1. Rho grynodeb i ni o dy gefndir. Beth ddaeth â ti i’r ardal hon (dalgylch CMT)?
Fe’m ganwyd a/m magwyd yng Nghaernarfon. Ond rwy’n dipyn o fwngrel, Mam o Lanelli a Dad o Bwllheli. Ces fy addysg yn ysgol gynradd y bechgyn ac Ysgol Ramadeg Syr Huw Owen, Caernarfon . Ar ôl gadael yr ysgol gweithiais am 5 mlynedd efo Banc y Midland ym Mangor, Nefyn a Threffynnon cyn newid cyfeiriad a dod i Gaerdydd i goleg Cyncoed I hyfforddi’n athro. Bues ym myd addysg am amser hyd nes gorffen fy ngyrfa yn gweithio yn Sain Ffagan fel gofalwr / arolygwr.
2. Beth yw dy atgof cynharaf?
Roedd fy nhad yn aelod o griw diwylliedig iawn ac un o’r atgofion cynhara sy gen I oedd bod yng nghwmni Cynan yn ein bwthyn yng Nghwm Pennant pan oeddwn tua 6 oed.
3. Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Cymdeithasol. Cerddorol? Diog!
4. Beth yw dy hoff le di yng Nghymru / yn y byd?
Cei Caernarfon a Chwm Pennant. Ynysoedd y Galapagos
5. Oes gennyt ti unrhyw arferion drwg?
Ysmygu
6. Beth sydd wir yn dân ar dy groen di?
Boris
7. Beth am rannu rhywbeth gyda ni nad oes llawer o bobl yn ei wybod?
Fy nhad oedd y cyfieithydd swyddogol yn achos Saunders, Lewis Valentine a DJ yn yr Old Bailey yn Llundain.
8. Pwy yw’r person mwyaf nodedig gwrddest ti erioed?
Pan yn 10 oed ac yn y Wolf Cubs fe gwrddais â Lord Rowallan (y Chief Scout) yng nghastell Caernarfon.
9. Beth fyddai dy bryd o fwyd delfrydol?
Stecen a sglodion neu cyri weddol boeth.
10. Pan nad wyt ti’n dysgu repertoire CMT sut wyt ti’n mwynhau treulio dy amser hamdden?
Dwi’n treulio llawer o amser ar y cwrs golf ond hefyd yn gweithio sawl diwrnod yn Sain Ffagan o hyd ac yn dal i fwynhau yn fawr.
11. Pa raglenni teledu wyt ti wedi mwynhau eu gwylio?
Dwi’n hollol boring – gwylio hen raglenni chwaraeon o bob math.
12. Beth yw dy hoff lyfr? Pwy yw dy hoff awdur?
Wythnos yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis
13. Pa un darn o gerddoriaeth byddet ti’n ei ddewis i wrando arno ar ynys bellennig?
Cerddorieth y Dwr gan Handel
14. Nawr bod bywyd yn dychwelyd i ryw fath o drefn beth wyt ti’n edrych ymlaen at ei wneud fwyaf?
Cymdeithasu gyda’r côr, mynd i dafarn am beint a falle cael gwyliau dramor
15. Pwy wyt ti’n enwebu i gwblhau’r holiadur hwn nesa?
Irfon Bennett.