1. Rho grynodeb i ni o’th gefndir a’th hanes. 

Cefais fy ngeni ym mhentre Rhosllannerchrugog yng Ngorffennaf 1952. Pentre glo oedd Rhos – yn llawn capeli a thafarnau. Roedd pobl Rhos yn stöicaidd a diwylliedig ac yn falch o’u gwreiddiau, eu traddodiadau a’u tafodiaith. Roedd y pentre yn llawn canu a barddoniaeth. 

Roedd fy mam Stella Jasionowicz yn Gymraes ac yn fedyddwraig. Roedd hi’n ferch addfwyn a charedig. Pan oedd hi’n ifanc aeth i weithio fel gwasanaethwraig i gyfreithiwr a’i wraig. Rwy’n ei chofio yn gwnïo yn y tŷ ac yn gwneud ei dillad ei hun, i minne a phobl eraill hefyd. Roedd hi hefyd yn gogyddes ardderchog. 

Daeth fy nhad Kazimierz Jasionowicz i Rhos o wlad Pwyl – o bentref o’r enw Platerowa i’r dwyrain o ddinas Warsaw. Daeth Dad i’r wlad yma gyda milwyr a theuluoedd yr 8fed Fyddin dan Orchymyn Cynghreiriol. Gŵr Catholig cryf a ffyddlon oedd Dad. Felly pan oeddwn yn ddigon hen, i ffwrdd â ni i’r eglwys ar y Sul. Roedd e’n gwethio fel adeiladwr yn Ellesmere Port. 

Yn 1955 dechreuais yn Ysgol Fabanod Rhos ac yn 1959 es i Ysgol Gynradd Bechgyn Rhos. Yn nosbarth Safon 2 ces i flwyddyn arbennig gyda Jonathan Davies, taid Marc Lewis Jones. Rwyn cofio dysgu am dywysogion Cymru a barddoniaeth I.D. Hooson (Cerddi a Baledi). Trwy gydol ein hamser yn yr ysgol, treuliwyd digonedd o amser yn canu ac ar farddoniaeth a chwaraeon. 

Bu farw Mam a Dad ym mis Mawrth 1960. Fy nhaid oedd y perthynas agosaf felly penderfynwyd bod fy chwaer Sara a minnau yn mynd i fyw gyda Modryb Miriam (chwaer fy mam) a fy Ewythr Dennis. Roedd ganddynt ddau o blant – Gwynn a Ceris. Roedd y chwedegau yn ddyddiau hyfryd yn Rhos gyda’r côr yn ganolbwynt i’r pentre a’n teulu ni. Nhw oedd y côr meibion gorau yn y byd! 

Hefyd, yn hytrach na mynd i’r eglwys, dechreuais fynd i gapel Penuel lle roedd gweddill ein teulu yn mynd a hefyd y ‘Gobeithlu’. Ym Mhenuel, fe’m cymrwyd dan adain Y Parchedig Lewis Valentine, cawr o ddyn. 

Yn ystod 1962 roedd cyffro trwy’r ysgol gyda sôn am ysgol uwchradd Gymraeg yn agor yn Wrecsam. Felly ym mis Medi 1963 i ffwrdd â ni ar fws Tomi Williams i Ysgol Morgan Llwyd. 32 ohonom – 16 o ferched a 16 o fechgyn. Pymtheg o fechgyn yn unig oedd yn medru cymryd rhan mewn unrhyw fath o chwaraeon. Roedd gennym ni dîm pêl-droed, rygbi ac athletau. Roeddem yn gwneud digonedd o redeg traws-gwlad hefyd! 

Yn ystod yr ymarfer canu wythnosol roedd ein prifathrawes Mrs Rhiannon Grey Davies yn galw arnaf i ganu emyn ar fy mhen fy hun. Ar Fawrth 1af 1964 gofynnodd hi i mi ganu cân y Cadeirio yn yr Eisteddfod a phob blwyddyn ar ôl hynny! Yn ogystal â’m diddordeb mewn cerddoriaeth, barddoniaeth a chwaraeon roeddwn yn ffodus iawn i fod yn aelod o’r ‘Cubs’ a’r ‘Scouts’. Trwy’r rhain fe ddysges i lond trol  o  sgiliau bywyd.

