Aelod o adran y baritoniaid
  1. Rho grynodeb i ni o dy gefndir. Beth ddaeth â ti i’r ardal hon (dalgylch CMT)?

Cefais fy magu yn Rhuthun a bûm yn ddisgybl yn Ysgol PenBarras, Rhuthun a wedyn Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug.  Nes i ddod Gaerdydd i astudio Peirianneg Sifil, ac ar ôl graddio fe ges i swydd yn Nghasgwent. Dw i wedi bod yn byw yn ardal Treganna ers dros ugain mlynedd bellach.

  1. Beth yw dy atgof cynharaf?

Mynd efo Dad i Cerrigydrudion bob bore Sadwrn. Roedd Dad yn gyfrifol am dîm pel droed y pentre – gosod rhwydi, peintio llinellau ar y cae, gosod y kit a rhedeg y llinell.

  1. Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Cydwybodol, amyneddgar a chall!

  1. Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?

Dwi dal i feddwl am Rhuthun fel adre a does dim byd gwell na mynd nôl i Ddyffryn Clwyd! Fy hoff wlad ydy’r Eidal – wedi bod yno lawer gwaith ac yn mwynhau yr amrywiaeth – y mynyddoedd, y llynoedd, y traethau, y dinasoedd, y bwyd ar diodydd!

  1. Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?

Gadael dillad budr ar y llawr!

  1. Beth sydd wir yn dân ar dy groen di?

“It’s coming home”

  1. Beth am rannu rhywbeth gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?

Fi gynlluniodd y bont gerdded sy’n codi drôs yr Afon Elai yn Mhenarth (Pont y Werin), y bont ffordd newydd dros ardal y dociau ym Mae Caerdydd a’r bont gerdded dros yr Afon Taf yng Ngerddi Soffia – ac ydi mae’r bont honno i fod i fownsio!!

  1. Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?

Nes ddim cyfarfod Brian Clough, ond pan yn iau fy nhîm peldroed oedd Nottingham Forest. Cyn mynd i weld nhw am y tro cyntaf yn Everton, nes i sgwennu llythyr ato fo.  Collodd Forest y gêm ond ges i lythyr nôl gan Brian Clough yn ystod yr wythnos wedyn yn ymddiheuro am golli’r gêm!

  1. Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol? Gyda phwy byddet ti’n hoffi rhannu’r pryd hwn?

Ffan mawr o fwyd Eidaleg a dim byd gwell na neud pizza adre efo’r teulu.

  1. Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?

Dwi’n mwynhau bod allan – rhedeg, seiclo neu gerdded.

  1. Yn ystod y cyfnod clo pa raglenni teledu wyt ti wedi mwynhau eu gwylio?

Wedi mynd trwy ffilms “Marvel” i gyd efo fy merch a sawl cyfres ar Netflix fel Queens Gambit ac All or Nothing.

  1. 12.Beth yw dy hoff lyfr? Pwy yw dy hoff awdur?

Does gen i ddim un hoff lyfr ond yn darllen amrywiaeth o bethau – o lyfrau am chwaraeon i nofelau antur.

  1. Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?

Dim yn siŵr pa mor addas i wrando ar ynys bellennig ond wedi tyfu fyny yn gwrando ar fandiau or 90degau fel Stone Roses, Oasis, a Red Hot Chilli Peppers. Hefyd yn mwynhau gwrando ar fandiau Cymraeg fel y Cyrff a SFA.

  1. Pan fydd y cyfnod clo drosodd beth wyt ti’n edrych ymlaen at ei wneud fwyaf?

Gweld teulu, trafeilio, gwando ar gerddoriaeth fyw, sinema a phopeth arall oedd yn mynd ymlaen cyn y cyfnod clo.

  1. Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?

Ed Williams (Tenor 2)