- Rho beth o’th gefndir a’th hanes i ni
Ces fy ngeni ym mis Mai 1941 i Jack (Jono i’w gymdogion) a Jennie Davies ar fferm Brechfa-fach, Llangeitho. Mae’r pentre yn enwog wrth gwrs oherwydd Daniel Rowland y pregethwr carismatig o gyfnod diwygiad y 18fed ganrif. Ar y pryd dim ond tri ‘Brechfa’ oedd wedi eu cofrestru yng Nghymru, y ddwy fferm, Brechfa Fach a Mawr a phentre Brechfa ger Abergorlech / Nantgaredig. Erbyn hyn mae Brechfa arall yn Llanfarian ers i Hazel a fi adeiladu byngalo yno yn 2017.
Ffermwr o’n i fod yn wreiddiol gan fy mod yr hynaf o dri gydag Alun fy mrawd a Beryl fy chwaer. Dw i ddim yn siwr ble cafodd Mam afael ar yr enw Elgan a wnes i ddim cwrdd ag Elgan arall nes gorffen yn yr ysgol. Oherwydd y pwyslais i fod yn ffermwr ni chafodd fy ngyrfa ysgol lawer o flaenoriaeth. Gan fy mod yn gwlffyn o grwt fe chwaraeais rygbi i’r tîm cynta yn 13 oed ac yn ddiweddarach bêl-droed gyda Turfs Tregaron a Dewi Stars, Llanddewi Brefi.
Ar ôl gadael yr ysgol yn 16, bues i adre ar y fferm am ryw dair blynedd. Roedd y Clwb Ffermwyr Ifenc yn bwysig a dylanwadol. Yn 1958 fe ges i fy ethol yn Gadeirydd Sioe Amaethyddol Llangeitho ac yn y flwyddyn 2001 Hazel a fi oedd y llywyddion wrth i’r sioe ddathlu 50 mlynedd o fodoleth. Ym mis Tachwedd 1959 perswadies fy nhad i adael i fi fynd am wythnos o wylie i Lunden. Dyma wythnos wnaeth newid fy mywyd yn llwyr a chwpla fy ngyrfa ffermio. Dyma benderfynu edrych am waith, a chan fy mod yn aros yn Victoria, digwyddes gerdded lan Buckingham Palace Road a gwneud ymholiad ym mwyty’r ‘Princess’. Cwmni Rabiotti oedd berchen y lle (yn ogystal â chwech bwyty a dau ‘snack bar’ arall yng nghanol Llunden). Eidalwyr oedd y perchnogion ond roedd cwmni Rabiotti’s wedi cychwyn yn Ne Cymru wrth gwrs (Porthcawl a’r Barri). Fy lwc i oedd bod rheolwr y cwmni yn bresennol ac fe gynigiodd Mr Ferrari swydd i mi yn syth yn gyrru o gwmpas Llunden. O fewn wythnos roeddwn yn casglu cigoedd o farchnad Smithfield ac yn eu dosbarthu o amgylch y bwytai ac ar adegau prysur yn cael y profiad o weithio yn y gegin. Roedd amser i fwynhau hefyd yng nghlwb Gray’s Inn Rd a’r Hammersmith Palace yn dawnsio i fiwsig Joe Loss. Fe barodd hyn am dair blynedd hyd nes i fi gael damwain beic un diwrnod ar y ffordd nôl i fflat y cwmni yn Waterloo.
