
Dydd Sadwrn 6 Mehefin: Bryn y Briallu, Piccadilly a Soho
Braint ac anrhydedd fawr i’r côr eleni oedd derbyn gwahoddiad i gymryd rhan yng Ngŵyl Corau Meibion Cymry Llundain ar benwythnos cyntaf mis Mehefin. Cymaint oedd y diddordeb ymhlith yr aelodau a’u partneriaid fel y bu’n rhaid llogi dau fws i’n cludo i ben arall yr M4. Ac yn ôl yr arfer fe gafwyd yr amrediad arferol o weithgareddau amrywiol i’n diddanu ar hyd y daith.


Ac o wneud yr ymdrech i fynd yr holl ffordd i Lundain pam lai na mynd ddiwrnod o flaen llaw a manteisio ar yr hyn sydd gan y ‘ddinas ddrwg’ i’w gynnig? Anelwyd trwyn y bysiau at Fryn y Briallu i ddechrau pethau. Pam hynny felly? Mae’n 200 mlynedd ers marwolaeth y cymeriad unigryw hwnnw, Iolo Morganwg ac ar Fryn y Briallu yn 1792 y cynhaliwyd seremoni gyntaf yr Orsedd dan arweiniad y bardd o Sir Forgannwg. Yn 2009 gosodwyd cofeb ar y bryn i Iolo ac mewn digwyddiad a drefnwyd gan Rhian Medi ymgasglodd Côr Meibion Taf i gofio Iolo a chanu Gweddi’r Orsedd fel rhan o’r dathliad.

Gyda llifoleuadau maes criced Thomas Lord yn disgleirio tua’r gorllewin ac yn awgrymu nad oedd llawer o ddiben mynd draw i drydydd diwrnod y gêm rhwng Lloegr a Seland Newydd, fe’n cludwyd yn feistrolgar i ganol y ddinas, Piccadilly yn wir, ac i’n llety am y noson. Gysgoch chi erioed mewn pod, cocŵn neu gapsiwl? Na ninnau chwaith cyn yr antur hon. Roedd trefnydd y daith wedi ein argyhoeddi bod y cysyniad pell-ddwyreiniol hwn o ‘gysgu’ yn rhywbeth y dylem ei ystyried o ddifrif. Pa ffordd arall wedi’r cyfan, y caem orffwys reit yng nghanol Llundain a hynny am bris rhesymol? Yn llawn awydd, a pheth pryder, mae’n siwr, fe’n harweiniodd i lety Zedwell a chaiff y gweddill ei ffeilio yn y cwpwrdd sydd yn cadw hanesion ‘yr hyn sydd yn digwydd ar daith côr meibon ac a gaiff aros yno’.
Fe adawn ni’r gair olaf ar y pwnc i Alafon, awdur un o’n henglynion mwyaf adnabyddus:
Nid hawdd yw myned iddo – ar nos oer,
Er cael cryn swm arno;
Wir, mae hi’n dasg drom, ond O!
Hanes y dod ohono!

Doedd treulio awr neu ddwy yn ymlacio, adolygu geiriau’r caneuon yn ein ‘hystafelloedd’ ddim yn opsiwn felly yn y traddodiad corawl gorau aed ati’n ddiymdroi i iro’r llwnc a chynhesu’r lleisiau gan ddifyrru ymwelwyr y penwythnos â Soho ar yr un pryd. Mawr oedd eu gwerthfawrogiad. Gyda phryd o fwyd Tseiniaidd arobryn yn Chinatown daeth diwrnod cyntaf y daith i ben.
Mae aelodau Côr Meibion Taf, ar y cyfan, yn rhai disgybledig a chydwybodol ac er y nerfusrwydd ynglŷn â dychwelyd i’r cocŵn, myned yno oedd raid a gobeithio am y gorau. Roedd yr ail ddiwrnod ar wawrio a’n gorchwyl yn fawr.

Am oriel gyflawn o luniau dydd Sadwrn dilynwch y ddolen hon.
Dydd Sul 7 Mehefin: Neuadd Albert
Rhyddhad mawr oedd derbyn cadarnhad i bawb oroesi’r noson yn y pod / cocŵn / capsiwl. Gwawriodd bore Sul yn llawn addewid a chyffro ac i ffwrdd â ni ar fws, tiwb neu dacsi du i un o’r neuaddau cyngerdd mwyaf eiconig ar wyneb daear. Roedd gan bawb wrth gwrs ei ddull personol o baratoi ar gyfer y diwrnod mawr, diwrnod a olygai rhyw chwech awr o ganu i gyd rhwng yr ymarfer a’r perfformiad.



Cafwyd bore o dynnu lluniau, prynhawn o ymarfer gyda Cherddorfa Siambr Cymru dan arweiniad Edward-Rhys Harry cyn dychwelyd i’r llwyfan erbyn 6:00 ar gyfer y perfformiad. A dyma benllanw bythgofiadwy, gwefreiddiol a chwbwl deilwng wrth i flwyddyn o waith caled iawn dalu ar ei ganfed. Mae’n diolch fel arfer i Steff a Lowri am ein paratoi’n dda ar gyfer y gyngerdd ac fe gawson nhw gyfle haeddiannol i ymlacio wrth i ni gantorion chwysu!

Wnaiff neb anghofio’r noson hon wrth i bawb yn y neuadd ymuno i gydganu rhai o’n hoff emynau cyn coroni’r achlysur gyda datganiad gorfoleddus o Hen Wlad fy Nhadau. Codwyd y to a Neuadd Albert wedi ei thrawsnewid yn Wlad y Gân am un noson arbennig iawn.
Mae’n diolch yn fawr i Irfon Bennett am gofnodi’n fanwl a gofalus y penwythnos ar ei hyd â’i gamera. Am oriel gyflawn yr ail ddiwrnod, dydd Sul dilynwch y ddolen hon.
