Parti ffarwel Geraint Thomas yng Nghastell Caerdydd
Prynhawn dydd Sul, 7 Medi 2025
Roedd CMT yn falch iawn o’r gwahoddiad i gyfarch Geraint mewn cân wrth iddo ddod â’i yrfa fel seiclwr proffesiynol i ben yn ei ddinas enedigol. Mae perthynas agos wedi datblygu rhwng Ger a’r côr dros y blynyddoedd diwethaf ac roeddem wrth ein bodd i rannu’r achlysur hwn yn ei gwmni.










































