- Rho grynodeb i ni o’th gefndir a’th hanes.
Yn enedigol o bentre’ Brynaman yn Nyffryn Aman, ar un adeg yn un o gadarnleoedd y diwydiant glo caled. Yr hen enw ar y lle oedd Y Gwter Fawr; y Gwter yn tarddu o’r Gorsgoch Ucha’ ar Wauncaegurwen ym mhlwyf Llan-giwg yn Sir Forgannwg ac yn rhedeg i lawr heibio’r Castell dros lethrau Twyn-y-cacwn trwy Gilfach Pant-yr-hala, heibio’r Croffte i afon Aman.
Yn nhafarn y Farmers gerllaw y treuliodd George Borrow noson ar ei daith o gwmpas Cymru yn 1854. Cyrhaeddodd y pentre’n wlyb i’r cro’n, wedi cerdded rhyw ugain milltir o Lanymddyfri dros y Mynydd Du. Ro’dd hi’n noson i gwtsho o fla’n y tân! Yn ei gyfrol Wild Wales, ‘the Inn at Gutter Fawr’ o’dd disgrifiad Borrow o’r Farmers ond ro’dd e’n llawn canmoliaeth o’r croeso, y gwmnïaeth a’r pryd bwyd a ddarparwyd o gig llo, bacwn a thatws. Wedi gwledda, treuliodd awr neu ddwy o fla’n y tân, a alle fod wedi twymo byddin, yn clebran ‘da’r trigolion am hanes y rhyfel yn y Crimea.
‘Y Gwter Fawr’ o’dd non de plume y prifardd lleol Watcyn Wyn yng nghystadleuaeth y Gader yn Eisteddfod y Byd yn Chicago yn 1893. Arwrgerdd i George Washington o’dd y testun. Gwahoddwyd y prifardd Hwfa Môn i groesi Môr Iwerydd i feirniadu ac i gyfieithu’r cerddi Cymraeg i’r beirniaid Americanaidd. Cyn dechre ar y gwaith gofynnwyd am eglurhad o’r enw ‘Y Gwter Fawr’. Ystyriodd Hwfa Môn yn ddwys am rai eiliade cyn ateb: “Well, gentlemen, translated into English, I suppose it could be ‘The Grand Canyon’!”
Ro’dd bywyd ym Mrynaman yn y 50au a’r 60au yn nefoedd ar y ddaear gyda hanner cant o siopau a busnesau ar Hewl Stesion a’r unig reswm am fynd i drefi cyfagos Ystalyfera a Rhydaman o’dd i brynu car, celfi neu wisg briodas. Ac o fewn tafliad carreg i’r hewl ro’dd yna bwll nofio agored, ca’ rygbi (lle enillodd Iwan Guy y wobr gynta’ yn yr Unawd i Fechgyn dan 18 yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn 1963), sinema foethus (sy’n dal ar agor ac yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr) a dwy stesion – un yn berchen i’r LMS a bwffiai ei ffordd i Abertawe heibio i Gwmllynfell, Cwmtwrch, a phentrefi Cwm Tawe a’r llall yn berchen i gwmni’r GWR yn teithio i Lanelli neu i Abertawe. Y rheilffordd hon, nôl ar ddechre’r 30au, oedd y rheilffordd trac sengl brysura’ YN Y BYD yn sgil cytundeb â Nestle o’dd am archebu tun Dyffryn Aman ar gyfer eu canie condensed milk. Bellach mae’r safleoedd wedi’u gorchuddio â drain a mieri.
