Tlws Ieu Aman
Mae nifer o golffwyr brwd a thalentog yn aelodau o’r côr. Yn flynyddol bellach byddant yn ymgiprys am Dlws Ieu Aman (Ieuan Davies, un o is-lywyddion anrhydeddus y côr) a ddyfernir i olffiwr mwyaf cyson y tymor. Ar ffriddoedd a lawntiau cwrs golff Creigiau ar fore 30 Hydref y seliwyd tynged y tlws am 2023. Wele Huw Llywelyn Davies yn derbyn ei wobr gan ddeiliad cyntaf y tlws, Goronwy ‘Gogs’ Jones.
Diwrnod Golff Mwni
Dyma lun o’r criw ddaeth at ei gilydd i chwarae cwrs Parc Cottrell ar 18 Ebrill 2023. Diwrnod Golff Ben ‘Mwni’ Davies – tenor a golffiwr!
Llawer o hwyl ar ddiwrnod bendigedig: Ieu ‘Piano’ Jones yn fuddugol, Huw Llywelyn Davies yn ail ac Eric Dafydd yn drydydd.
Y daith i’r Alban (Chwefror 2023)
Gwawriodd bore Gwener ar Ynys Bute ac i ffwrdd â’r golffwyr am rownd ar gwrs Port Bannatyne. Cwrs heriol yn ôl y sôn a’r gystadleuaeth yn un ffyrnig yn enwedig gan fod Tlws Cymdeithas Golff CMT yn y fantol am y tro cyntaf (gweler uchod). Er mawr lawenydd i bawb, gan gynnwys ei gyd-olffwyr, y buddugwr a deiliad cyntaf y tlws newydd hwn oedd Goronwy ‘Gogs’ Jones.