I goroni blwyddyn brysur arall yn hanes y côr, penderfynwyd troi trwyn bws Dave tua’r gogledd-ddwyrain a mentro cystadlu yn erbyn goreuon y byd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2025. Colin oedd wrth y meic fel arfer a’i baratoadau cyn drylwyred ag erioed. Ond mwy am Lywarch Hen a Iolo Goch nes ymlaen …

Ar ddechrau pob taith mae pawb yn awchus i weld beth fydd tasgau’r ‘Bwsteddfod’ a’r cyfle i arddangos eu doniau barddonol a’u gwybodaeth am bob pwnc dan haul. Wele fuddugwyr y daith ddiweddaraf felly.

Mewn cystadleuaeth ddadleuol (ac amrywiol ei safon yn ôl rhai) cywaith oedd y limrig arobryn gan Huw Bala a Dai Boobier.

I lan afon Dyfrdwy awn yn llu
Gan gymdeithasu a chystadlu;
Yn yr heulwen braf
Bydd Côr Meibion Taf
Yn haeddu cael cyfle i ddathlu.

Pedwar côr meibion oedd yn y gystadleuaeth ar y pnawn Sadwrn – dau o ogledd America, Côr Meibion Machynlleth a ninnau. Mewn rhaglen o gerddoriaeth ddefosiynol, teg dweud mai dyma berfformiad eisteddfodol gorau CMT ers tro a’r profiad o ganu ym mhafiliwn eiconig Llangollen yn un gwerthfawr iawn i’r trigain o leisiau. Ni chipiwyd gwobr ysywaeth ond roedd Steff, ein cyfarwyddwr cerdd, wrth ei fodd. Dyma benllanw cyfnod hir o waith ers y cyfnod clo yn wir, ac mae’r seiliau’n gadarn ar gyfer y dyfodol.

Dyma’r tro cyntaf i nifer fawr o’r côr, gan gynnwys rhai o’r bechgyn sy’n hanu o’r fro, ymweld ag Eisteddfod Llangollen a bu’r gymdeithas ar ôl y cystadlu yn yr heulwen braf ar lannau’r Ddyfrdwy yn arbennig.

Mae CMT yn gwybod sut i fwynhau a phrin yw’r enghreifftiau o’r gyfeddach yn mynd dros ben llestri. Serch hynny, mae ‘na un clawdd (nid un Offa gyda llaw) yng nghyffiniau Premier Inn, Croesoswallt a fyddai’n anghydweld â hyn. Os oes gan unrhywun wybodaeth am yr hyn ddigwyddodd yn oriau mân bore Sul y 13eg o Orffennaf a wnewch chi gysylltu ag aelod o’r pwyllgor os gwelwch yn dda!

Roedd y daith adref ddydd Sul yn ddiwrnod cofiadwy iawn ym mhrofiad pob un ohonom. Croesoswallt i Gaerdydd, gan alw yn Sycharth a’r Fenni ar y ffordd. Mae Colin ar grwsâd i addysgu aelodau CMT am (hen) hanes a llenyddiaeth Cymru. Yn dilyn y daith hon rydym bellach wedi cyrraedd dechrau’r 15fed ganrif (ond dim ond jyst) wedi treulio cyfnod maith y tro hwn yn canolbwyntio ar y 9fed ganrif. Yn dilyn ein taith i’r Hen Ogledd yn 2023 roedd y cyfle y tro hwn i gyflwyno talpau sylweddol o ganu Llywarch Hen a Heledd, a ninnau ar ‘y ffin’, yn ormod o demtasiwn. Serch hynny, roedd cyd-ganu clasur Tecwyn Ifan, Y Dref Wen, yn uchafbwynt teimladwy arall yn ystod ein pererindod.

Yr arwyddbost ar y groesffordd i’r llys. Ond ble mae Sycharth? (Cwestiwn difrifol i Lywodraeth Cymru, Cadw a Chyngor Sir Powys.)

Yn anffodus mae croniclo hanes Cymru yn y cyfnod hwn yn tueddu i’n hatgoffa yn rhy aml am ein colledion yn wyneb y goresgynwyr o’r dwyrain. Fe hoffai ambell aelod o’r côr (a chynrychiolydd llais y baritoniaid yn benodol) ddathlu llwyddiant a buddugoliaethau i’r Cymry ar ein teithiau nesaf os yn bosib, Col?

Er hynny, bydd yr ymweliad â llys Owain Glyndŵr yn Sycharth ar y bore Sul arbennig hwn yn aros yn hir yn y cof. Mawr yw ein dyled i aelodau Cymdeithas Owain Glyndŵr, a Rhian a Bryn Davies yn enwedig, am ein tywys a’n harwain gyda’r fath angerdd ac arbenigedd. Gwych iawn!

‘Ni bydd eisiau budd oseb,

na gwall, na newyn, na gwarth,

na syched fyth yn Sycharth.’

Dyna ganodd Iolo Goch ar ddiwedd y 14eg ganrif wrth iddo ddisgrifio a dathlu cartref ei noddwr, Owain Glyndŵr. Y gwrthwyneb sy’n wir am aelodau CMT pan ddaw’n fater o ddiwallu eu syched! Daeth un arall o deithiau chwedlonol y côr i ben gyda gwledd yng ngwesty’r King’s Arms ac un gân olaf i ddiolch am yr arlwy a difetha prynhawn Sul tawel trigolion Y Fenni ar yr un pryd!

Diolch Steff! Diolch Lowri! A diolch o waelod calon i Colin am drefnu’r cyfan.

A dyma’r oriel gyfan o luniau penwythnos cofiadwy iawn yng ngogledd ddwyrain Cymru.