Y ca’ criced ar waelod ein hewl ni, Bryn Avenue, oedd stadiwm ein breuddwydion – yn rhoi cyfle i ni’r bechgyn efelychu campau’r cewri. Ond nid Ivor Allchurch, Terry Davies neu Allan Watkins oedd ein harwyr ond y sêr lleol sef Ossie Bach, John Elgar, Raymond Jones o fyd rygbi a’r cricedwyr Tyssul Thomas, Wil Shyfalo, Ken Pugh ac Eurfyl Williams. Roedd bod yn deyrngar i dîmau’r pentre’ yn fater o bwys! Canlyniadau Brynaman oedd yn mynd â’n bryd ni’n llwyr, a’r gêmau yn erbyn Cwmllynfell, yr Aman a Chwmgors yn ymdebygu i ornestau rhyngwladol. Roedd clywed fod Cymru yn aflwyddiannus mewn gêm yn Twickers yn siom, ond roedd darllen yn y Sporting Post for Brynaman wedi colli gêm oddi cartre’ yng Nghydweli yn drasiedi!
Yn naturiol, ro’n i’n gwrando ar ddigwyddiadau ar y wireless: cofio clywed llais Alun Williams yn sylwebu ar fuddugoliaeth yr oifadwraig (nofwraig) Judy Grinham yn Melbourne yn 1956, a llais GV Wynne Jones yn cyrraedd crescendo pan sgoriodd Onllwyn Brace mas yn Nulyn yn 1960. Rhaid pwysleisio mai trafaelu i Barc y Strade, y Gnoll neu Sain Helen y bydden ni i gefnogi bois Brynaman o’dd yn ‘ware ar permit, ac nid yn uniongyrchol i gefnogi’r tîmau dosbarth cyntaf.
Y ca’ criced, o fewn ergyd Garfield Sobers i ddrws ffrynt ein tŷ ni, o’dd yn benna’ cyfrifol mod i wedi tangyflawni mewn arholiadau. Gan ddishgwl nôl fe dreulies i, a rhyw ugen o ffrindie, lawer gormod o amser ar y darn tir o’dd i ni yn Wembley a Pharc yr Arfau yn y gaea’ a Lord’s a Sain Helen yn ystod yr haf.
Ro’dd rhywbeth reit gyntefig am Ga’ Criced Brynaman. Do’dd yna ddim trydan na chyflenwad dŵr yn yr adeilad. Roedd y diffyg cyfleusterau yn boen i’r chwaraewyr o’dd yn chwys ac yn snobs ar ddiwedd y chwarae. Mae’n rhyfedd nad oedd yr hen bafiliwn streipiog gwyrdd a gwyn wedi llosgi’n ulw gan fod y mwyafrif o gricedwyr y cyfnod yn ddibynnol ar eu Woodbines a’u Senior Service am ysbrydoliaeth cyn camu mas i’r llain i fatio. Yn amal, wrth ymweld ag Amgueddfa Werin Sain Ffagan, dwi’n dychmygu gweld y Pafiliwn wedi’i osod rhywle rhwng Rhydycar a’r Talwrn Ymladd Ceiliogod!
Pan o’n i fel criw o gryts ifanc yn hynach ac yn derbyn y cyfrifoldeb o werthu pop a chrisps adeg gemau ro’dd yna duedd i ddefnyddio ambell un o’r poteli bychain Vimto neu Cream Soda fel meicroffon a bwrw ati i sylwebu. Rhyfedd cofnodi fod tri o gyw sylwebyr y Ca’ Criced wedi bod wrthi’n ddiweddarach yn darlledu ar ystod o gampau ar y tonfeydd radio gyda Bleddyn Jones yn sylwebu ar dros fil o gemau rygbi i BBC Radio Caerlyr ac Alun Tudur (Tuds) Jenkins wedi bod wrthi am bron i hanner can mlynedd yn llywio digwyddiadau ar BBC Radio Cymru a Radio Wales.
