Dydd Sul 12 Chwefror 2023

Y daith adref

Cafwyd taith adref oedd yr un mor hwylus â’r un i fyny i’r Alban dridiau ynghynt. Parhau wnaeth y tasgau, y cwisio a’r gwobrwyo …

Canlyniadau hap-chwarae John Llanboidy

Golygydd y wefan (HJ2) am y cais cyntaf – George Turner (Bachwr yr Alban)
Steff am seren y gêm – Fin Russell (pwy arall?)
Huw Eic am y cyfanswm pwyntie – 42

Heb anghofio Emlyn ‘Pens’ Jones nad oedd yn sylweddoli ar y pryd taw fe oedd â sgoriwr cais ola’r gêm (Fagerson)!

Pens (chwith) yn rhagweld ei lwyddiant yn yr hap-chwarae CYN y gêm!

A dyna ni, ‘daeth i ben deithio byd’. Mae’n diolch ni fel aelodau o Gôr Meibion Taf i bawb gyfrannodd at lwyddiant taith gofiadwy ond yn enwedig i ddau unigolyn:

Dave – y gyrrwr rhadlon a medrus
Colin – ein hysgrifennydd a’n trefnydd ni oll
TAN Y TRO NESAF!