Mae Côr Meibion Taf yn edrych ymlaen yn fawr at berfformio yn y Theatr Newydd yng Nghaerdydd fel rhan o bodlediad Geraint, The Geraint Thomas Cycling Club. Cynhelir y podlediad byw nos Fawrth, 7 Tachwedd. Bu’r côr yn ymarfer yn galed at y noson ac fe wahoddwyd Geraint i fwrw ei linyn mesur dros y canu nos Sul 29 Hydref yn Nghlwb Rygbi Llandaf. Roedd y bois wrth eu bodd i gwrdd ag un o’n harwyr cyfoes a Geraint ei hun yn ddigon hapus i rannu llwyfan â ni ymhen yr wythnos!