Roedd Brynaman yn cael ei ystyried yn un o’r pentrefi mwya’ diwylliannol yng Nghymru – Aelwyd Amanw yn gatalydd i gant a mil o weithgareddau; y cwmni drama, y cwmni Noson Lawen, corau niferus, a phartïon dawnsio gwerin yn cynnal safonau uchel yn lleol a chenedlaethol. Bu’r chwe chapel yn cynnal y ‘pethe’ am flynyddoedd lawer – y Band of Hope, y Gymdeithas Bobol Ifanc, ac Eisteddfod Capeli Brynaman yn golygu fod drysau’r adeiladau crefyddol ar agor bron bob awr o’r dydd. Roedd yr extravaganza blynyddol yn para pedwar diwrnod; y sinema leol â lle i fil i ishte’n gyfforddus a’r cystadlu yn dod â’r gore a’r gwaetha’ mas o bawb. Do, fe ges i ac eraill gyfle i berfformio’n gyhoeddus am y tro cynta’ ac yn hynod ddiolchgar fod cymaint o drigolion y pentre’ wedi rhoi o’u hamser yn ddi-dâl ac yn aml yn ddi-ddiolch.
Yn dilyn cyfnodau mewn ysgolion a choleg bu’n amser ffarwelio a symud i ardaloedd eraill. Cofiwch, ta pryd mae rhywun yn gofyn, “O ble dy’ch chi’n dod?’ dwi’n dal i ateb……Brynaman ac yn dal i ymweld rhyw deirgwaith y mis i gyfarfod â ffrindie bore oes.
- Beth yw dy atgof cynharaf?
Ishte ar garffed Mam-gu (ochr mam), Maggie Williams, a’i chlywed yn sôn am ei brawd Jac Elwyn, asgellwr clou a thwyllodrus i Abertawe a Llanelli, a enillodd un cap i Gymru yn 1924 yn erbyn yr Alban yng Nghaeredin. Aeth yn ei flaen i lofnodi cytundeb proffesiynol â Broughton Rangers ym Manceinion. Yn bedair oed des i ‘wbod pob dim amdano yn cynnwys un gêm ar y Strade pan ‘waraeodd e yn erbyn un o fawrion byd y bêl hirgron, y cefnwr cawraidd George Nepia o Seland Newydd. Gyda llaw, roedd mam-gu yn hen fam-gu i un o hoelion wyth y gamp, sef Shane Williams.
- Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Di-glem â DIY (ar gyfer y darn hwn mae DOITYOURSELF yn un gair!)
- Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?
Rhestr fer o DRI:
- Mynydd y Gwrhyd yng Nghwm Tawe
- Petra yng Ngwlad yr Iorddonen
- Y golygfeydd ar yr hewl o Mendoza drwy’r Andes.
Mynydd y Gwrhyd.
Ychydig iawn o Gymry sy’n gwybod am fodolaeth yr ardal. Mae hyd yn oed tirfesurwyr yr Ordnance Survey wedi anwybyddu’r darn tir hudolus rhwng Rhyd-y-Fro a Chwmllynfell. Ar ôl cyrraedd Cefn-bryn-brain (pentre’ genedigol y diweddar Brifardd Watcyn Wyn a’r Athro Derec Llwyd Morgan) o gyfeiriad Brynaman, ewch mla’n heibio Ochr-y-Waun i Gwmllynfell. Gyferbyn â Neuadd Les y Glowyr neu Hall Cwmllynfell, mae yna lôn fach yn troi i’r dde heibio Tafarn y Boblen. Dyma’r hewl sy’n arwain i Fynydd y Gwrhyd. Mae’r Neuadd yn dal yno, wedi’i hadnewyddu ac ar ei newydd wedd:
NEUADDAU
Chwi oedd plastai ein pleser swllt a naw
ym mhentrefi’r Cwm,
yn cynnig eich cyffuriau seliwloid bob nos
yn eich gwyll melfedaidd,
ac yn ein cymryd ar dripiau teirawr
ymhell o afael y Mynydd Du.
Darluniau ar Gynfas
(Dilyniant buddugol Bryan Martin Davies – Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman 1970)
Yn ystod y ganrif ddiwethaf, mae sawl crwtyn ifanc wedi cerdded lan yr hewl droellog yn llawn gobeithion ac ar fin dechre gyrfa dan ddaear – rhai yn gweithio yn y pylle bach niferus a greithiodd y bryniau cyfagos, ac eraill yn troedio dros y comin i bentre’ Tairgwaith ger Gwauncaegurwen ac i byllau’r Steer, yr East Pit a’r Maerdy. Cyflogwyd bron i ddwy fil o lowyr yno.
