Yr Ŵyl Ban-Geltaidd: Carlow 2025

Dydd Gwener 25 Mai – y daith i Ceatharlach / Carlow

Caerdydd – Abergwaun – Rosslare – Carlow

Mae taith Côr Meibion Taf wedi ei hen sefydlu bellach yng nghalendr y flwyddyn. Yn sgil y teithiau i’r Alban a Chernyw yn ystod y ddwy flynedd diwethaf fe gwblhawyd y goron driphlyg Geltaidd eleni gydag ymweliad ag Iwerddon a’r Ŵyl Ban-Geltaidd yng Ngharlow sef Ceatharlach yn y Wyddeleg. Lance oedd ein gyrrwr eleni unwaith eto a chyrhaeddodd Abergwaun mewn da bryd er mwyn i ni gael orig i grwydro’r dref ac ymweld â thafarn y Royal Oak ar sgwâr y dref. Diddordebau hanesyddol a diwylliannol yr aelodau oedd yn gyfrifol am hyn wrth gwrs!

Dylid nodi yn y fan hon na lwyddodd pob un o’r aelodau i fanteisio ar y ddarpariaeth ddiddorol hon. Am resymau sydd yn wybyddus i ‘jet set‘ y côr yn unig, roedd brys ar yr ‘high flyers‘ hyn i gyrraedd Iwerddon, a Dulyn yn benodol, a wastraffon nhw ddim amser cyn mynd ati i ymlacio a pharatoi eu hunain ar gyfer heriau corawl y penwythnos.

Difyrrwch o fath gwahanol oedd ar gael i deithwyr y bws a’r fferi i Rosslare. Dyfnhawyd ein dealltwriaeth o chwedlau canol oesol y genedl gan ein hysgrifennydd a’n trefnydd teithiau Colin a welodd yn dda i’n hatgoffa o’r cyswllt agos rhwng Cymru ac Iwerddon trwy adrodd hanesion Culhwch, Pwyll a Branwen. Edrychwn ymlaen at ein taith nesaf pan gawn gwblhau gwrando ar y drydedd a’r bedwaredd o geinciau’r Mabinogi!

Yn ôl yr arfer cynhaliwyd eisteddfod lenyddol flynyddol y côr ar y bws a’r fferi ac mae’n bleser gennym gyflwyno’r cynnyrch buddugol isod.

Cystadleuaeth y Frawddeg: CARLOW

Buddugol: Huw Bala a Dai Boobier

Canwn a r(h)annwn lawenydd o’r ŵyl

Cystadleuaeth Y Limrig

Buddugol: Lowri Guy (ein cyfeilydd di-gymar)

Y côr sy’ am fentro i ‘Werddon

A Colin sy’n barod â’i straeon;

Y meic sydd yn boeth

A’r iaith – o mor goeth,

Ond cân fydde’n neis gan ein Seimon.

Y Cwis

Buddugol: Justin Samuel (gyda fawr ddim cymorth gan Hywel Jones)

Cyrraedd Carlow a chyngherddau Nos Wener

Er eu gwawdio uchod roedd y ‘jet set‘ wedi braenaru’r tir i weddill y côr a sicrhau eu presenoldeb yn eglwys gadeiriol Carlow mewn da bryd. Yno cynhaliwyd y cyntaf o ddau gyngerdd nos Wener. Cyfle i gorau o Gymru a’r Alban ystwytho’r corff a chynhesu’r llais ar ôl y teithio.

Ymlaen â ni o’r eglwys i westy’r Seven Oaks ar gyfer noson Gymreig yr ŵyl. Noson lawen o’r iawn ryw oedd hon – canu corawl, canu a dawnsio gwerin, offerynwyr a pherfformiad arbennig gan yr ardderchog Dros Dro, buddugwyr Cân i Gymru eleni ac enillwyr Cân yr Ŵyl yn Carlow yn ogystal.

Dydd Sadwrn 26 Mai – cystadlu a chymdeithasu

Rhaid oedd ymddifrifoli ar gyfer y bore Sadwrn wrth i ni gystadlu mewn dwy o gystadleuthau corawl yr ŵyl – y corau meibion a’r corau agored. Ni fyddem yn clywed y canlyniadau tan yn hwyrach y noson honno felly i ffwrdd i’r dref â ni yn syth ar ôl canu. Roedd strydoedd Carlow yn ferw a Bar Tully’s yn ganolbwynt i’r dathliadau a ddilynodd y cystadlu.

A chafwyd cwmni ambell wyneb cyfarwydd iawn i fwynhau’r cyd-ganu.

Nos Sadwrn- y canlyniadau

Roedd seremoni cyhoeddi’r canlyniadau yn hwyrach y noson honno yng ngwesty’r Seven Oaks yn achlysur ardderchog ac yn ddiweddglo teilwng i’r ŵyl. Dyma roi cyfle i bawb a fu’n rhan o’r gwaith caled yn gynharach yn y diwrnod ail-ymgynnull a chyd-ddathlu llwyddiannau ei gilydd.

Ymfalchïwn yn ein buddugoliaeth yng nghystadleuaeth y corau meibion. Felly hefyd ein perfformiad yn y corau agored yn wyneb cystadleuaeth o’r safon uchaf gan rai o gorau amlycaf Cymru. Llongyfarchwn Gôr Esceifiog ar eu buddugoliaeth a Thaflais ar ddod yn ail.

Steff yn hapus iawn i gael ei afael ar y tlws wrth i’r dathlu barhau.

Dydd Sul 27 Mai – y diwrnod wedi’r noson gynt ac adref

Roedd y trysorydd (Dai) yn ansicr beth i’w wneud â’r wobr ariannol am ennill cystadleuaeth y corau meibion, gwobr a gyflwynwyd iddo mewn arian parod sef, ewros wrth gwrs. Yn sgil cyfarfod (byr) o bwyllgor y côr dyma benderfynu osgoi cymhlethdodau y gyfradd gyfnewid nôl yng Nghymru a phrynu peint o Guinness i bawb! Datrysiad hael a phoblogaidd wrth reswm a wireddwyd yn unig oherwydd blaengaredd a threfnusrwydd ein hysgrifennydd wrth ffonio’r archeb ymlaen llaw.

Colin yn hynod falch o’i waith yn codi peint o Guinness i bawb amser cinio dydd Sul!

Ac fel arwydd o’n gwerthfawrogiad i dafarn y Teach Dolmain fe gyflwynodd y côr raglen o’n hoff ganeuon ac ar yr un pryd ddiddanu’r cwsmeriaid hynny a oedd wedi dod yno yn meddwl eu bod allan am ginio Sul tawel!

A dyna ni, ymweliad cyntaf, llwyddiannus Côr Meibion Taf â’r Ŵyl Ban-Geltaidd. Gyda Lance wrth yr llyw doedd cyrraedd pen y daith byth yn broblem a daeth penwythnos cofiadwy i ben gydag un stop fach arall ar gyrion Rosslare.

Oriel o luniau’r daith i Iwerddon