Yn ystod fy amser byr yn Llunden roeddwn wedi cael ychydig o hyfforddiant i ddysgu pobol i yrru gyda’r ‘British School of Motoring’. Roedd y diddordeb wedi cychwyn pan o’n ni’n blant yng nghefn y car yn gwylio gyrwyr lleol yn dysgu ‘nhad (oedd yn ei bumdegau) i yrru car. Roedd e wedi prynu’r car yng ngarej Llangeitho, Austin Ten – JJJ 489. Pan o’n i gartre yn gwella o’r ddamwain, fe gwrddais ag Anne, fy nghyn-wraig, ac arweiniodd hyn fi at fy swydd fel hyfforddwr gydag ysgol foduro Red Dragon Aberystwyth. Bues yno tan 1965 ac yn fuan wedyn fe agores ysgol foduro ‘Y Cambrian’. Hyn eto yn dipyn o newid a menter. Tybed oedd y ddamwain yn Llunden a achoswyd gan gar a oedd allan o reolaeth wedi fy arwain i ddysgu pobol i yrru? Ta beth, fe wnes hyn tan 1971 ac yna fe ges swydd fel Prif Swyddog Diogelwch Sir Aberteifi. Yn ystod y cyfnod hwn fe ddechreuais a dyfeisiais ‘Gwrs Medruswydd Beicio’ i blant rhwng 9 ac 11 (yr unig sir ym Mhrydain i wneud hyn). Trwy gydweithrediad yr heddlu fe ddaeth pob ysgol i gymryd rhan a braf iawn oedd gweld llwyddiant plant a phobol ifanc y sir yng Nghystadlaethau Beicio Diogel Cymru dros gyfnod o 6 blynedd.
O 1963-74 roeddwn yn chwarae rygbi i glwb Aberystwyth. Ces fy ethol yn gapten yn nhymor 1970-71, yr un cyntaf o gefn gwlad gan fod y mwyafrif o’r cyn-gapteiniaid yn dod o dde Cymru a naill ai’n athrawon neu’n dal swyddi yn y brifysgol. Yn 1975 fe sefydlwyd clwb rygbi yn Nhregaron ac roedd yn bleser treulio tair blynedd olaf fy ngyrfa gyda nhw. Alun fy mrawd oedd cadeirydd a chapten y clwb a Gwynfor Bach (Jones) yn hyfforddi ac yn arwr i’r chwaraewyr. Roedd Alun yn gyn-aelod o Glwb Rygbi Cymry Caerdydd (CRCC) a nhw oedd y gwrthwynebwyr yng ngêm gynta’r clwb. Tipyn o fraint a thipyn o brawf i’r clwb newydd. Gyda llaw, pwy oedd mewnwr CRCC ar y dydd? Wel, neb llai na Huw Llywelyn Davies wrth gwrs!
Dyma’r cyfnod pan ddechreuodd fy mwynhad a hoffter o ganu, gyda’r diweddar annwyl Huw Powell wrth y piano. Roedd chwaraewyr rygbi’r wlad hefyd yn mwynhau canu ac yn gwybod geiriau’r caneuon i gyd. Ychydig nes i feddwl gyment o ddylanwad arna i fydde gwrando ar ‘Ganiadaeth Y Cysegr’ tra’n godro ar brynhawn Sul cyn mynd i oedfa’r nos.
Rhwng 1977 ac 1989 roeddwn yn Swyddog Cyswllt i’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau – (ROSPA) dros daleth Dyfed, Clwyd a Gwynedd. Ynghlwm â’r swydd roeddwn yn Ysgrifennydd Ffederasiwn er Atal Damweiniau Gogledd Cymru. Rhoddodd hyn gyfle i mi gwrdd â phobol ddiddorol gan fod cyrsie i Swyddogion Diogelwch Ffyrdd Prydain bob Gwanwyn a chynadleddau bob Hydref.
Yn dilyn priodi yn Awst 1962 ganwyd dwy ferch, Nia yn 1968 a Lyn yn 1973. Rwy’n ffodus i fod yn Dadcu i bedwar o wyrion. Mae’r ddau deulu yn byw’n agos at ei gilydd yn ardal Didsbury, Manceinion ers deg mlynedd ar hugain. Felly rwy’n gweld llawer o’r M4, M5 a’r M6 ond mae’n werth yr aberth.