Am ychydig mae dyn yn ffarwelio â’r cwm diwydiannol; dyw hewl y Gwrhyd ddim yn gwegian dan bwysau pobol a cheir. Yna’n sydyn, daw olion o’r oes a fu; tri gwaith glo bach – y Gover, y Glen a Gwaith y Tyle lle collodd Bryn Williams ei ddwy lygad mewn tanchwa yn y tridegau. Bellach mae’r hen weithfeydd wedi diflannu fel gwlith y bore.
Wrth lywio’r car i Goedffalde, roedd modd bwrw golwg i gyfeiriad Ystradowen a chael cip sydyn ar dip glo gwaith Cwmllynfell. Symudwyd y cyfan yn yr wythdegau cynnar gan beiriannau’r oes fodern ac i radde, gwireddwyd breuddwyd y bardd lleol Bryan Martin Davies:
Mae eich düwch yn dal yn y dyffryn
oni ddaw rywdro
laswellt hen obaith
i’ch troi
yn wyrdd.
I lawr i’r pant a chanfod Coedffalde, man geni’r bardd a’r llenor Dyfnallt Owen a chartre’ presennol seren y sgrîn fawr Michael Sheen. Ar waelod Tyle’r Roc mae yna lôn yn disgyn i bentre’ cysglyd Rhiwfawr lle magwyd Gary Samuel, cyn aelod carismataidd Côr Meibion Taf. O fewn tafliad carreg, yn ymyl Fferm Hendreforgan, mae yna banorama anghygoel yn ymagor o flaen ein llygaid. Yn wir, yn yr Hydref, mae lliwiau caleidoscopig y coed o gwmpas afon Twrch yn atgoffa dyn o Vermont ar ei orau, ac wrth ddilyn y tirlun, gellir gweld bryniau ardal Llyn-y-Fan lle mae afonydd Tawe, Wysg, Haffes, Giedd, Gwys a Thwrch yn tarddu.
Cyn cyrraedd yr ucheldiroedd rhaid concro un tyle arall hynod serth – y Cilfer. Mae sawl cerbyd pwerus yr oes bresennol yn cael anhawster dringo i’r tir uchel, a dychmygaf mai tuchan a bwldagu fydde ambell Forris Minor ac A30 o’r gorffennol. Ond ar ôl llwyddo, mae’r golygfeydd yn syfrdanol. Ar ddiwrnod clir mae modd gwerthfawrogi ysblander Bannau Sir Gâr, y Fan Hir, Fan Gyhirych, Fan Nedd, Pen-y-Fan, a Chraig y Llyn uwchben Glyn-nedd.
Mae yma ryw dawelwch annaturiol yma ond gwelir enghreifftiau o hacrwch dyn – gweithfeydd glo Bryngorof, Lefel y Parc ac ymgais cwmni glo brig i ddinistrio’r tirwedd. Yn ymyl fferm Troedrhiwfelen, yn nhyddyn di-nod y Parc, y ganwyd Eic Davies (tad Huw) ac o fewn lled cae ym mwthyn Ca’ Du Ucha’ roedd mam-gu a thad-cu Rhys Haydn Williams yn arfer byw, yr ail-reng i Lanelli, i Gymru a’r Llewod a ddisgrifiwyd gan Colin Meads fel un o gewri’r gêm.
Cyn canfod Capel y Gwrhyd, mae yna hewl anwastad yn igam-ogamu ei ffordd i gyfeiriad hen lofa Pwll-bach ger Ystalyfera. Mewn ffermdy diarffordd y trigai’r brodyr Gelliwarog. Agorodd y ddau waith glo bach, gyda drifft yn eu tywys at ffas hynod broffidiol. Yn dilyn ymweliad gan un o Arolygwyr Ei Mawrhydi, gofynnodd am weld y stretsiar. Gan mai’r ddau oedd yr unig weithwyr cyflogedig, dychwelodd Wil â whilber gan ddweud, “Dyma’r unig stretsiar sy’n mynd i achub bywyde yn y lle ‘ma, syr.”
