
- Rho grynodeb i ni o’th gefndir a’th hanes.
Cefais fy ngeni a fy magu mewn pentre bach 12 milltir lan yr afon o Aberafan – ardal oedd bron yn gwbl ddi-Gymraeg. Mynychais Ysgol Ramadeg-Dechnegol yn Llangynwyd, ac ar ôl pasio fy arholiadau lefel A, symudais i Gaerdydd yn y 60au i astudio meddygaeth. Bryd hynny nid oedd Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru yn rhan o’r brifysgol – roedd yn gwbl annibynnol. Pan ro’n i’n fyfyriwr, ar ôl tair blynedd, ymunais â’r Llu Awyr Brenhinol fel cadlanc. Priodais Anne ym 1971 ar ôl i fi ennill fy ngraddau. Wedyn ro’n i’n gweithio yn ysbyty St Woolos, Casnewydd am flwyddyn a hanner – fel llawfeddyg yna fel meddyg yna fel pediatregydd. Pan o’n i’n byw yno, ganwyd fy mab cyntaf (Ciarán). Ar ôl i fi adael Casnewydd ro’n in gweithio yn y Llu Awyr fel meddyg teulu, ac er mwyn cymhwyso fel meddyg teulu, cefais brofiadau ychwanegol fel meddyg brys a hefyd mewn llawdriniaeth CTG (ENT yn Saesneg), llawdriniaeth offthalmig a llawdriniaeth blastig. Ganwyd fy nhri phlentyn ieuengaf tra ro’n i yn y Llu, yn Kings Lynne (Gareth), Lisburn, Gogledd Iwerddon (Siobhán) ac Aldershot (David). Yn ddiweddarach, ar ôl ennill gradd meddygaeth awyrennu, ro’n i’n gweithio fel arbenigwr – yn is-arbenigo mewn symud cleifion mewn awyrennau. Gwnes i dair taith ar ynysoedd – Iwerddon (meddyg brys ar gyfer y Gwasanaethau Diogelwch ym Melfast 1974-1975), Cyprus (RAF Akrotiri 1979-1982) ac Ynysoedd y Falklands (RAF Stanley 1983). Ar ôl i fi ymddeol o’r Llu yn 1984, symudais i Gernyw i weithio fel meddyg teulu. Yn ogystal â gweithio fel meddyg teulu, gwnes i lawer o swyddi rhan amser, gan gynnwys un yn y Fyddin Diriogaethol. Fy swydd olaf oedd gweithio fel Prif Swyddog 243 Field Hospital, ar reng milwriad (neu gyrnol).

Yn 2001 ymddeolais o’r GIG a symudais i Iwerddon (Waterford) i weithio fel meddyg teulu ac yn ddiweddarach fel meddyg cymunedol. Pan o’n i’n byw yn Iwerddon ymunais â Chôr Meibion Waterford – fy mhrofiad cyntaf o ganu mewn côr. Ar ôl marwolaeth fy ngwraig yn 2012 penderfynais symud yn ôl i Brydain – sef Ampthill, Swydd Bedford. Pan o’n i’n byw yno, penderfynais ddysgu Cymraeg. Es i ar sawl cwrs preswyl dwys dros yr haf. Pan o’n i ar gwrs yng Nghaerdydd penderfynais symud yno. Y flwyddyn nesaf es i i Aberystwyth ar gwrs preswyl am fis, roeddwn i wedi gwerthu fy nhŷ yn Ampthill ond heb brynu tŷ yng Nghaerdydd – roeddwn i’n ddi-gartref! Ond, rhyw 6 wythnos ar ôl i fi orffen y cwrs llwyddais i ymgartrefu ym Mhontcanna, ble dw i’n byw ar hyn o bryd.
- Beth yw dy atgof cynharaf?
Dw i’n credu mod i’n cofio pigo a bwyta pys yn yr ardd pan oeddwn i tua thair oed.
- Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Ro’n i’n arfer bod yn hunandybus, ond nawr dw i’n berffaith! Iawn, ddim yn jôc ddoniol! Chwilfrydig. Goddefgar. Weithiau hygoelus (gullible).
- Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?
Fy hoff le yng Nghymru yw Caerdydd fel sy’n amlwg gan mod i wedi symud yma yn 2017.
Fy hoff le yn y byd yw Machu Picchu. Ro’n i yno ar gyhydnos y gaeaf ym 1999 a gwelais belydrau’r wawr yn taro Huana Picchu, y copa gyferbyn. Dyma oedd yr eiliad bwysicaf ar ddiwrnod olaf a phwysicaf calendr 3000 o flynyddoedd yr Inca.

- Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
Oes – llawer – ond dim un y byddwn i’n cyfaddef iddo!
- Beth sydd yn dy wylltio ?
Haerllugrwydd, yn enwedig ar y maes chwaraeon.
- Beth am rannu rhywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
Dw i wedi ymuno â’r Seiri Rhyddion, ac yn wir fi oedd y person cyntaf erioed yn y byd i gael ei urddo a’i ddyrchafiadau dilynol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dw i wedi hedfan dau fath o hofrennydd (Alouette a Whirlwind) ac awyren ymladd-bomio Phantom.
- Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Cwrddais i â’r Dywysoges Anne pan ymwelodd hi â Chyprus. Roedd hi’n feichiog ar y pryd, ond roedd y wybodaeth honno’n gyfrinachol. Ro’n i’n gyfrifol am ei gofal meddygol, ond yn ffodus nid oedd angen i fi wneud dim byd!

Gellir fy ngweld yn y rhes ganol ar ochr chwith eithaf y llun.
- Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?
Dw i’n hoff iawn o fwyd Thai. Hoffwn ei rannu gyda Christy Moore, nid yn unig fy hoff ganwr , ond yn ddyn sydd â hanes hynod ddiddorol.
- Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?
Mae llawer o hobïau gyda fi, gan gynnwys dysgu Cymraeg, paentio (tirluniau a phortreadau), caiacio, chwarae offerynnau (bouzouki, mandolin, octave mandolin, cittern, tenor banjo, gitâr, tenor gitâr, bodhrán), ac ymarfer corff yn y campfa.
- Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio?
Y rhaglen QI – pan oedd Stephen Fry yn cyflwyno’r sioe.
- Beth yw dy hoff lyfr(au)? Pwy yw dy hoff awdur(on)?
Fy hoff lyfrau yw’r rhai sy’n cynnwys ‘Arglwydd y Modrwyau’ gan Tolkien.
- Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?
Byddwn i’n dewis Midnight Walker wedi’i chwarae gan Davey Spillane ar y pibellau uillean (penelin yn yr Wyddeleg). Mae’r sain yn hudolus o atgofus.
- Pe baet ti’n Brif Weinidog Cymru pa freuddwyd fyddet ti eisiau ei gwireddu gyntaf?
Creu mwy o feddygon teulu a dod ag apwyntiadau wyneb-yn-wyneb yn ôl.
- Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?
Rwy’n enwebu Stefan Wright (tenor).