Yn y capel roeddwn yn lwcus iawn fod perthynas i mi J. T. Davies (a gyfansoddodd y trefniant enwog o Gwahoddiad) yn gyfrifol am ddatblygu canu trwy’r Gobeithlu. Bob blwyddyn ar Mawrth 1af cynhelid yr Eisteddfod Fawr. Dysgais gystadlu yma am y tro cyntaf a datblygais ymhellach fy niddordeb mewn canu ar fy nhen fy hun. Yn ystod y chwedegau daeth Bethan Bryn i ddysgu Cerddoriaeth. Byddai hi hefyd yn gofyn imi ganu darnau yn yr Eisteddfod ar Fawrth 1af ac yn Eisteddfod yr Urdd. Pan dorrodd fy llais arhosodd yn uchel ac felly roeddwn yn canu alto gyda’r merched a gweddill y bechgyn yn canu bas a bariton. Erbyn y chweched dosbarth roedd y llais wedi newid i denor uchel ysgafn. Dyna sut y cefais y ffugenw ‘Stef – treble clef’! Yn 1970 a 1971 fe wnes i gystadlu  yn yr unawd i fechgyn dan 19 oed yn Eisteddfod yr Urdd. Yn 1970 enilles i’ri 3edd wobr yn yr Eisteddfod Sir a’r ail wobr yn y Sir yn 1971. Rwy’n cofio mai bariton oedd pob cystadleuydd arall. 

Ar ddyddiau Sadwrn roeddwn i’n chwarae pêl-droed – yn gyntaf i dîm ieuenctid Rhos ac wedyn cefais i dymor yn chwarae i dîm ieuenctid Druids United. Fe wnes i hefyd chwarae I’r tîm 1af. Y flwyddyn wedyn fe es i chwarae i dim 1af y pentre – Aelwyd y Rhos. 

Tua’r adeg hon dechreuais i golli diddordeb yn fy ngwaith ysgol. Cefais fy rhybuddio gan Modryb Miriam y bydde rhaid imi fynd i weithio yn y pwll glo. Roeddwn yn parhau i fynd i’r Ysgol Sul ac i ddosbarth J.T. Davies, a oedd yn ddylanwad da arnon ni i gyd. Wedi setlo i lawr eto yn yr ysgol fe wnes i ddal ati gyda’r canu, pêl-droed ac athletau. Roedd fy mhrifathro W.J. Davies hefyd yn dysgu Cymraeg i ni, roedd yn athro arbennig. Rwy’n cofio’r mwynhad o astudio barddoniaeth I.D. Hooson (Y Gwin) eto, a llyfrau fel William Jones a Cysgod y Cryman. Roedd W.J. yn ddylanwad enfawr ar ein bywydau. Roedd fy athro ymarfer corff Mr Arfon Jones yn awyddus imi feddwl am ddysgu ymarfer corff. Ar yr un pryd roeddwn yn astudio Saesneg Lefel A gyda  Gareth Miles – fe ddysgais lawer am feirdd Saesneg a gwleidyddiaeth gyda fo. Yn y diwedd Mr Arfon Jones oedd y dylanwad mwyaf, felly fy mhenderfyniad oedd mynd i Goleg Addysg Caerdydd a hyfforddi i fod yn athro Ymarfer Corff. 

Roeddwn yn y coleg o 1971 i 1974 ac yno fe gwrddes i â Gogs a Huw Reynolds am y tro cyntaf. Yn 1972 fe gwrddes i â Nerys fy ngwraig ac yn 1974, wedi gorffen yn y coleg, i ffwrdd â ni i Ogledd Llundain a dechrau ar ein gyrfaoedd dysgu. Roedd Nerys yn dysgu mewn ysgol gynradd a minnau yn dysgu Ymarfer Corff, Saesneg a Mathmateg mewn ysgol uwchradd. 

