Rich gydag un o’i arwyr, y rapiwr Flavor Flav
  1. Rho grynodeb i ni o dy gefndir. Beth ddaeth â ti i’r ardal hon (dalgylch CMT)?

Cefais fy ngeni yn Sychdyn ger Yr Wyddgrug ac yna crwydro Gogledd Cymru dros yr ugain mlynedd nesaf. Roeddem fel teulu yn dilyn Dad a’i waith fel peiriannydd mewn gorsafoedd trydan. Cawsom gyfnodau yn Nannerch (Clwyd), Benllech (Ynys Môn) ac yna i Ddolgellau ac i Ysgol y Gader. Y pennaeth oedd yr unigryw Mr Hywel Gwyn Evans (neu Bouncer fel yr oeddem ni blant yn ei adnabod). 

Symud lawr i’r de wedyn, neu ‘headio tua’r Sowth’ chwedl Nain, i Brifysgol Morgannwg ar ddechrau’r 90au i astudio Peirianneg Sifil. 

Rwyf nawr yn beiriannydd sifil siartredig ac yn bennaeth ar Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru, sydd yn cynnal a chadw yr M4 a ffyrdd strategol eraill dros Dde Cymru ar ran y llywodraeth. 

Rwyf wedi ymgartrefu yn Nghaerdydd hefo Eirian fy ngwraig a thri o blant, Owain, Elen a Rhodri.

Ar ôl potshian ychydig gyda Chôr Meibion Dolgellau, rydw i’n un o’r ychydig sydd ar ôl o’r criw ddaeth i ymarfer cyntaf CMT. Roedd Dad, a oedd yn un mawr am y corau ac wedi canu hefo Corau Trelawnyd, y Traeth, Dolgellau a Godre Aran, wedi clywed hysbys Rob ar raglen radio Hywel Gwynfryn!

  1. Beth yw dy atgof cynharaf?

Crio tu allan i barti gwisg ffansi mewn gwisg oedd yn cynnwys trwsus byr, fflip fflops a chrys llachar. Roeddwn I eisiau bod yn gowboi ond roedd Mam yn meddwl ‘sa ‘Me Welsh Speaking Japanee‘ yn fwy diddorol ac unigryw. Fel ‘na oedd hi yn y 70au – ‘different times’ fel mae nhw’n ddeud.

  1. Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Cyfeillgar, teg a chall (y rhan fwyaf o’r amser)!

  1. Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?

Llynnoedd Cregennen, wrth droed Cader Idris ar ddiwrnod braf a’r olygfa draw dros yr afon Mawddach tua Bermo. 

Yn y byd? Rwyf yn hoff iawn o’r Eidal, y wlad ar bwyd, ar ôl treulio ambell i wyliau yno yn ystod yr haf a’r gaeaf. Tuscany, Sorrento, a’r Alpau ond y ffefryn yw Rhufain ac wedi bod yno sawl tro, unwaith hefo rhain, y tu allan i’r Colosseum. 

(Dyma’r unig lun hefo ychydig o ddiwylliant ar y daith honno!) 

5. Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?

Mae’r rhestr yn un hir debyg – ond cnoi ewinedd, gadael dillad ar y llawr a gorfeddwl pethau yw’r rhai gwaethaf. Rwy’n euog hefyd o gymryd gormod o amser dros bethau (fel cwblhau’r holiadur hwn!)

6. Beth sydd wir yn dân ar dy groen di?

Pobl ddim yn llnau ar ôl eu cŵn, yn enwedig ar feysydd chwarae. Fel perchennog ci eithaf newydd yn y cyfnod clo (Nel) dwi ddim yn gweld unrhyw esgus dros beidio ‘bag it a bin it’. 

7. Beth am rannu rhywbeth gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?

Fel rhan o fy nathliadau penblwydd yn 40, rhoddodd Eirian her imi ddod yn fwy ffit drwy gymryd rhan mewn White Collar boxing fight. Yn ystod 8 wythnos o ymarfer collais bron i ddwy stôn a hanner. Yn anffodus, ddeng mlynedd yn ddiweddarach mae’r pwysau wedi ei roi yn ôl, ond dwi wedi joio wrth wneud hynny!

8. Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?

Mae hyn rhwng dau. Dw i ddim yn siŵr os mai nodedig yw’r gair mwyaf priodol ar gyfer y cyntaf ond mi gwrddais â Flavor Flav o’r grwp rap Americanaidd, Public Enemy tra roeddwn yn Denver, Colorado (gweler y llun uchod).

Yr ail oedd  yr actorion Julia Ormond a Ben Cross tra roeddwn yn cymryd rhan fel ecstra yn y ffilm  First Knight a gafodd ei ffilmio ym Meirionnydd yn y 90au cynnar. Gwnaeth fy mrawd gyfarfod Sean Connery yr adeg honno hefyd. Doedd e ddim beth roedd e’n ei ddisgwyl, ond mae honno yn stori arall dros beint!

9. Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?

BBQ safonol Americanaidd (hickory smoked ribs, buffalo wings, slaw ayb), hefo teulu, ffrindiau a Dad a oedd yn ffan mawr o BBQ ond sydd, yn anffodus, bellach wedi’n gadael.

10. Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?

Ar ôl blynyddoedd o hyfforddi timau rygbi a phêldroed plant (Clwb Rygbi St Peters a Pontprennau Pumas) rwyf nawr wrth fy modd yn gwylio yn unig, cymdeithasu gyda rhieni eraill a bod yn dacsi.  Rwyf hefyd yn ffan mawr o chwaraeon – pêldroed, rygbi ac NFL yn enwedig. Rwy’n dilyn y Denver Broncos sydd yn gallu bod yn anodd ar ambell nos Sul yn y Hydref. Dwi wrth fy modd yn mynd allan am dro yn enwedig ers i Nel (y ci) gyrraedd. (Gol. Mae Nel yn gariad!)

11. Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio?

Line of Duty, The Looming Tower, Kobra Cai ac All or Nothing. Yn ystod y cyfnod clo cyntaf ces gyfle i gyflwyno Jabas i’r plant . Er fod y gyfres yn 30 mlwydd oed roeddent wrth eu boddau.

12. Beth yw dy hoff lyfr? Pwy yw dy hoff awdur?

Dwi ddim yn ddarllenwr mawr ac rwy’n mynd mwy am bodcast y dyddiau yma i ymlacio. O’r llyfrau rwyf wedi eu darllen fy ffefrynnau yw Lord Of the Rings, JRR Tolkein  a Dances with Wolves, Phillip Blake 

13. Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?

Rwy’n hoff o bob math o gerddoriaeth o roc trwm ACDC, yr 80au, bandiau Indie yr 90au a cherddoriaeth ffilm.  Ar gyfer cyfnod ar ynys bellennig buasai rhaid i mi ddewis casgliad o fy hoff gerddoriaeth ffilm gan John Barry, John Williams a Hans Zimmer .

14. Pan fydd y cyfnod ‘cofid’ drosodd beth wyt ti’n edrych ymlaen at ei wneud fwyaf?

Teithio eto. Dw i wedi bod yn trefnu taith i Efrog Newydd cyn i’r plant benderfynu bod gwyliau hefo Mam a Dad ddim yn cŵl. Ond tra ‘mod i’n talu dylwn i fod yn iawn am ychydig eto!

15. Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?

Gwyn Hughes Jones (ac ydw, dwi’n gwybod ei fod wedi fy nghuro i’r llinell derfyn, gweler cwestiwn 5!)