Syml a phlaen yw’r capel o ran ei adeiadwaith, ond mae modd cysgodi rhywfaint a myfyrio gan glywed y gwynt yn rhuo a gwrando cân yr ehedydd yn dyrchafu mawl. O’r tir uchel mae’r wlad yn graddol ymagor a sawl fferm yn ymddangos – Cwmnantstafell, Cwmnantllici, Gellifowy, Crachlwyn, Pentwyn, Perthigwynion, Llwynpryfed, Gwrhyd Ucha’, Gellilwca, Ynyswen a’r Pant. Gyferbyn â’r capel saif sgerbwd o adeilad – bu am gyfnod yn ysgoldy ac yna’n ysbyty i gleifion a ddioddefai o’r frech wen. Draw ar y chwith, ar gesail y bryn, mae fferm Blaenegel ac islaw Fforchegel (lle roedd mam-gu, Harriet Gwenllian, yn byw a Dai Fforch – tad y naturiaethwr Iolo Williams). Yma gwelir afon Egel (neu Ecel yn nhafodiaith Cwm Tawe) yn tasgu dros y cerrig gwynion ar ei ffordd i gyfarfod â Chlydach Ucha’ yn Rhyd-y-Fro a’r Tawe ym Mhontardawe. Dyw enw’r Gwrhyd ddim wedi’i gynnwys mewn llythrennau bras mewn unrhyw atlas, a bydde rhai yn hynod ddiolchgar am hynny.
- Hoff lefydd eraill yng Nghymru.
Llyn y Fan Fach, Sgydau ardal Ystradfellte, Ynys Sgomer.
- Oes gennyt unrhyw arferion drwg?
Bwyta gormod o fwydydd melys.
- Beth sy’n dy wylltio?
Pobol gwbl ddifater sy’n taflu sbwriel.
- Beth am rannu rhywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobol yn ei wybod.
Stacey Davies o’dd yn gyfrifol. Wel, hi sy’n ca’l y bai beth bynnag. Deg mlwydd o’d o’dd hi yn 1993, yn ddisgybl yn Ysgol Gymra’g Pontardawe, ac yn fuddugol mewn cystadleuaeth ar y rhaglen boblogaidd Blue Peter. “Tynnwch lun ohonoch yn 50 oed” oedd y testun ac yn sgîl ei llwyddiant fe benderfynes i drefnu ymweliad â’r National Portrait Gallery (o fewn poerad i gofgolofn Horatio yn Sgwâr Trafalgar) lle roedd campweithiau’r buddugwyr yn cael eu harddangos.
Ro’dd y bws Mini yn llawn dop, y mwyafrif yn berthnase ac yn ffrindie i Stacey a gan fod un sêt sbâr fe dda’th Lowri’r ferch ‘da ni. Fe dreulion ni awr yn crwydro’r Oriel, gyda Stacey yn rhyfeddu gweld ei llun mewn shwd le crand. Gan fod diwrnod penblwydd yr Iesu o fewn tridie, penderfynwyd treulio teirawr cyn mynd ‘sha thre’ a chael cyfle i gwblhau ein siopa Nadolig yn y West End. Hastu i gyfeiriad Leicester Square a Phicadilly ‘nath Lowri a fi tan i ni weld torf sylweddol tu fas i’r Café Royal gyferbyn â Fortnum and Mason. Fe synhwyron ni ar unwaith fod rhywun pwysig ar fin gad’el y lle ac o fewn dim ro’dd y ddau ohonom yn rhan o sgarmes reit fygythiol, wedi gwasgu’n glos at ein gilydd, ac yn ca’l anhawster anadlu. Ro’dd Lowri ychydig o ‘mlan i ac yn ca’l ei hwpo’n ddi-drugaredd i gyfeiriad cerbyd sylweddol â’i ffenestri wedi’u duo. O’i chwmpas ro’dd bouncers cyhyrog yn barod i roi perlad i unrhyw ddrwgweithredwr. Yn ddirybudd agorwyd drws y cerbyd gan ad’el i’r superstar, y bouncers (a Lowri) ga’l mynediad. Ro’n i, mas o bwff, tu ôl mewn stad o banic! Pwy o’n nhw? O’dd y Mafia neu’r brodyr Kray rhywbeth i wneud â hyn?