Yn 1978 yn anffodus fe benderfynodd Adran Trafnidiaeth Llywodraeth Westminster dorri nôl yn sylweddol ar gyllido ROSPA. Gan fy mod yn gweithio gartre yn Llanfarian ces fy niswyddo. Siom fawr yn naturiol a arweiniodd at ysgariad yn ddiweddarach. Ond, diolch i’r drefen, fe wnaethon ni barhau i fod yn ffrindiau.
Yn 1979 fe gwrddais â Hazel a oedd yn athrawes yn Ysgol Uwchradd Penglais. Ar ei dyrchafiad yn Swyddog /Athrawes Ymgynghorol i’r Cyngor Chwaraeon ac Adran Addysg Dyfed fe symudon ni i Lôn Morfa Caerfyrddin. O ffenest y stafell wely roeddem yn gweld pedwar cornel cae rygbi’r Cwins a thri chornel cae Clwb Rygbi Athletig Caerfyrddin.
O’r adeg hon tan1994 ces amryw o swyddi. Roedd rhai ohonynt yn ddiddorol, er enghraifft, gweithio i Undeb Rygbi Cymru yn hybu rygbi i’r ieuenctid gan gynnwys yn eu harddangosfa symudol yn Sioe Llanelwedd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Ces gyfle gyda chwmni teledu annibynnol Lluniau Lliw i warchod Syr Anthony Hopkins ac yn ddiweddarach yr actor Americanaidd Daniel J. Travanti (sydd fwyaf adnabyddus am chwarae rhan capten yr heddlu Frank Furillo yn y gyfres ‘Hill Street Blues’).
Ym mis Rhagfyr 1994 prynwyd 100 North Road, Caerdydd ar ocsiwn yng Ngwesty’r Park. Roedd y lle wedi bod yn wag ers tipyn ac mewn cyflwr gwael. Penderfynes fod y lleoliad yn berffaith i werthu bwyd cyflym a fyddai’n apelio at fyfyrwyr a staff gan fod adrannau’r brifysgol gerllaw. Ar y pryd roeddent ar fin adeiladu Llys Talybont, llety i gannoedd o fyfyrwyr. Ar ôl siarad â mab ffrind a oedd a busnes llwyddiannus tebyg yn Aberystwyth cafwyd ysbrydolieth! Gyda lwc roedd trwydded siop yn bodoli’n barod, ac fe gafwyd caniatâd i ddatblygu dwy fflat yn ogystal.
Ganed Elgano ym mis Medi 1995 ar ôl tipyn o chwysu, diolch i waith caled Alun y brawd a chrefftwyr o’r gorllewin. Dim ond fi a staff rhan amser oedd yno ar y cychwyn gan fod Hazel yn glwm wrth y Cyngor Chwaraeon ac awdurdod Dyfed yn rhedeg cyrsiau i athrawon i ddatblygu Addysg Gorfforol yn yr ysgolion cynradd. Cyn dod i weithio yn llawn amser i Elgano fe ddysgodd am gyfnodau byr yn ysgolion Glantaf, Esgob Llandaf a Llanrhymni.
Yn 2006 fe brynwyd Gwesty’r Crowndale (Elgano nawr wrth gwrs) ar Heol y Gadeirlan. Roedd hon hefyd yn fenter galed er mwyn addasu’r adeilad gan gynnwys adeiladu dwy gegin. Yn 2016 llogwyd ‘Elgano’ i Eidalwyr, a’r olwyn wedi troi’n gyfan ers pan ddechreues i gyda Rabiotti’s yn Llunden yn 1959.
Does dim amser wedi bod i feddwl am ymddeol gan i fi brynu darn o reilffordd a Gorsaf Llanrhystud Rd ym mhentref Llanfarian yn 1985. Roedd y profiad o adeiladu tŷ yn 2004 yn un gwerthfawr ac erbyn 2017 roeddem wedi rhoi 3 arall ar y darn hwn o dir, un ohonynt oedd Brechfa a nodais yn gynharach.
