Mae CMT wedi bod yn ffodus iawn dros y blynyddoedd diwethaf i allu manteisio ar y berthynas agos sydd wedi datblygu rhyngom â Geraint Thomas, y beiciwr o Gaerdydd ac un o’r athletwyr mwyaf a gynhyrchodd Cymru erioed. Daeth gyrfa broffesiynol Geraint i ben yn gynharach eleni ac roeddem yno i’w groesawu yng Nghastell Caerdydd ar ddiwedd ei ras olaf ym mis Medi.

Nos Sul, 16 Tachwedd fe gynhaliwyd parti ymddeoliad i Geraint yng Nghanolfan y Mileniwm ac roedd CMT yno unwaith eto i rannu yn y dathliadau. Diolch am y cyfleoedd Geraint ac ymddeoliad hapus i ti!

Dyma oriel o luniau o’r noson gofiadwy yn y Bae.