
Braint fawr i Gôr Meibion Taf oedd derbyn gwahoddiad i gymryd rhan yng ngwasanaeth angladdol Terry Yorath yn Leeds ar 26 Ionawr. Bu farw cyn gapten a rheolwr tîm pêl-droed Cymru yn dilyn salwch byr yn gynharach yn y mis yn 75 oed. Bachgen o Gaerdydd oedd Terry ond ymgartrefodd yn Leeds yn ddyn ifanc er mwyn dilyn ei yrfa bêl-droed. Er hynny ni phallodd ei falchder o fod yn Gymro na’i ymrwymiad i Gymru. Cynrychiolodd ei wlad 59 o weithiau rhwng 1969 a 1981 cyn mynd ymlaen i reoli y tîm cenedlaethol rhwng 1988 a 1993. Roedd hi’n briodol felly mai côr meibion Cymraeg o Gaerdydd gafodd yr anrhydedd o gyflwyno’r eitemau cerddorol yn y gwasanaeth.

Gyda baner y ddraig yn hawlio lle amlwg yn Eglwys Babyddol The Immaculate Heart of Mary cludwyd yr arch i’r eglwys i gyfeiliant Hen Wlad fy Nhadau. Mewn gwasanaeth hynod ystyrlon a theimladwy yr emyn cyntaf oedd Cwm Rhondda. Aeth y côr yn ei flaen i gyflwyno Ar Hyd y Nos ac yna Danny Boy, er cof am Daniel, mab Terry a fu farw’n ddisymwth yn 1992 ac yntau ond yn 15 oed. Daeth y gwasanaeth i ben gyda You’ll Never Walk Alone, cân sydd nid yn unig yn gysylltiedig â chlwb pêl-droed Lerpwl ond hefyd â thrasiedi y tân yn Valley Parade, cartref Bradford City. Lladdwyd 56 o gefnogwyr y diwrnod hwnnw ym mis Mai 1985 ac anafwyd Terry wrth iddo geisio achub cefnogwyr o’r fflamau. Mynychodd Terry bob un o’r 56 angladd.

Mewn derbyniad yn stadiwm Elland Road, cartref Leeds United, roedd cyfle gwerthfawr i aelodau’r côr gwrdd â’r teulu a’u ffrindiau a rhannu atgofion am un o arwyr pennaf y bêl gron yng Nghymru. A chyn y daith hir nôl i Gaerdydd roedd un cyfle arall i ddathlu bywyd Terry Yorath mewn cân. Gyda Blaenwern a Gwahoddiad daeth clo ar ddiwrnod a fu’n orchwyl trist ond yn brofiad bythgofiadwy a’r cwlwm rhwng De Cymru a Swydd Efrog nawr yn dynnach fyth.

Dilynwch y ddolen hon i weld oriel o luniau o’r diwrnod bythgofiadwy hwn.