Chwarae golff gyda Bois y Coleg Hydref 2022

Dechrau dysgu felly gan gynnal clybiau a hyfforddi timau bob nos ar ôl ysgol. Ar ddyddiau Sadwrn roeddwn yn cymryd timau pêl-droed yn y bore ac wedyn yn chwarae rygbi yn y prynhawn. Rroeddwn yn mwynhau chwarae rygbi 7-bob-ochr ac yn enwedig twrnament ‘Y Middlesex Sevens’.  Yn ystod yr Haf roeddwn i’n canolbwyntio yn bersonol ar athletau. Roeddwn yn medru rhedeg pob pellter yn gynnwys y clwydi, pob tafliad a phob naid. Yn 1976 a 1977 cymrais ran mewn decathlon. Yn 1977 cefais swydd Pennaeth yr Adran Ymarfer Corff. 

Roeddwn eisoes wedi ffurfio Côr Bechgyn a oedd yn cymryd rhan mewn cyngerddau yn yr ysgol. Hefyd yn ystod yr adeg hon ymunais â’r St Andrews Singers ac roeddem yn cynnal cyngherddau yn Eglwys St Andrews Enfield.  Yr adeg yma hefyd dechreuais gael gwersi canu am y tro cyntaf a chanu unawdau mewn cyngherddau a gwyliau crefyddol.

Yn 1979 priododd Nerys a fi yng Nghapel Saron Gendros yn Fforestfach Abertawe. Yn 1983 cafodd ein mab Owain ei eni ac yn 1987 cafodd ein mab ieuengaf Lewis ei eni. Rhwng 1980 a 1987 pan oeddwn yn byw yn Llundain ces i gyfleoedd i ganu mewn sawl oratorio, gan gynnwys y Meseia ac Eleias, ac ambell opera gan gynnwys rhannau Cassio yn Otello Verdi, Beppe yn I Pagliacci Leoncavallo ac Acis yn Acis a Galatea Handel. Ar ôl blwyddyn neu ddwy arall yn Llundain fe benderfynon ni symud nôl i Gaerdydd ac yn 1990 cefais swydd ar dîm arwain Ysgol Gynradd Llanishen Fach yn Rhiwbeina. Roedd gan yr ysgol Uned Ddwyieithog felly roeddwn yn dysgu yn yr adran Cymraeg. Y flwyddyn gyntaf honno roeddwn yn teithio o Lundain ar ddechau a diwedd pob wythnos ac o Abertawe yn ystod yr wythnos.  

Chwarae Cassio gyda Iago yn Otello Verdi 1984.

Yn 1992 cefais glywediad ac wedyn ymuno â Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC. Roeddem yn perfformio’n gyson yn  Neuadd Dewi Sant ac mewn lleoliadau eraill ar draws Cymru a Lloegr gan gynnwys Proms y BBC yn Neuadd Albert yn Llundain. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd fe wnes i barhau i ganu fel unawdydd mewn cyngerddau, recitals a cabaret. Yn 1995 fe wnes i beffformio rhan Don Jose yn ‘Carmen y Musical’ yn yr Ystafelloedd Paget ym Mhenarth. 

Ym mis Mai 1996 ces fy mhenodi yn ddirprwy brifathro yn Ysgol Gynradd Stacey Road yn y Rhath. Yn 2007 yn 55 mlwydd oed ac yn dechrau edrych ymlaen at ymddeoliad cafodd fy mhrifathrawes swydd newydd a ches innau swydd y prifathro. Roeddwn i wedi ffurfio côr yn yr ysgol ac yn 2007 cymrodd y côr ran yng nghystadleuaeth Côr Cymru.  

Ers ymddeol yn 2012 rwyf wedi canu gyda Chôr Bach Caerdydd a Chorws Canton ac ym mis Tachwedd 2024 fe ymunes i â Chôr Meibion Taf. Fe wnes i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yn 2018 a chael gwersi gyda Sian Meinir am gyfnod wedi hynny. 

