Dydd Gwener 10 Chwefror 2023
Diwrnod y cyngerdd ar Ynys Bute
Gwawriodd bore Gwener ac roedd gennym ddewis – ymuno â’r golffwyr am rownd ar gwrs Port Bannatyne neu fynd ar wibdaith o gwmpas yr ynys.
Y golff:
Cwrs heriol yn ôl y sôn a’r gystadleuaeth yn un ffyrnig yn enwedig gan fod Tlws Cymdeithas Golff CMT yn y fantol, tlws newydd a gyflwynwyd i’r côr gan ein his-lywydd, Ieuan Aman Davies. Er mawr lawenydd i bawb, gan gynnwys ei gyd-olffwyr, y buddugwr a deiliad cyntaf y tlws newydd hwn oedd Goronwy ‘Gogs’ Jones.
Y wibdaith
Tra’r oedd y golffwyr wrthi yng Nglwb Golff Port Bannatyne, daeth y gweddill ohonom i adnabod yr ynys mewn dull mwy hamddenol, a hynny yng nghwmni yr annwyl Iain Mcleod, cyn bennaeth adran ddaearyddiaeth yr ysgol uwchradd leol.
Y cyngerdd
Ac felly at brif nod yr ymweliad hwn ag Ynys Bute, sef y cyngerdd mawreddog yn Mount Stuart House y noson honno. Treuliwyd y prynhawn yn cael ein tywys o gwmpas y plasdy rhyfeddol hwn ac yn cael ein hatgoffa gan yr enwau, y bensaerniaeth a’r hanes o’r cysylltiadau agos iawn sy’n bodoli rhwng yr ynys a Chaerdydd a De Cymru.
Mae’r oriel gyfan o luniau Plasdy Mount Stuart i’w gweld yma.
Braint Côr Meibion Taf oedd rhannu’r llwyfan mewn noson o gerddoriaeth gyda Chôr Ballianlay a Band Cymunedol Bute. Llanwyd y Neuadd Farmor gyda chynulleidfa leol a gwerthfawrogol oedd yn hael iawn eu canmoliaeth. Codwyd y to pan ymunodd y ddau gôr a’r band mewn perfformiadau gwefreiddiol o anthemau y cefndryd Celtaidd: Hen Wlad fy Nhadau a Highland Cathedral.
‘The feedback from Friday night’s concert is totally overwhelming on the island … on leaving for the mainland yesterday it was all about Friday night at Mount Stuart! ‘(Jim Bicker, Mount Stuart House)
Ac i ddilyn …
A pharhau a wnaeth y noson nôl yn Rothesay yn y Taverna clyd a chroesawgar. Rhai o aelodau’r côr yn awyddus i arddangos eu doniau cerddorol amgen: