Dydd Sadwrn 10 Chwefror 2023

Ar ôl llwyddiant ysgubol y cyngerdd ym Mhlasdy Mount Stuart a’r dathlu haeddiannol yn y ‘Taverna’, ymlaen â’r daith fore Sadwrn i Gaeredin. Roedd ail berfformiad i’w gyflwyno yng nghlwb rygbi Stewart’s Melville amser cinio cyn mynd am Murrayfield ac ail gêm Cymru yn y 6 Gwlad eleni.

Ffarwelio â Rothesay ac ynys Bute

Y Daith i Gaeredin

Treuliwyd y cwta ddwy awr yn teithio o arfordir y gorllewin i’r brifddinas yn ail-fyw profiadau bythgofiadwy y noson gynt tra’n paratoi ar yr un pryd am her y diwrnod o’n blaenau. I’n cynorthwyo yn y dasg hon fe’n tywyswyd yn ôl i ddechreuadau y traddodiad barddol Cymraeg a hynny ar ffurf darlith / rhyfelgri gan ein harweinydd a’n pencerdd yn wir, Colin ap Gwilym. Fe’n hudwyd yn llwyr yn ôl i Gatraeth a’r Hen Ogledd gan ddawn y cyfawydd hwn.

Mwynhewch chithau nawr ddarllen y campwaith hwn a pha ryfedd i ni wedyn gael ein hysbrydoli ar gyfer gweddill y daith. (Trueni na wnaeth Warren gael gafael ar gopi!)

Clwb Rygbi Stewart’s Melville

Roedd hwn yn gyfle arbennig i godi’r canu cyn y gêm ryngwladol. Sefydlwyd y clwb yn Inverleith yn 1875 a dyma lle’r adeiladwyd y maes rhyngwladol cyntaf yn y byd. Dyma lle chwaraeai’r Alban eu gemau rhyngwladol rhwng 1899 a 1925 gan gynnwys wynebu Seland Newydd a Ffainc am y tro cyntaf erioed. Profwyd croeso gwresog, roedd y clwb dan ei sang a’n braint oedd perfformio i gynulleidfa yn cynnwys, ymhlith eraill, aelodau o Gymdeithas Gymraeg Caeredin.

Y pibydd yn ein tywys yn y dull traddodiadol
Cwm Rhondda
Flower of Scotland

‘It was fantastic to host you and the other members of the choir at Inverleith on Saturday – my vice president (Simon) was just about in tears of emotion during the choir’s warm up, and the emotion just ramped up from there! Easily one of the best social events we have ever hosted at the clubhouse! You and all the members of the choir are an absolute credit to Wales and we would be honoured to host you again in two years’ time.’

(Bill McNie, Llywydd Clwb Rygbi Stewart’s Melville) 

Murrayfield: Yr Alban 35 Cymru 7

A ninnau wedi cyflawni ein gorchwyl olaf roedd cryn edrych ymlaen at ymlacio a mwynhau gêm dda o rygbi. Roedd swyddogion Stewart’s Melville wedi sicrhau bloc o seddi i ni gael eistedd gyda’n gilydd. Ond y fath siom! Och a gwae!

‘Ac wedi elwch, tawelwch (cymharol) fu …’