer ohonom. Dylanwad Gwawr oedd y catalydd i yrfaon disglair nifer o berfformwyr megis Marc Lewis Jones a Stifyn Parri, i enwi ond dau. Chwarae teg iddi am gynnig rhan i rywun di-dalent fel minnau i actio yn yr opera roc Ffatri Freuddwydion. Am ryw reswm, ni ddaeth yr asiantau adloniant i ngweld yng nghefn y llwyfan wedi’r porfformiad yn Eisteddfod Llangefni. O wel!

Wedi astudio ar gyfer lefelau A, mi adewais Morgan Llwyd a mynd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor er mwyn astudio Athroniaeth. Cefais lawer o hwyl yno. Roedd criw eclectig ohonom yn gyfeillion agos. Fe fwynheais fy nghyfnod ym Mangor ac fe ysgogodd y darlithwyr rhyw fesur o ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad ynof o Athroniaeth fel pwnc academaidd. Mae fy nyled yn fawr i’r diweddar Athro Geoffrey Hunter, pennaeth yr adran a fu’n barod i roi o’i allu a’i amser i gynifer ohonom.

Ar ôl gwneud fy ngradd a  blwyddyn o ymarfer dysgu ym Mangor fe’m derbyniwyd i astudio MPhil mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol St Andrews yn Yr Alban. Fel yr adeg ym Mangor roedd hwn yn gyfnod hapus iawn i mi. Wedi bywyd prifysgol roedd rhaid imi ffeindio swydd, a hynny erbyn mis Medi’r flwyddyn honno. Cefais gyfweliad yn ystod yr haf yn Ysgol Glan Clwyd a chynigiwyd y swydd i mi. Fi oedd yr unig un a gynigodd amdani!

Yng Nglan Clwyd fe ddysgais Mathemateg, Ffiseg, Cemeg, Ffotograffiaeth, Gwersi Trafod ac er mawr syndod i mi, Bywydeg. Doeth dim Athroniaeth yn y maes llafur. Y tueddiad bryd hynny oedd rhoi’r fraint i’r athro newydd addysgu y disgyblion mwyaf ‘diddorol’. Roedd hi’n brofiad chwerw felys ar y cychwyn i fwrw fy mhrentisiaeth ymhlith y setiau ‘anodd’ a hynny mewn cynifer â deuddeg ystafell wahanol yr wythnos. Serch hynny roedd y rhelyw a ddysgais  am bum mlynedd yng Nglan Clwyd yn blant y des i’w parchu ac roedd plant y ‘topia’ bob tro yn ffraeth ac yn mwynhau adrodd a chlywed straeon.

Daeth llawer o staff yr ysgol yn gyfeillion agos ac roedd nifer ohonom yn chwarae pêl-droed pump bob ochr yn wythnosol. Roedd mwy nag un chwaraewr o safon ar y staff ac yn fuan iawn sylwais i fod ambell ŵr, ugain mlynedd yn hŷn na finnau yn llawer mwy ffit, cyflym, ystwyth a thalentog na fi. Mi welaf baralel o’r gwirionedd hwnnw yn ymarferion y côr!

Yng Nglan Clwyd, roedd yno athrawes yn dysgu Saesneg o’r enw Miss Mari Lewis. Croten bert a hyfryd o Eglwyswrw yn Sir Benfro oedd Mari gyda hoffder mawr at de a’i phen byth a beunydd mewn llyfr. Yn lwcus iawn i mi, nid oedd Mari yn gallu gyrru ac fe gynigais lifft adref o’r gwaith iddi mewn hen Fiat Supermiriafiori oedd yn cwmpo’n bishys. Wedi cyrraedd Dinbych roedd y car yn gordwymo a rhaid oedd ei barcio ar ochr ffordd am gyfnod i oeri’r injan. Aethom am baned o de. Saith tebotyn yn ddiweddarach fe ddes o hyd i’r dewrder i ofyn iddi am ddêt. Trwy rhyw ryfedd wyrth fe derbyniodd y cynnig. Fe ddaeth hi’n gymar oes.