Mewn chwincad ro’dd y dr’ifwr yn llywio’i fan foethus i gyfeiriad Eros a finne yn pesychu ac yn bwldagu y tu ôl fel rhyw rhedwr Olympaidd yn trio achub fy merch bedair ar bymtheg oed! Fe basion ni oleuade llachar Piccadilly gyda Emil Zátopek Bevan a rhes o geir yn dilyn. Ro’dd Leicester Square a Covent Garden o’n bla’n ni ond troi i’r dde ‘nath y dr’ifwr ac anelu at ardal Haymarket a’i theatrau. Ro’n i erbyn hyn yn chwys diferu ac yn barod i waeddu am help pan fflachiodd indicator oren cerbyd yr herwgipwyr a stopo yn ymyl y pafin. Agorwyd y drws, camodd Lowri mas â gwên ar ei hwyneb. Ro’dd hi yn ei seithfed ne’ gan ei bod wedi treulio dwy funed ac ucen eiliad yn ishte yn ymyl Robert de Niro! Petai’r bws heb stopo ‘falle fydde Lowri erbyn hyn yn billionairess! A gyda llaw – y fi sy’n dal y record o redeg rhwng y Café Royal a Haymarket!
- Pwy yw’r person mwya’ nodedig gwrddest ti erioed?
Teithiais i’r Caribî ym mis Mawrth 1994 i weld India’r Gorllewin yn herio Lloegr yn y trydydd prawf ar gae y Queen’s Park Oval yn Port of Sain. A bod yn onest, ro’n i’n lled-obeithio y byddai Steve Watkin a Matthew Maynard o Forgannwg yn cael eu dewis i chware yn ogystal â’r cricedwr amryddawn Chris Lewis a ddatblygwyd gan ei athro Addysg Gorfforol yn Ysgol Gyfun Willesden yn Llunden, sef Elis Wyn Williams o Frynaman.
Ro’dd yna reswm arall dros deithio’r holl ffordd i ynys Trinidad. Petaech chi’n fy holi am fy hoff gricedwyr, yna chwaraewyr y Caribî, yn eu plith Weekes, Kanhai, Sobers, Greenidge, Richards, Lloyd, Holding, Marshall a Lara fydde ar frig y rhestr. Roedd Brian Lara yn athrylith. Profiad unigryw oedd ei weld yn cerdded yn hamddenol braf i’r llain heb yr un gofid yn y byd. Roedd e mor ddibryder; y cerddediad i’r canol fel petai e ar ei ffordd i’r siop leol i brynu torth o fara.
Cyfrinach Lara oedd ei allu i synhwyro bwriad y bowliwr yn gynnar ac yna symud ei draed a’i gorff i’r union fan lle’r oedd modd llywio’r bêl yn gelfydd i bellafoedd y ca’. Ro’dd ‘da fe lygaid hebog tramor a system radar ymenyddol i’w alluogi i dorri calon bowlwyr gorau’r byd. Cael a chael o’dd hi am dridie o’r prawf gyda Lloegr, os rhywbeth, yn drech na’u gwrthwynebwyr. Un o gymeriadau’r Queen’s Park Oval oedd Jumbo, gŵr oedd yn gwerthu cnau, pysgod a bara cartre’ ei fam. Bob hyn a hyn bu’n ddigon parod i gydio yn ei gorn siarad a lleisio barn i gricedwyr ei famwlad. Ces i sawl sgwrs ag e, a sylweddoli fod ganddo agwedd iach tuag at fywyd, “My ma’ma told me – Son, always sell yourself first. If people love you, they will buy from you.” Roedd gan hwn bersonoliaeth fagnetig.
