- Rho grynodeb i ni o’th gefndir a’th hanes
Cefais fy ngeni yn Ysbyty Dewi Sant, Caerdydd ar 26 Hydref 1972, y pumed o chwech o blant. Roedd fy rhieni yn hanu o Gaerdydd ac yn ddi-Gymraeg, er bod Mam yn aml yn defnyddio termau Cymraeg ac wrth ei bodd yn canu i ni yn Gymraeg. Calon Lân oedd un o’i ffefrynnau. Es i Ysgol Gynradd Peter Lea ac Ysgol Uwchradd Cantonian yn y Tyllgoed lle taniwyd fy nghariad at y Gymraeg. Yn Cantonian cefais fy nysgu gan ddwy athrawes ysbrydoledig a ysgogodd ynof gariad at y Gymraeg, Gill Williams ac Ethni Jones. Un o’m cyfnodau mwyaf balch yn Cantonian oedd cymryd rhan yn y Cyflwyniad Dramatig yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Nhonyrefail yn 1992 gydag Ethni Jones. Astudiais Cymraeg Lefel A ochr yn ochr â Saesneg a Daearyddiaeth ac yna es i ymlaen i astudio Daearyddiaeth yn Aberystwyth yn 1992. Er mai mewn Daearyddiaeth roedd fy ngradd, roeddwn yn awyddus i wella fy Nghymraeg felly gofynnais am ystafell yn Neuadd John Williams, un o’r neuaddau preswyl Cymraeg ar lan y môr a dewisais astudio’r Gymraeg ochr yn ochr â Daearyddiaeth yn ystod fy mlwyddyn gyntaf.
Yn Aberystwyth fe gwrddais â fy ngwraig Lisa. Roedd hi flwyddyn yn hŷn na fi ac yn astudio Daearyddiaeth a Chymraeg hefyd felly roedd gennym ni lawer yn gyffredin yn barod. Roedd rhieni Lisa yn allweddol wrth roi hyder i mi siarad Cymraeg gan eu bod yn gwrthod siarad Saesneg gyda fi o’r dechrau! Yn ystod fy ngwyliau haf fe arweiniais gynlluniau chwarae plant ar ran ‘Rhieni Dros Addysg Gymraeg’ yn Ysgol Gyfun Glantaf ac Ysgol Gynradd Gymraeg Coed-y-Gof lle sylweddolais fy mod yn debygol o fod yn athro yn y dyfodol.
Graddiais o Aberystwyth yn 1995 a dechreuais fy swydd gyntaf fel Swyddog Ymchwil Cynorthwyol gyda Chyngor Chwaraeon Cymru yng Ngerddi Sophia, Caerdydd, lle gweithiais am ddwy flynedd. Symudodd Lisa hefyd i Gaerdydd a dechrau gweithio fel athrawes yn Ysgol Pencae, Llandaf. Priodon ni yn 1997 yng Nghapel Bethel yng Nghreunant a phrynu ein cartref cyntaf yn y Creigiau. Yn fuan ar ôl ein priodas, gadewais Gyngor Chwaraeon Cymru a chofrestru ar y cwrs ymarfer dysgu Daearyddiaeth yn Abertawe.
Yn 1998, dechreuais fy swydd dysgu gyntaf fel athro Daearyddiaeth yn Ysgol Gyfun Bryntirion ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle dysgais am 17 mlynedd. Flwyddyn yn ddiweddarach, ganed ein plentyn cyntaf, Megan, a symudon ni i’r Tyllgoed. Tra’n byw yno , cawsom ddau o blant arall, Seren yn 2003 a Teifi yn 2006. Symudon ni i’n cartref presennol yn Llandaf yn 2010.
Cefais fy mhenodi’n Ddirprwy Bennaeth yn Ysgol Gyfun Aberpennar yn 2015 a chwblheais fy CPCP (Cymhwyster Prifathro) yn 2019. Er fy mod yn hapus yn fy rôl bresennol, rwy’n gobeithio y byddaf yn ddigon ffodus i orffen fy ngyrfa fel pennaeth cyn i mi fynd yn rhy hen!
- Beth yw dy atgof cynharaf?
Rhannu ystafell gyda fy 3 brawd yn ein cartref teuluol yn y Tyllgoed a Mam yn dod i mewn i roi cusan a dweud ‘Goodnight God Bless’ bob nos.
- Disgrifia dy hun mewn tri gair
Diamynedd, ffyddlon, trefnus.
- Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?
Cwmdu ger Crughywel yn y Mynyddoedd Du / Altenmarkt-im-Pongau, Awstria.
- Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
Coginio gormod o fwyd, yn enwedig reis ac yfed gormod o win coch!
- Beth sydd yn dy wylltio?
Traffig a phobl sy’n gyrru’n rhy agos i geir eraill!
- Beth am rannu rhywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
Sefydlais bartneriaeth rhwng 3 ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a 6 ysgol yn Tanzania a Botswana tra ar ymweliad â Kenya yn 2006. Am y 18 mlynedd diwethaf, mae BOTAWA (mae’r enw wedi’i gymryd o ddwy lythyren gyntaf pob gwlad) wedi galluogi athrawon ar draws y 3 gwlad i rannu addysgeg ac mae disgyblion wedi elwa o gydweithio ar faterion fel newid hinsawdd a hawliau dynol. Ein logo partneriaeth yw ‘Gweld y byd trwy lygaid ein gilydd’. Bellach mae gan BOTAWA 69 o athrawon mewn cysylltiad rheolaidd ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
- Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Cefais frecwast gyda’r Tywysog Edward unwaith pan oeddwn yn arwain Cynllun Gwobr Dug Caeredin yn Ysgol Gyfun Bryntirion.
- Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?
‘Sizzling Chicken Nawabi’ a ‘Saag Mirchi’ gyda fy nheulu yn y Bayleaf yn Llandaf. Roedden ni yno mewn gwirionedd ar gyfer penblwydd fy mab yn 18 oed yn ddiweddar iawn!
- Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?
Rhedeg neu mynd â fy nghi Myfi am dro, o amgylch Caeau Llandaf a Pharc Bute.
- Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio?
Dydw i ddim yn eistedd yn llonydd ddigon hir i wylio’r teledu er fy mod yn mwynhau gwylio Arsenal yn chwarae pêl-droed gyda fy mab.
- Beth yw dy hoff lyfr(au)? Pwy yw dy hoff awdur(on)?
Rwy’n hoffi darllen llyfrau hanesyddol neu lyfrau daearyddol. Ar hyn o bryd rwy’n darllen llyfr o’r enw ‘Vanishing Places’ y prynodd fy mhlant i mi ar gyfer y Nadolig. Pan dwi’n gallu canolbwyntio’n ddigon hir dwi’n mwynhau darllen llyfrau gan Dan Brown neu Lee Childs.
- Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?
CD ‘Gwahoddiad’ gan Gôr Meibion Taf yn amlwg! Yn ogystal â hyn, unrhyw ganeuon gan Elvis, Tom Jones neu Dafydd Iwan.
- Pe baet ti’n Brif Weinidog Cymru pa freuddwyd fyddet ti eisiau ei gwireddu gyntaf?
Gostwng yr oedran ymddeol i 51!
- Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?
Huw ‘Bala’ Williams (T1)