Roeddwn yn falch i gael gwahoddiad i ymuno gyda CMT, ac rwy’n ddiolchgar ac yn gwerthfawrogi’r croeso cynnes.
2. Beth yw dy atgof cynharaf?
Gorffennaf 1944. Wncwl Nat (brawd Mam) yn dod lawr i’r fferm gyda’r newyddion trist fod eu brawd ifanca, Wncwl Wil wedi ei ladd yn Ffrainc adeg glaniadau Normandi. ‘Nhad yn mynd â fi i’r cae troi ar ôl cinio ac yn fy rhoi i gysgu ar ei got fawr er mwyn iddo gael llonydd i droi’r cwysi gyda’r ceffylau. Yn dilyn diwedd y rhyfel, daeth milwr o’r Almaen yn was fferm i fy rhieni. Roedd hyn yn gysylltiedig â’r orfodaeth i garcharorion o’r Almaen roi dwy flynedd o wasanaeth mewn amaethyddiaeth cyn dychwelyd adref. Rwy’n cofio ei fod yn weithiwr rhagorol a chydwybodol a chafodd groeso gan fy rhieni. Rhaid bod hyn yn anodd o gofio colli Wncwl Wil. Hyd heddiw rwy’n gallu cyfrif o 1 i 100 mewn Almaeneg!
3. Disgrifia dy hun mewn tri gair.
- Lwcus
- Diamynedd a thanllyd ar brydie ond yn anghofio yn gloi ac ymddiheuro os ar fai
- Cyfeillgar – rwy’n hoffi pobol gwerth eu nabod.
4. Beth yw dy hoff le di yng Ngymru/yn y byd?
- Sioe Llangeitho: cwrdd â ffrindie, pobol o’r wlad sydd yn dod o bell ac agos, a chael hwyl a chanu yn y Three Horseshoes – perffaith!
- Llyn Garda a threfi Garda a Sirmione (yn yr Eidal). Llogi cwch a mynd o amgylch Llyn Garda.
5. Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
- Siarad gormod a chymryd gormod o amser i baratoi yn y bore
- Yn ôl Hazel rwy’n greadur ffysi a rhy fyrbwyll
- Un o’r rhai olaf i fynd adre, yn enwedig mewn cwmni da!
6. Beth sydd yn dy wylltio?
- Anghofio pethau na ddylwn i (lle flynydde nôl fyddwn i ddim)
- Palmentydd ac ochre hewlydd yn llawn o ddeilach sydd, yn ystod yr hydref / gaeaf, yn edrych fel dom gwartheg oherwydd y diffyg glanhau.
7. Beth am rannu rhywbeth diddorol gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
Pan yn gweithio i ROSPA edryches i ar ôl Dave Prowse (Darth Vader cynta Star Wars) pan oedd yn lansio ‘Rheolau’r Groes Werdd’ i blant. Ro’n i’n falch ei fod yn gyfarwydd â phlygu ei ben wrth fynd trwy’r drysau gan ei fod yn 6’8’’ o daldra. Penderfynu mynd i Glwb Rygbi Aberystwyth un noson a chytuno i’w gyflwyno fel ‘Bailiff’ newydd, gan wybod fod rhai o’r chwaraewyr yn botshwyr. Gan fod neb wedi ei adnabod fe lyncwyd y stori. A thipyn o holi hefyd gan y swyddogion a’r capten a oedd ishe gwybod a oedd wedi cael profiad yn yr ail reng. Hwyl go iawn!
8. Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
- Mae sawl un! Heb amheuaeth yr enwocaf yw Syr Anthony Hopkins pan oeddwn yn gweithio fel ei warchodwr adeg ffilmio’r gyfres ‘Selected Exits of Gwyn Thomas’. Doedd dim llawer o amser hamdden ganddo, gan ei fod yn manteisio ar y cyfle i weld ei fam yn Mhort Talbot.
