- Rho grynodeb i ni o dy gefndir. Beth ddaeth â ti i’r ardal hon (dalgylch CMT)?
Ces fy ngeni a fy magu ym mhentre gwledig Beulah, De Ceredigion lle ar y pryd roedd pawb yn siarad Cymraeg. Ar ôl gadael Ysgol Ramadeg Aberteifi a graddio mewn peirianneg yng Nghaerdydd ymunais â B.P. Chemicals/I.C.I yn Sili ger y Barri gan ymddeol fel Prif Beiriannydd yn 2002.
- Beth yw dy atgof cynharaf?
Profociais geiliog ac ymosododd arna i gan lanio ar fy ysgwydde a phigo fy mhen. Brawychus!
- Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cystadleuol. Trefnus. Teg
- Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?
Cwrs a Chlwb Golff Aberteifi.
Yn y byd? Yng nghanol yr Alpau yn y Tyrol, Awstria, gaeaf neu haf.
- Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
Gadael dysgu geiriau i`r funud ddiwethaf.
- Beth sydd wir yn dân ar dy groen di?
Pobl sy`n rhugl yn y Gymraeg ac yn dewis siarad Saesneg â`i gilydd ac â`u plant.
- Beth am rannu rhywbeth gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
Cael y fraint o chwarae fel cefnwr tu ôl i`r haneri gore fu erioed, sef Syr Gareth Edwards a Barry John (i Glwb yr Athletic Caerdydd yn erbyn Castell Nedd).
- Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Kiri Te Kanawa [fel Byron] ond fe ges i gwtsh a chusan ganddi! Hyn ar ôl iddi berfformio mewn cyngerdd gyda Chantorion Ardwyn.
- Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?
Plataid o fwyd môr amrywiol gyda gwin gwyn sych ar ddiwrnod braf ym Mhortiwgal yng nghwmni`r teulu a ffrindie.
- Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?
Chwarae golff, potsian yn y sied/beudy/storws.
- 11.Yn ystod y cyfnod clo pa raglenni teledu wyt ti wedi mwynhau eu gwylio
Dragon`s Den, Cynefin, Great Continental Railway Journeys gyda Michael Portillo.
- Beth yw dy hoff lyfr? Pwy yw dy hoff awdur?
Dim un yn arbennig – newydd orffen ac wedi mwynhau “A Thousand Splendid Suns” gan Khaled Hosseini.
- Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?
Steffan Jones a Llinos Haf yn canu Benedictus. (Fe ganodd y ddau yng nghyngerdd CMT ym Mhenarth i godi araian ar gyfer cancr y prostad ym mis Rhagfyr 2018.)
- Pan fydd y cyfnod clo drosodd beth wyt ti’n edrych ymlaen at ei wneud fwyaf?
Cael rhyddid i fynd a dod heb orfod cynllunio.
- Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?
Aled Rees [T 2]]