Ro’n i weld archebu tacsi ar gyfer y pedwerydd prynhawn er mwyn cyrraedd y maes awyr mewn digon o amser i hedfan gartre’. Ro’dd angen 193 ar Loegr i gipio buddugoliaeth hanesyddol ond o fewn hanner awr ro’dd y freuddwyd o ennill ar chwâl gyda’ wicedi yn cwmpo fel dominos. Â thîm Michael Atherton yn 21-4, bu’n rhaid i’r ddau ddyfarnwr dywys y chwaraewyr o’r ca’ yn dilyn cawod drom.
Ro’n i ar y pryd yn aros am y tacsi yn ymyl prif fynedfa’r maes ac yn cysgodi o dan falconi un o’r ‘stafelloedd newid . Edrychais i fyny. Yno roedd Brian Lara yn edrych i gyfeiriad y bryniau yn asesu a oedd y cymylau yn teneuo rhywfaint. Manteisiais ar y sefyllfa. Yn fy mag roedd llyfr nodiadau a gofynnais iddo’n garedig am ei lofnod. Gwenodd ac yna gofynnodd, “Would you like me to get the autrographs of my teammates?” Llyncais fy mhoer; ro’n i’n gegrwth ac yn methu’n lan ag ynghanu gair! Cricedwr gorau’r blaned yn gofyn os o’n i am iddo gasglu llofnodion y tîm cyfan? Am rai munude roedd Port of Spain wedi gefeillio â Brynaman! Ro’dd y tacsi newydd gyrraedd ond do’n i’n gofidio dim am fod yn hwyr. Fe alle’r awyren esgyn hebddo i; ro’n i am aros i Brian ddod nôl, costied a gostio.
Dychwelodd, diolchais a ffarweliais. Edrychais ar y dudalen yn cynnwys yr unarddeg chwaraewr a’r deuddegfed dyn, Phil Simmons. Ro’n i fel plentyn ar fore Nadolig a’r gyrrwr tacsi ar ben ei ddigon gan fod Lloegr yn 40-8 gyda Ambrose a Walsh yn creu hafoc yn yr heulwen. Ar yr awyren ro’n i’n ishte drws nesa’ i ferch unarddeg oed o ddinas Port of Spain oedd yn hedfan i Heathrow i dreulio’r Pasg gyda’i mam o’dd yn nyrsio yn Ysbyty Great Ormond. Cyn i ni lanio yn Barbados ro’n i’n gw’bod pob dim amdani – ei hysgol, ei theulu a’i diddordebau! “I just love cricket,” meddai “ especially Brian Lara.” Eglurais fy mod wedi bod yn ei gwmni rhyw deirawr ynghynt. Dangosais y llofnodion iddi. Roedd ei hwyneb yn bictiwr. Rhwygais y dudalen yn ofalus a’i chyflwyno iddi hi.
Cyfanswm Lloegr yn ei hail fatiad oedd 46 gyda Ambrose (a chwaraeoedd ym Mhentyrch yn 1993) a Walsh yn cipio naw o’r wicedi. Aeth Brian Lara yn ei flaen i sgorio 375 o rediadau yn y pedwerydd prawf yn Antigua, 400 heb fod mas yn erbyn Lloegr eto yn Antigua yn 2004 ac ym mis Mehefin 1994 sgoriodd 501 heb fod mas i Swydd Warwick yn erbyn Durham yn Edgbaston – cricedwr o’r radd flaena’ a finne yn ei ‘nabod yn dda!
- Beth fydde dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy fyddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?
