
Gary Sam
Ei rawg, bu’n un llawn rygbi – yn Gymro,
ei gamre’n ddireidi;
A Rhiwfawr fydd nawr i ni
Yn gaer i goffáu Gary.
Colin Williams
Fore Llun y 18fed o Orffennaf y daeth y newyddion ysgytwol ein bod wedi colli Gary Samuel, un o hoelion wyth Côr Meibion Taf. Roedd Gary wedi brwydro’n ddewr yn erbyn salwch creulon. Gwelir ei golli gan gymaint o bobl mewn cynifer o gymunedau. Estynnwn fel côr ein cydymdeimlad i Beth, Rhodri, Hari, Emily, Natalie a Grace. Cynhaliwyd angladd Gary yng Nghapel y Wenallt, Y Ddraenen, Caerdydd ar y 9fed o Awst a daeth torf enfawr ynghyd i ddweud ffarwel wrth gyfaill arbennig.
Un o gyfeillion pennaf Gary oedd ei gyd-faswr yn y côr, Huw Llywelyn Davies. Cyflwynodd Huw deyrnged deimladwy i’w ffrind mynwesol yn y gwasanaeth.
‘Mae’r olygfa o’r gynulleidfa a’r canu yn y gwasanaeth yn rhyfeddol ac yn dweud cymaint am Gary. Am y deng mlynedd diwethaf roeddwn i a Gary wedi sefyll nesaf at ein gilydd mewn dau gôr gwahanol – Côr Meibion Taf a Chôr Hen Nodiant. Wythnos ddiwethaf roeddem i lawr yn cystadlu yn Eisteddfod Tregaron ac roedd mwy o angerdd yn y canu wrth feddwl bod un o’r hoelion wyth yn eisiau. Roedd ‘na fwlch amlwg yn rhengoedd y baswyr.

Dyn teulu a dyn pobol oedd Gary ac mae’r don o gydymdeimlad i Bethan, Rhodri, Hari, Emily, Natalie a Grace yn dangos pa mor boblogaidd a pha mor werthfawrogol oedd pawb o’i gwmni. Cafodd ei fagu ym mhentref Rhiwfawr, Cwmllynfell wrth droed Mynydd y Gwrhyd. Aeth i Ysgol Ramadeg Ystalyfera lle disgleiriodd am y tro cyntaf fel chwaraewr rygbi. Cafodd gap am ddau dymor yn chwarae i Ysgolion Cymru. Ei bartner y tymor cyntaf oedd Maurice Richards ac yna Keri Jones yn yr ail flwyddyn gyda Gerald Davies yn chwarae yn y canol. Efallai nad Gary oedd y cyflymaf ond dywed Gerald ei fod yn darllen y gêm yn dda a wastad yn y man cywir ar yr amser cywir.

Aeth Gary i Goleg Hyfforddi Cyncoed a gyda Keith Davies ac Eifion Price ffurfiodd yr YOBS – Ystalyfera Old Boys Society! Mae’r grwp yn dal i gwrdd i chwarae golff a chymdeithasu.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf o rygbi dosbarth cyntaf i Lanelli ond symudodd yn fuan i Aberafan ac yna i Lyn Ebwy cyn ymuno â Chaerdydd. Yn anffodus iddo ef a sawl mewnwr arall yn y garfan roedd bachan o’r enw Gareth Edwards yn aelod o’r clwb hefyd! Er hynny, chwaraeodd Gary dros gant o weithiau i Gaerdydd. Yna aeth i chwarae am bum tymor i Bontypridd a chael dylanwad a osododd seiliau i lwyddiant arbennig y clwb yn y cyfnod hwnnw.
Cafodd Gary yrfa ddisglair fel hyfforddwr. Mae sylwadau chwaraewyr yng Nghaerdydd a Ballina, Iwerddon yn tystio i’w ddawn. Roedd yn rhoi hyder i chwaraewyr ac yn eu hannog i wneud yn fawr o’u doniau.
Bu’n athro yn Ysgol Heol y Celyn a Gary oedd yn gyfrifol am sefydlu Dawnswyr Nantgarw trwy annog athrawon i ddechrau twmpath dawns yn yr ysgol.
Roedd Gary yn falch o’i wreiddiau, yn Gymro i’r carn ac yn hynod falch o’i deulu. Bu’n ddiacon yng Nghapel y Tabernacl, Efail Isaf ac roedd ei jôcs a’i sgetsus yn rhan annatod o fwrlwm Clwb y Dwrlyn. Mae Clwb Rygbi Pentyrch yn ddyledus i Gary am ei waith fel cadeirydd dros y ddwy flynedd diwethaf gyda’i wybodaeth eang a’i gefnogaeth i hyfforddwyr a chwaraewyr fel ei gilydd.
Roedd Gary yn ddyn mor gadarnhaol ac er y tristwch a’r galar byddai am i ni i gyd glatshio mlân.’
(Diolch i olygyddion Tafod Elái am ganiatâd i gynnwys y deyrnged hon ar ein gwefan)

