Dydd Mercher, 28 Hydref

Mae Gŵyl Gorawl Carwyn James yn ŵyl gerddorol flynyddol a gynhelir yn rhanbarth Rovigo yng ngogledd-ddwyrain yr Eidal. Sefydlwyd yr ŵyl yn enw Carwyn yn 2023 ac mae’n deillio o’r cyfnod a dreuliodd yn Rovigo yn hyfforddi’r tîm rygbi lleol ar ddiwedd 70au’r ugeinfed ganrif. Daeth Carwyn yn ffigwr chwedlonol yn y rhan hon o’r byd yn ystod y cyfnod hwnnw a byddai nifer yn dadlau iddo gael ei anrhydeddu yn yr Eidal mewn modd nas caniatawyd iddo yn ei wlad ei hun.

Mae’r ŵyl yn ehangach yn dathlu cysylltiadau diwylliannol a cherddorol rhwng Cymru a’r Eidal ac eleni braint ac anrhydedd Côr Meibion Taf oedd derbyn y gwahoddiad i deithio a pherfformio yn y Veneto. Yn blygeiniol felly ar fore Mercher yr 28ain o Hydref ymgasglodd rhyw 90 ohonom, 60 o gantorion ynghyd â 30 o gefnogwyr teuluol, ar gyfer y daith o Gaerdydd i Heathrow ac ymlaen i Venezia.

Dydd Iau, 29 Hydref

‘Full-on‘ oedd ymateb y rhan fwyaf ar ôl dychwelyd adref pan ofynnwyd sut daith fu hi! Pum niwrnod, pedair noson yng ngwesty’r Freuddwyd Las ar gyrion tref hyfryd Monselice, rhyw awr i’r de o Venezia, a thri chyngerdd mewn tair noson yn olynol ar draws y rhanbarth. Doedd dim modd cyrraedd lleoliad y cyngerdd cyntaf heb yn gyntaf ymweld â chartref clwb rygbi Rovigo, y ‘Stadio Mario Battaglini‘. Nid gêm yn unig yw rygbi yn Rovigo, mae’n ffordd o fyw ac yn greiddiol i ddiwylliant y dref a’r ardal. Dim syndod i gyn-hyfforddwr Llanelli deimlo mor gartrefol yma.

Ymlaen â ni i’r cyngerdd cyntaf yn Pieve di Cento ger Bologna. Afraid dweud pa mor ysblennydd oedd y tair eglwys lle cynhaliwyd y cyngherddau ar y daith a doedd y Collegiata Santa Maria Maggiore ddim yn eithriad. Gydol yr wythnos cawsom y cyfle i rannu’r llwyfan gyda chorau lleol, bu ymateb y cynulleidfaoedd yn ddieithriad yn gynnes a brwd a’r cymdeithasu ar ôl y cyngherddau yn hael ac yn ddathliad o ganu ‘anffurfiol’ yn yr Eidaleg a’r Gymraeg fel ei gilydd.

Dydd Gwener, 30 Hydref

Roedd hi’n oriau mân y bore arnon ni’n cyrraedd nôl i’r gwesty yn dilyn y cyngherddau felly digon hamddenol oedd y boreau. Cyfle i ymlacio, crwydro strydoedd Monselice, coffi a chinio cynnar cyn ailafael yn y teithio a’r perfformio. Ar ein ffordd i Taglio di Po ger Rovigo trefnwyd i ni dreulio ychydig oriau yn ninas Padova. A fydd hi’n synnu neb i glywed i ni wneud cysylltiad Cymraeg a Chymreig arbennig yno. Gyda chymaint o Gardis yn aelodau o gymuned CMT bant â ni i’r Goppion Caffetteria ar y Piazza delle Erbe am ein te a chacen prynhawnol. Pam? Achos mai Llinos o Beulah, Ceredigion sydd yn rhedeg y caffi gwych hwn. Grazie mille Llinos!

Mae Taglio di Po yn sefyll ar lannau’r afon Po. Dyma afon hiraf yr Eidal ac fe ddaw i ben mewn delta sy’n llifo i fôr yr Adriatig ychydig i’r de o Venezia. Ein braint oedd rhannu’r llwyfan gyda Coro Voci del Delta (Côr Lleisiau’r Delta) a derbyn unwaith eto groeso twymgalon ynghyd â thlws a gaiff le amlwg ar silff ben tân ein cyfarwyddwr cerdd.

Dydd Sadwrn, 31 Hydref

Mae gan ddiwrnod Calan Gaeaf arwyddocâd arbennig i ddilynwyr rygbi yng Nghymru. Ar y diwrnod hwn yn 1972 curwyd Seland Newydd gan Lanelli, 9-3, ar Barc y Strade. Carwyn yn arwain ei glwb i fuddugoliaeth flwyddyn ar ôl hyfforddi’r Llewod ar eu taith hanesyddol yn Seland Newydd yn 1971. Hwn hefyd yw’r dyddiad y bu farw un o ‘ddisgyblion’ mwyaf Carwyn, Ray Gravell, yn 2007. Daeth geiriau anfarwol Dic Jones i’r cof y prynhawn hwnnw wrth i ni baratoi ar gyfer y daith i’n trydydd cyngerdd: ‘Yn Salem y gêm a’r gân, mae’r cof am Gymro cyfan.‘

Treuliwyd y prynhawn mewn dinas wych arall, Ferrara, cyn anelu am Zola Predosa ger Bologna. Lleoliad gwledig am a welem yn y tywyllwch, ond eglwys odidog arall. Cyfoethogwyd y profiad yn fawr y noson honno gan bresenoldeb Llŷr James, nai Carwyn, yn y gynulleidfa. Siaradodd yn deimladwy am ei ewythr gan bwysleisio pwysigrwydd cysylltiad Carwyn â’r rhan hon o’r Eidal a’r modd y cedwir y cof amdano’n fyw gan yr ŵyl gorawl.

Dydd Sul, 1 Tachwedd

A dyna ni! Does dim gwobrau am ddyfalu lle treulion ni ddiwrnod olaf y daith cyn hedfan adref. Parhaodd yr haul i wenu arnom yn Verona a ninnau wedi hen arfer erbyn hyn ag awyr las gogledd-ddwyrain yr Eidal. Wele’r teithwyr i gyd gyda’i gilydd yn y llun isod a bu’n rhaid bodloni y tro hwn ar ganu Hen Wlad fy Nhadau y tu allan i furiau’r Coloseum. I’r llwyfan y tro nesa efallai …

Cofnodwn ein holl grazie mille i bawb a fu ynghlwm â threfnu a sicrhau bod hon yn daith a fydd yn parhau’n hir iawn yn y cof. Pwy a ŵyr na ddychwelwn ni rywbryd yn y dyfodol i ganu unwaith eto er cof am Carwyn James?

Arrivederci Rovigo!