Ar ôl pum mlynedd yn Ysgol Glan Clwyd cefais swydd yn dysgu Mathemateg yn Ysgol Gyfun Llanhari.  Roedd Llanhari’n ysgol o tua 1400 o ddisgyblion bryd hynny gyda staff helaeth o dan arweiniad ysbrydoledig Mr Peter Griffiths. Cefais groeso ac mi ddes i adnabod y staff a gwneud cyfeillion oes. Un gŵr amlwg, nid yn unig yn yr adran fathemateg ond hefyd fel trefnydd clwb criced ‘Y Teirw’ oedd bachgen ifanc o Dregaron o’r enw Irfon Bennett. Cafwyd ambell drip i chwarae yn erbyn ysgolion eraill, gydag Ysgol Gyfun Gŵyr bob tro yn cynnig y prawf anoddaf. Roeddem hefyd yn chwarae rygbi cyffwrdd yn ystod yr haf ac roedd y ddau athro Addysg Gorfforol, Iolo a Mered yn wirioneddol wych. I chi sy’n cadw’n heini, efallai eich bod yn gwybod am gampfa Mered, ‘Iechyd Da, nid nepell o fan ymarfer y côr? 

Yn ystod fy nghyfnod fel athro yn Llanhari fe benderfynais mai da o beth fyddai ymrwymo i wneud gradd mewn mathemateg gyda’r Brifysgol Agored. Y teimlad gennyf bryd hynny oedd fy mod eisiau yfed yn ddyfnach o ffynnon dysg ac efallai roi cyfle i ennill rhyw fath o ddyrchafiad.

Yn ystod y flwyddyn  2000 bues yn ddigon ffodus i gael fy mhenodi yn bennaeth yr adran fathemateg yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg. Roedd hi’n fraint cael bod yng ngharfan wreiddiol Ysgol Y Fro. O dan arweiniad y Prifathro, Yr Athro Dylan Jones a’i ddirprwy Miss Rhian Griffiths, roedd y weledigaeth yn glir a phell gyrhaeddol a hynny i geisio creu ysgol Gymraeg ei hiaith oedd yn barod i wasanaethu a chreu cyfleoedd i ddisgyblion yr ardal gogyfer â’r mileniwm newydd. Roeddwn yn hynod falch o fod yn rhan o griw gweithgar oedd yn rhannu gweledigaeth y pennaeth a chawsom gyfle i adnabod pob disgybl fel unigolyn wrth i’r ysgol dyfu o flwyddyn i flwyddyn. Roedd y cyfeillgarwch rhwng y staff yn arbennig gyda phawb yn barod i sefyll yn y bwlch a mynnu’r Gymraeg fel iaith y dosbarth a’r maes chwarae. 

Saith degfed o staff addysgu’r Fro – 2000

Erbyn 2007 roedd yr ysgol ar ei llawn dwf am y tro cyntaf ac fe wnes fwynhau gyda gweddill yr adran ddarparu cwrs Safon Uwch ar gyfer y disgyblion gan fynnu rhoi’r cyfle iddynt astudio mathemateg bellach pe dymunent. Roedd gennym griw o athrawon ymroddedig yn yr adran gyda phedwar ohonynt wedi mynychu Ysgol Gyfun Bro Myrddin fel disgyblion. Mewn adran o 7, roedd 6 wedi eu geni yng Nghaerfyrddin!

Yn ystod y flwyddyn honno fe roddodd Mari’r gorau i’w swydd fel athrawes Saesneg yng Nglan Clwyd. Daeth i fyw gyda mi a gweithio yn Ysgol Y Fro fel athrawes yn yr adran Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bu yno tan ei hymddeoliad yn 2015.

Ym mis Ionawr 2012 fe dderbyniais secondiad i Adran Fathemateg Prifysgol Caerdydd a hynny i wyntyllu’r berthynas rhwng addysgeg Safon Uwch a dulliau dysgu ac astudio mathemateg yn y brifysgol. Fe wnes i fwynhau’r profiad ac fe ddyfnhaodd fy nealltwriaeth a’m hoffter o’r pwnc ynghyd â’m gwerthfawrogiad o allu arbenigwyr yn eu priod feysydd. Cefais gyfle i arwain ambell sesiwn tiwtora i’r grŵp Cymraeg eu hiaith. Ym mis Ebrill y flwyddyn honno roedd rhaid i mi gynnal darlith yn para awr o flaen yr Adran Fathemateg gyfan yn y brif ddarlithfa. Roedd pennaeth yr adran, wedi mynnu bod pawb yn bresennol, ac yn wir roedd agos at gant o Fathemategwyr abl yn bresennol, gydag ambell athrylith yn eu plith. Dyna un o brofiadau mwyaf nerfus fy mywyd, er yn ôl pob tebyg fe aeth pethau’n weddol!

Ym mis Medi’r flwyddyn honno mi gychwynais swydd newydd fel Cydlynydd Rhifedd yng Nghonsortiwm Canolbarth y De. Fy swydd oedd ceisio datblygu’r defnydd o rifedd a mathemateg ar draws y cwricwlwm yn ysgolion y rhanbarth. Bûm yno am ddwy flynedd gan fwynhau ambell agwedd ar y gwaith yn arbennig gweithio efo ysgolion Cymraeg.