Mae Nerys a minnau wedi bod yn briod am 46 o flynyddoedd eleni. Mae gennym ddau o feibion, Owain a Lewis. Mae Lewis ac Eleri yn byw yng Nghaerdydd ac mae ganddynt ddwy ferch. Mae Lewis yn byw yn Norwich gyda’i bartner Alice.  

Ers ymddeol dros ddeng mlynedd yn ôl, mae Nerys a minne wedi treulio ein hamser yn gofalu am yr wyresau ac mae’r ddau ohonom yn ceisio cerdded tair neu bedair milltir bob dydd. Rydym hefyd yn ceisio treulio amser yn Norfolk gyda Lewis. Ac wrth gwrs dwi’n ceisio treulio cymaint o amser  ag a fedraf yn y gogledd, gyda’r teulu yn Rhos. 

Edrych ymlaen ‘rwan at y bennod newydd nesaf…… 

Pe cawn fy hun yfory

Yn llencyn deunaw oed, 

Â’r daith yn ailymagor  

O flaen fy eiddgar droed, 

Ni fynnwn gan y duwiau  

Yn gysur ar fy hynt 

Ond gwin yr hen ffiolau  

A brofais ddyddiau gynt. 

I.D. Hooson

  1. Beth yw dy atgof cynharaf? 

Rwyn cofio rhedeg adref ar fy niwrnod cyntaf yn Ysgol y Rhos ac aros am Mam ar drothwy’r drws. Pan gyrhaeddodd Mam, syth yn ôl i’r ysgol â ni!  

  1. Disgrifia dy hun mewn tri gair. 

‘Rwyn credu fy mod yn person teg, dygn a chreadigol 

  1. Beth yw dy hoff le di yng Nghymru? 

Mynydd y Rhos – Cerdded ar y mynydd a cherdded trwy Eglwyseg a Pentre Dŵr, heibio maes yr eisteddfod i lawr i Langollen. 

  1. Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg? 

Dwi’n flêr, ystyfnig a dwi’n drysu pawb trwy ganu trwy’r amser yn y tŷ. 

  1. Beth sydd yn dy wylltio ? 

  Anghyfiawnder; pobl ragfarnllyd, haerllug a hunangyfiawn. 

  1. Beth am rannu rhywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod? 

Yn 1968 trefnodd Lewis Valentine imi gael fy nghyfweld ar y radio. Y pwnc oedd y ddadl dros gadw’r tafarnau ar gau ar y Sul. 

  1. Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed? 

Lewis Valentine. Nid yn unig ei fod yn ŵr clyfar a doeth, roedd e’n ŵr gyda dynoliaeth. Yn ystod y Rhyfel Byd 1af roedd e’n gludwr stretsier. ‘Rwyn falch iddo fy medyddio. 

  1. Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn? 

Fy hoff bryd o fwyd ydy penne arabiatta yn Elgano neu chicken arabiatta yn Café Citta gyda Nerys a gweddill y teulu. 

  1. Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden? 

Rhedeg y ddwy filltir o’r tŷ i fyny Ffordd Thornhill i lwybr y Ridgway a rhedeg traws-gwlad. Wedyn cerdded i lawr yr allt adref. Hefyd dysgu a chanu arias a chaneuon celf. 

 11. Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio? 

Dramâu trosedd ydy fy hoff raglenni teledu.  

 12. Beth yw dy hoff lyfr(au)? Pwy yw dy hoff awdur? 

Casgliad o farddoniaeth Emily Dickinson. Cymrodd Aaron Copland ddwsin o’i cherddi a chyfansoddi 12 cân ‘Cerddi Emily Dickinson’

Casgliad o draethodau George Orwell. 

13. Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig? 

Rachmaninov – Bogoroditse Djevo – Rejoice O Virgin. Rhan o’i waith Y Vespers – All Night Vigil. 

14.  Pe baet ti’n Brif Weinidog Cymru pa freuddwyd fyddet ti eisiau ei gwireddu gyntaf? 

Cael gwared â thlodi plant.

Dod â heddwch i’r byd. 

15.  Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa? 

Y Baswr Huw Reynolds.