Dydd Iau 9 Chwefror 2023
Y daith i Ynys Bute
Gadawon ni Gaerdydd yn blygeiniol ar ddechrau taith o rhyw 430 o filltiroedd.
Gwibiodd yr oriau a’r milltiroedd heibio wrth i aelodau CMT (ac ambell eilydd hwyr) ymgiprys am wobrau hael drwy ymateb i heriau niferus ein hysgrifennydd a threfnydd y daith Colin ‘Top Tenor’ Williams.
Brawddeg ar y gair CALEDONIA: yn fuddugol Gwyn Hughes Jones:
‘Cefais aml labswchad efo Delilah ond nawr ‘in absentia”.
Limrig yn cynnwys y llinell ‘Ar y bws yr holl ffordd i’r Alban’: Dai Boobier yn fuddugol
‘Ar y bws yr holl ffordd i’r Alban
Roedd llawer o gonan a thuchan
Ar ôl hwyl a sbri
Distawrwydd a fu
A nifer o’r bois yn pendwmpian!’
Dyma feirniaid y gystadleuaeth arlunio. Y dasg oedd llunio portreadau ohonynt ill dau! (Mae’r cynnyrch i gyd bellach ar fenthyg i’r Guggenheim, Bilbao tan ddiwedd y ganrif.)
Cyn pen dim roeddem wedi croesi ffiniau Cymru a Lloegr a chyrraedd yr Hen Ogledd (mwy am hynny yng nghofnod bore Sadwrn y daith). Cafwyd taith hwylus dros ben tuag at Glasgow a thu hwnt ar hyd glannau’r Afon Clyd i borthladd Wemyss Bay. Gan fod rhyw awr fach i’w lladd dyma daro ar draws sefydliad croesawgar tu hwnt yn yr orsaf reilffordd sydd yn gwasanaethu’r porthladd. Cyfle cynta’r daith felly i ymarfer rhai o ganeuon y penwythnos a diddanu’r trigolion lleol ar yr un pryd.