Erbyn 2016 fe ffeindiais fy hun yn ôl yn y dosbarth fel aelod o’r adran fathemateg yn Ysgol Y Fro. Roedd hi’n braf bod ymhlith hen gyfeillion, er bod carfan newydd o blant wedi ymuno â’r ysgol a rhaid oedd dod i’w hadnabod hwy hefyd. Yn ystod y pedair blynedd nesaf braf oedd gweld cynifer o gyn-ddisgyblion wedi ymuno â staff yr ysgol yn yr ystafell ddosbarth a’r swyddfa.

Yn ystod y cyfnod hwn daeth hi’n amlwg nad oedd Elin, fy chwaer, ar ben ei phethau. Yn 2018 a hithau ond yn 56, canfuwyd bod ganddi ddementia cynnar (Early Onset Dementia). Peth creulon tu hwnt, yn enwedig i fardd fel fy chwaer, yw colli’r ddawn i ddefnyddio geiriau. Erbyn hyn, er nad yw Elin yn gallu cyfathrebu’n eiriol, mi wn wrth edrych i mewn i’r llygaid disglair bod yna fesur o ddealltwriaeth a bod yr hen gymeriad dal yno. Mae hi’n dal i fyw yn Llanilar gyda’i gŵr Hywel sy’n edrych ar ei hôl gyda chariad mawr di-rwgnach.

Elin ar ddechrau’r 80au

Yn ystod y blynyddoedd hyn hefyd roedd hi’n amlwg fod Mari yn llai sicr o’i cherddediad. Roedd ganddi osteoporosis gwael a thorrodd ei choes ddwywaith. Digwyddodd yr ail doriad o fewn ychydig ddiwrnodau iddi ddychwelyd adre o’r llawdriniaeth am y toriad cyntaf. Roedd hi’n mynnu ceisio dringo’r grisiau heb ddweud wrth unrhyw un gyntaf. Fe dorrwyd y plât titaniwm oedd yn dal yr asgwrn hefyd. ‘Amhosibl’ medd yr arbenigwr. Yn amlwg doedd e ddim yn adnabod Mari.

Ym mis Medi 2020 fe benderfynais ymddeol yn gynnar o’m swydd fel athro a hynny’n rhannol i dreulio mwy o amser gyda Mari. Roedd ei hiechyd yn araf ddihoeni ond roedd ei charedigrwydd, sbarc ei hiwmor a grym ei phendantrwydd yn parhau. Ym mis Chwefror 2023 fe ruthrwyd Mari i’r ysbyty yn annisgwyl a bu farw y diwrnod canlynol.

Fi a Mari ar ein gwyliau yn yr Alban 1990

Bu’r tair blynedd diwethaf yn gyfnod o newid byd, ac rwy’n hynod o ddiolchgar am gymorth a charedigrwydd cynifer o’m ffrindiau yn ystod y cyfnod hwn. Aeth criw bychan ohonom i ddilyn Cymru yng Nghwpan Y Byd yn Ffrainc gan fwynhau yn arbennig y fuddugoliaeth agos dros Fiji. Rwy’n dal wrthi’n tiwtora disgyblion o dro i dro ac yn cyfrannu at fenter cyfeillion sy’n rhedeg siop goffi lleol (‘Ffloc’ ar Stryd Ddwyreiniol Y Bont Faen). Mae ymuno â’r côr hefyd wedi cynnig profiadau newydd a difyr ac mae cael fy nerbyn fel rhan o’r gymdeithas unigryw hon yn fraint ac yn hwb i’r ysbryd.

2. Beth yw dy atgof cynharaf?

Yn fuan iawn ar ôl symud o Gymru i Lundain, mi gofiaf glywed Mam yn siarad gyda’r gymdoges drws nesaf dros y ffens a minnau yn methu amgyffred y sain anghyffredin a ddaeth o’i genau. Esboniwyd i mi yn ddiweddarach ei bod yn siarad Saesneg.

3. Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Cymro hanner call 

4. Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd? 

 Tu fas i Frynaman ar ben y Mynydd Du wrth edrych i lawr tua Thro’r Gwcw. Hefyd yr ardal uwchben Sarnau yng Nghefnddwysarn.  

Parc cenedlaethol Triglav yn Slofenia lle’r mae’r mynyddoedd yn wyn a’r dŵr yn glir fel y grisial.

5. Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg? 

 Oes, llawer i ddweud y gwir. Un ohonynt yw’r tueddiad i gasglu pethau’n ddiangen ac i bentyrru’r tŷ gyda llyfrau, cryno ddisgiau, camerâu a hi-fi.