Y pryd bwyd gorau dwi erioed wedi’i flasu oedd y bwffe yn y Shangri-La yn Kowloon yng nghwmni’r diweddar John Pugh (brawd Vernon Pugh QC a fu’n gyfrifol am broffesiynoli rygbi). ‘Ultimate Indulgence’ oedd y geiriau ar y fwydlen – gwir pob gair! A’r cwmni petai cyfle i ail-fyw’r wledd? – “ Ford i ddeg os gwelwch yn dda i rai o gewri byd y campau.” A dyma nhw – y tri (Tommy Smith, Peter Norman a John Carlos) o’dd ar y podiwm yn y ras 200m ym Mabolgampau Olympaidd Dinas Mexico yn 1968, Jesse Owens, John Arlott, Evonne Goolagong, Nellie Kim, Johan Cruyff, y neidiwr hir Lynn Davies (i sicrhau fod y clebran yn ddifyr a diddorol) ac Antoine Dupont.
- Treulio amser hamdden?
Canu, cerdded, cymdeithasu a chwilio am gwestiynau ar gyfer ambell gwis!
- Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio?
Rhaglenni yn ymwneud â byd natur, chwaraeon, a newyddion.
- Dy Hoff lyfr.
Ma’ ‘da fi lyfrgell sylweddol gartre’ ond un o’r llyfre fydden ni’n pocedi cyn ffoi o’r ty mewn argyfwng yw’r gyfrol a dderbyniais yn anrheg Nadolig yn 1958 gan Siôn a Guto Eirian drws nesa’. ‘Crysau Cochion’ o’dd y gyfrol honno a olygwyd gan Howard Lloyd a’i chyhoeddi gan Lyfrau’r Dryw o Landybïe. Mae’n cyfeirio at ddigwyddiadau cofiadwy mewn ystod o gampau yn ystod degawdau cynta’r ugeinfed ganrif. Bu farw Siôn, llenor a dramodydd o’r radd flaena’, yn ystod cyfnod Covid tra fod Guto yn byw ym Mhontypridd ac yn gefnogwr selog o dîm rygbi’r dref yn ogystal â bod yn weinyddwr doeth a deallus.
Gofynnais i Siôn ar droad y mileniwm i ‘sgrifennu ychydig eirie am un o’i ffrindie mynwesol, y bocsiwr pwyse trwm Joe Erskine. Fe ddaeth y darn ar droad y post. Dyma baragraff neu ddau ar eich cyfer:
‘Bob bore, oddeutu hanner awr wedi wyth neu naw o’r gloch fe allech chi weld Joe, yn ddestlus yn ei siwt a’i dei a’i wallt yn gymen gan wasgiad o Brylcreem, yn cerdded lawr o’r Rhath i Stryd Bute ym Mae Caerdydd. Fan hynny, yn Bab’s Bistro, gallai fwynhau gwydraid o gwrw plygeiniol cyn i’r tafarndai agor. Roedd e’n ddyn addfwyn, gor-gwrtais a hefyd yn barablus.
Yn y sgwâr fe ymladdodd 54 gornest gan ennill 45, a fe oedd Pencampwr Pwysau Trwm Prydain rhang 1956 a 1958. Ond mewn gwirionedd fyddai Joe erioed wedi codi blaen bys bach i nafu cleren. Roedd e fel rhyw arth addfwyn, yn llawn awydd plesio a chwilio am gyfeillgarwch.’
- Un darn o gerddoriaeth.
Yn ystod fy mlwyddyn gynta’ yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman (1958/59) fy athro Cerddoriaeth oedd Mr Gethin Jones, tad Hywel a thad-cu Steff. Yn ystod un wers fe chwaraeodd ddarn o gerddoriaeth ar ein cyfer. Drigain a phump o flynyddoedd wedi’r gwrandawiad, mae’r nodau mor fyw ag erioed, wedi’u saernio yn seler y cof – Symffoni Rhif 4 gan Felix Mendelssohn neu’r Symffoni Eidalaidd.
- Fel Prif Weiniodog i Gymru pa freuddwyd fyddet ti ishe gwireddu gynta’?
Sicrhau cyllid ar gyfer hewl arall i osgoi Casnewydd.
- Enwebu nesaf?
Colin Williams.