- Cefais fwy o amser personol gyda Daniel Travanti (Hill Street Blues) yn ei gludo o amgylch yn ei amser hamdden, er enghraifft, cerdded Pen-Y-Fan, godro’r geifr ar fferm rhieni Hazel, mwynhau Dinbych y Pysgod, Caerfaddon a’r Gelli Gandryll. Doedd e ddim wedi gweld lle tebyg i Gastell Carreg Cennen! Roedd Hywel y nai yn falch iawn bod Daniel Travanti yn bresennol yn Aberhonddu pan gafodd ei gap rygbi dan 18 i Gymru.
- Heb anghofio James Gandolfini oedd yn enwog am ei bortread o Tony Soprano yn y gyfres deledu enwog. Fe gwrddon ni fe a rhai o’r cast mewn stiwdios yn New Jersey, profiad bythgofiadwy.
- A Dave Prowse wrth gwrs!
9. Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn.
- Roedd Hazel a finne yn amal yn nyddie cynnar sefydlu Bwyty Elgano yn mynd i Balti Walah ar Cowbridge Rd ac yn cynllunio gweithgareddau’r busnes yno. Hazel yn hoffi Indian a chwrw Bangla. Felly bydde pryd yn India Gate yr Eglwys Newydd yn braf er mwyn hel atgofion.
- Neu beth am gawl minestrone, stecen ‘rib eye’ a mwstard go iawn, taten bob ac amryw o lysiau, bara garlleg fel yr arferiad yn Champers, St Mary Street. A hynny yng nghwmni ffrindie gwerth chweil yn sicrhau nosweth i’w chofio a digon o egni i ganu gobeitho cyn clwydo.
10. Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden.
- Seiclo a cherdded llwybrau hyfryd Parc Pontcanna, cwrdd am goffi gyda ffrindie.
- Dw i eisiau darllen rhagor am hanes aelode teulu Mam a aeth mewn cwch o lannau Aberaeron i Lerpwl ac wedyn hwylio a sefydlu eu cartrefi o amgylch Oakhill, Gallipolis ar lan afon Ohio yn 1834. Rwy’n edmygu eu dewrder, eu cryfder meddyliol a’u hagwedd benderfynol wrth iddynt sicrhau llwyddiant arbennig.
- Addurno’r tŷ pan fydd hwyl arna i!
11. Pa raglenni teledu wyt ti’n mwynhau eu gwylio?
Rhaglenni Iolo, Simon Reeves, Ben Fogle, Rick Stein, Michael Palin. Hefyd Silent Witness, Death in Paradise, rygbi wrth gwrs. Os nad yn ymarfer, Country File a’r Antique Show ar nos Sul.
12. Beth yw dy hoff lyfrau. Pwy yw dy hoff awduron
- Llyfre hanes Cymry llwyddiannus poblogedd ein cyfnod ni a chwaraewyr rygbi y 70au, pobol fel Willy-John McBride a Dai Llanilar
- Mynydd Bach (golygydd Eirian Jones) – llyfr yn cynnwys hanes bywyd tlawd ei thrigolion yn cynnwys y rhai wnaeth ymfudo i UDA o ddechrau 1830 tan 1849.
- Llyfre Alun Wyn Bevan, wrth gwrs!
13. Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?
Bydde Côr Meibion Taf yn canu’r ffefrynne yn plesio’n fawr.
14. Pe baet ti’n Brif Weinidog Cymru pa freuddwyd fyddet ti eisiau ei gwireddu gyntaf?
- Rhoi’r un cyfle a chyfleusterau i bawb yng Nghymru
- Sicrhau bod y cynghore yn cymryd cyfrifoldeb am dorri coed ac atgyweirio palmentydd yn ein trefi ac yn casglu sbwriel yn rheolaidd.
15. Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?
John Thomas (baritôn) – wedi byw am gyfnod yn Nhregaron a nawr yn gymydog a ffrind da.