6. Beth sydd yn dy wylltio ?  

Anghyfiawnder a snobyddrwydd (sydd wrth gwrs yn ffurf ar anghyfiawnder). 

7. Beth am rannu rhywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?  

Sa i’n siŵr os yw e’n rhywbeth diddorol, ond tra’n fyfyriwr yn St Andrews fe es i ryw liw nos gyda chyfaill i chwarae y deunawfed twll ar yr Hen Gwrs. Trwy ryw ryfedd wyrth cafodd y ddau ohonom ‘par’!

8. Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed? 

Cefais y fraint o siarad gyda Gerald Davies ar stryd Westgate, oriau wedi’r gêm rhwng y Barbariaid a Seland Newydd yn 1993. Roedd newydd ysgrifennu erthygl yn Y Times y bore hwnnw yn sôn am y gêm gyfatebol fythgofiadwy yn 1973 a’r ffaith ei fod wedi gorfod tynnu allan o’r tîm y bore hwnnw.

9. Beth fyddai dy bryd bwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn? 

Mae gennyf wendid arbennig o ran bwyd Indiaidd. Pan ofynnwyd i Dewi Pws beth oedd ei hoff fwyty Indiaidd fe enwodd bump ohonynt. Un yn Karachi, un yn Hyderabad a thri yn Stryd Ddwyreiniol Y Bont Faen yng Nghaerdydd! Gallaf ddatgan mai ‘Seren Cymru’ ar yr heol honno yw fy ffefryn. Byddai pryd o Giw Iâr Jaipuri a reis Keema gyda chriw o gyfeillion agos yn gwneud y tro i’r dim. Petai Paul McCartney yn y cyffiniau ac yn awchu am fwyd o’r is-gyfandir byswn yn ei groesawu â breichiau agored a thafod mud.

10. Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden? 

Rwy’n hoff iawn o ffotograffiaeth a phan fydd y golau yn denu mi af allan i dynnu lluniau o’r ddinas a rhannau o Gymru. Dros y blynyddoedd rwyf wedi dod i feddwl efallai fy mod yn well casglwr o gamerâu na thynnwr lluniau. Mae’r tŷ bellach dan ei sang gyda lensys a chyfarpar ffotograffiaeth. 

11. Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio? 

Mae unrhyw ddrama sy’n codi cwestiynau moesol trwy gyfrwng actio da a sgript ddeallus yn rhoi mwynhad. Y ddau orau i mi gofio ar y teledu yw ‘Our Friends in the North’ a ‘Mad Men’. Mae’r ddau yn codi drych at y newidiadau cymdeithasol a ddechreuodd yn y 60au.

Rwy’n hoff hefyd o wylio rygbi a phêl-droed ar y teledu.

12. Beth yw dy hoff lyfr(au)? Pwy yw dy hoff awdur(on)? 

Y llyfr a wnaeth argraff fawr ynof yn fy ieuenctid oedd nofel bell-gyrhaeddiol George Orwell, 1984. Dywedodd yn un o’i ysgrifau, ‘Good prose should be like a window pane‘ – brawddeg sy’n ddarlun byw o’r hyn mae’n ceisio ei gyfleu. Rwy’n hoff hefyd o nofelau Albert Camus (cyfieithiadau yn unig) ac yn fwy diweddar, llyfrau Ian McEwan, yn enwedig y nofel “Saturday”.

13. Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig? 

Cwestiwn anodd tu hwnt!  Rwy’n meddwl byswn yn dewis rhywbeth gan The Beatles gan fy mod wedi fy hudo gan eu cerddoriaeth ers fy arddegau cynnar. Rwy’n cytuno â’m ffrind a chyd-aelod o’r côr, Alun Thomas (T2) fod ail ochr ‘Abbey Road’ yn gampwaith o felodïau a chyd-chwarae. Felly nid un gân a ddewisaf ond hanner albwm os yw hynny’n dderbyniol?  Byddai Waterloo Sunset gan The Kinks ac A KInd of Blue gan Miles Davis yn agos i’r brig hefyd. 

14 Pe baet ti’n Brif Weinidog Cymru pa freuddwyd fyddet ti eisiau ei gwireddu gyntaf? 

 Y freuddwyd fydde Cymru annibynnol ffyniannus oddi mewn i’r gyfundrefn Ewropeaidd. Adeiladu ar lwyddiannau’r gorffennol mewn hinsawdd gwir ddemocrataidd lle mae’r cysyniad o gyfiawnder cymdeithasol yn cael ei gofleidio ynghyd â pharch a chariad at ein hiaith hyfryd, unigryw. 

15. Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?

I’w benderfynu!